Back
Diweddariad gan Gyngor Caerdydd: 14 Mehefin 2022

Y diweddaraf gennym ni: cau ffyrdd a chyngor teithio ar gyfer cyngherddau Stereophonics a Tom Jones; wirfoddolwyr i ddod yn fodelau rôl cadarnhaol i blant a phobl ifanc; a Blodau Haul y ddinas yn blodeuo gyda gofal a sylw Jane.

 

Cau ffyrdd a chyngor teithio ar gyfer cyngherddau Stereophonics a Tom Jones ar 17 a 18 Mehefin

Bydd Stereophonics a Tom Jones yn perfformio yn Stadiwm Principality ddydd Gwener 17 Mehefin a dydd Sadwrn 18 Mehefin ac er mwyn hwyluso'r digwyddiadau hyn, bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau ar sail iechyd a diogelwch er mwyn sicrhau y gall pobl fynd i mewn i'r stadiwm yn ddiogel a'i adael ar ôl y cyngherddau.

Ar 17 Mehefin, bydd holl ffyrdd canol y ddinas ar gau o 2.30pm tan 12.30am. Ddydd Sadwrn 18 Mehefin, bydd y ffyrdd yn cael eu cau ychydig yn gynharach, o 12pm tan 12.30am.

Cynghorir yn gryf i'r rheiny sy'n mynd i'r cyngherddau hyn deithio i'r ddinas yn gynnar, gadael bagiau mawr gartref a rhoi sylw i'r eitemau gwaharddedig a restrir yn  principalitystadium.wales  cyn iddynt deithio i mewn i'r ddinas.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29211.html

 

Rwy'n Gyfaill i Ti - mae Gwasanaethau Plant yn chwilio am wirfoddolwyr i ddod yn fodelau rôl cadarnhaol i blant a phobl ifanc

Mae'r Cynllun Cyfeillio Gwirfoddol yn paru unigolion sydd â pheth amser sbâr a'r awydd i roi rhywbeth yn ôl i'w cymuned gyda phlant saith i 18 oed sy'n ymwneud â'r Gwasanaethau Plant, a fyddai'n elwa ar gael dylanwad cadarnhaol allanol yn eu bywydau.

Mae cyfeillion gwirfoddol yn gweithio gyda pherson ifanc ar sail un i un, gan ddarparu cymorth ac anogaeth iddo. Gallai hyn gynnwys cynnwys person ifanc yn rheolaidd mewn gweithgareddau hamdden neu chwaraeon, eu hannog i ddatblygu eu diddordebau a'u hobïau neu helpu i feithrin eu hyder a'u hunan-barch.

Mae'r cyfaill gwirfoddol, Ben, yn dweud bod cymryd rhan yn y cynllun nid yn unig wedi helpu'r person ifanc y bu'n gweithio gydag ef ond yn ei alluogi i ddatblygu ei yrfa ym maes gofal cymdeithasol.

Meddai Ben: "Cymerais ran yn y rhaglen cyfeillio gan fy mod i eisiau newid gyrfa ac roeddwn i eisiau mynd i mewn i'r maes gofal cymdeithasol. Ar ôl y cyfnod hyfforddi cychwynnol o ychydig wythnosau, cefais fy mharu â pherson ifanc a oedd yn dioddef o orbryder ac nad oedd yn mynd allan yn y gymuned rhy lawer.

"Ar ôl cyfarfod ag e, fe ddywedodd wrthyf gymaint roedd e'n mwynhau trampolinio, felly fe wnes i fynd ag e i barc trampolîn unwaith yr wythnos. Wrth i'r wythnosau fynd rhagddynt, sylwais fod y person ifanc yn dod yn fwy hyderus ac yn rhyngweithio â mwy o bobl ifanc yn ystod y sesiynau.

"Cefais gefnogaeth lawn gan Martine yn ystod yr holl broses a byddwn yn cyfarfod â hi bob mis i drafod sut roedd pethau'n mynd. Ers gwneud y gwaith gwirfoddoli rwyf wedi sicrhau swydd amser llawn fel gweithiwr cymorth yn y sector gofal cymdeithasol."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29157.html

 

Blodau Haul y Ddinas yn blodeuo gyda gofal a sylw Jane

Efallai eu bod yn dechrau eu bywydau yn y tywyllwch fel hadau unig, ond os rhowch ddigon o anogaeth  gofal iddynt a'u rhoi yn yr amgylchedd cywir, gall blodau'r haul dyfu'n gryf ac yn uchel - a harddu unrhyw ardd.

Felly, i Jane Clemence, un o swyddogion cynhwysiant cymunedol ymroddedig Cyngor Caerdydd, dim ond un enw fyddai'n gwneud y tro ar gyfer ei grŵp o unigolion y cawson nhw eu gwahanu oddi wrth ei gilydd ar ddechrau'r pandemig - Clwb Blodau'r Haul.

"Daethon ni at ein gilydd yn wreiddiol drwy rhwydwaith Hybiau Caerdydd cyn y pandemig," meddai Jane, y mae ei gwaith fel rhan o'r Gwasanaeth Cymorth Lles yn cynnwys trefnu gweithgareddau i ddod â'r henoed a'r sawl sydd wedi eu hynysu at ei gilydd.

"Roeddwn i'n arfer cynnal sesiynau amrywiol yn Hyb Partneriaeth Tredelerch yn Heol Llansteffan ac mewn canolfannau eraill yn Llanrhymni, Llaneirwg a Llanedern i gadw pobl yn actif a'u cael allan o'u cartrefi a chymdeithasu," meddai. "Roedd llawer ohonyn nhw ar eu pennau eu hunain, ar ôl colli eu gwragedd neu eu gwŷr, a phan ddaethon nhw aton ni roedd yn gyfle iddyn nhw gwrdd ag eraill mewn amgylchedd braf a chyfeillgar."

Yna, yng Ngwanwyn 2020, fe gollon nhw'r bywyd cymdeithasol hwn oherwydd y pandemig.
 

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29190.html