Back
Cau ffyrdd a chyngor teithio ar gyfer cyngherddau Stereophonics a Tom Jones ar 17 a 18 Mehefin

13/06/22
 
Bydd Stereophonics a Tom Jones yn perfformio yn Stadiwm Principality ddydd Gwener 17 Mehefin a dydd Sadwrn 18 Mehefin ac er mwyn hwyluso'r digwyddiadau hyn, bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau ar sail iechyd a diogelwch er mwyn sicrhau y gall pobl fynd i mewn i'r stadiwm yn ddiogel a'i adael ar ôl y cyngherddau.

Ar 17 Mehefin, bydd holl ffyrdd canol y ddinas ar gau o 2.30pm tan 12.30am. Ddydd Sadwrn 18 Mehefin, bydd y ffyrdd yn cael eu cau ychydig yn gynharach, o 12pm tan 12.30am.

Cynghorir yn gryf i'r rheiny sy'n mynd i'r cyngherddau hyn deithio i'r ddinas yn gynnar,gadael bagiau mawr gartref a rhoi sylw i'r eitemau gwaharddedig a restrir yn principalitystadium.wales cyn iddynt deithio i mewn i'r ddinas.

Cau ffyrdd

O 7am, bydd mynediad i Heol Scott a Heol y Parc yn cael ei reoli i sicrhau nad yw cerbydau'n parcio yn yr ardal cau ffyrdd.

Caiff y ffyrdd canlynol eu cau fel rhan o batrwm cau ffyrdd llawn canol y ddinas:

  • Ffordd y Brenin o'r gyffordd â Heol y Gogledd i'r gyffordd â Heol y Dug.
  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o'r gyffordd â Heol y Gadeirlan i'r gyffordd â Heol y Porth.
  • Stryd Tudor o'r gyffordd â Heol Clare i'r gyffordd â Stryd Wood (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr ar hyd Fitzhammon Embankment).
  • Plantagenet Street a Beauchamp Street o'r cyffyrdd â Despenser Place i'r cyffyrdd â Stryd Tudor (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr).
  • Bydd y ffyrdd canlynol ar gau'n gyfan gwbl: Heol y Dug, Stryd y Castell, Stryd Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, y Sgwâr Canolog, Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Heol y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott.
  • Bydd mynediad i fysus yn unig i Rodfa'r Orsaf a Stryd Guildford o'r gyffordd â Heol Casnewydd at y gyffordd â Ffordd Churchill yn ystod yr amseroedd cau ffyrdd. Bydd hyn er mwyn sicrhau bod mynediad dibynadwy i fysus at y mannau lloeren ar Ffordd Churchill.

Ychwanegiadau: 
Canolfan Ddinesig:Rheolir mynediad i ran o'r Ganolfan Ddinesig drwy'r dydd. Caniateir mynediad yn unig i barcio ar gyfer y digwyddiad, rhywfaint o barcio ar gyfer cymudwyr, llwytho a mynediad i feysydd parcio preifat.

Ymhlith y ffyrdd bydd hyn yn effeithio arnynt mae Rhodfa'r Brenin Edward VII, Rhodfa'r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi'r Orsedd.

Bydd Heol Penarth (cefn Gorsaf Drenau Caerdydd Canolog) o gyffordd Heol Eglwys Fair hyd at y fynedfa oddi ar Heol Penarth yn cau rhwng 9pm a hanner nos i helpu Trafnidiaeth Cymru gyda'r cefnogwyr ciwio.

Trenau

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cynnal amserlen lawn ac ni fydd unrhyw waith uwchraddio rheilffordd yn effeithio ar wasanaethau i mewn ac allan o Gaerdydd ar 17 a 18 Mehefin, ond bydd y gwasanaethau'n brysur iawn, felly rhowch ddigon o amser ar gyfer eich taith.  

Bydd ciwiau ar gyfer gwasanaethau'r brif linell ar y Sgwâr Canolog a bydd ciwiau ar gyfer gwasanaethau'r Cymoedd y tu cefn i'r orsaf.

Ewch i tfw.cymru neu'r ap Trafnidiaeth Cymru newydd i gael y wybodaeth ddiweddaraf am deithio.

Os bydd gennych unrhyw broblemau ar y rheilffordd, siaradwch â'r swyddog tocynnau, neu ar gyfer materion mwy difrifol gallwch anfon neges destun at Heddlu Trafnidiaeth Prydain ar 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 .  Ffoniwch 999 mewn argyfwng bob tro.

Parcio ar ddydd y Digwyddiad yn y Ganolfan Ddinesig

Cyrraedd yno: Gadewch wrth Gyffordd 32 yr M4, ewch tua'r de ar yr A470 i ganol y ddinas a dilyn yr arwyddion i'r ganolfan ddinesig.

Cost: £15 yn daladwy ar y diwrnod yn y maes parcio - mae taliadau cerdyn hefyd ar gael nawr.

Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos. 

Parcio ar ddydd y Digwyddiad yn y Ganolfan Ddinesig (Bysus)

Mae £25 yn daladwy ar y diwrnod (arian parod yn unig) 

Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos. 

Cyfleusterau Parcio a Theithio

Bydd y cyfleuster parcio a theithio ar gyfer y digwyddiadau hyn ym maes parcio Neuadd y Sir ym Mae Caerdydd .

Mae'r cyfleuster yn hawddeigyrraedd o'r M4, drwy adael wrth gyffordd 33, a theithio i lawr y ffordd gyswllt (A4232).

Bydd bysiau'n rhedeg yn ôl ac ymlaen i ganol y ddinas bob 10 munud cyn i'r cyngherddau ddechrau. Cost: £10 yn daladwy ar y diwrnod - mae taliadau cerdyn ar gael nawr hefyd.

Mae'r maes parcio'n agor yn 10.30am a bydd y bws cyntaf yn gadael am 11am. Bydd y bws olaf o ganol y ddinasam ganol nosa bydd y maes parcio'n cau am 12.05am

Parcio ar gyfer y Digwyddiad yng Ngerddi Sophia

Gerddi Sophia (ceir)

(Tua 0.5 milltir o gerdded i Stadiwm Principality, Gât 2).

Parcio ar gyfer y Digwyddiad yng Ngerddi Sophia

Cyrraedd yno: Gadewch wrth gyffordd 32 yr M4.

Cost: £15 yn daladwy ar y diwrnod yn y maes parcio - mae taliadau cerdyn ar gael nawr hefyd.

Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8.00am ac yn cau am hanner nos.

Sylwer: Bydd staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan 7.00pm. Gadewir pob cerbyd ar y safle ar risg y perchennog. Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo personol. Cyflwynir dirwy i unrhyw gerbydau sy'n cael eu gadael yn y maes parcio ar ôl yr amser cau.

Bws

Bysus lleol:

Caiff gwasanaethau bws eu dargyfeirio tra bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau

Ewch i wefan y gweithredwr bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybrau bws penodol.

Ar gyfer gwasanaethau Stagecoach, ewch i:  Croeso i Stagecoach (stagecoachbus.com)

Ar gyfer gwasanaethau Bws Caerdydd, ewch i:https://www.cardiffbus.com/principality-stadium

Am ragor o wybodaeth am wasanaethau NAT, ewch i:https://www.natgroup.co.uk/

National Express:
 
Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel yr arfer.  

Allwch chi feicio neu gerdded?

Gall y rheini sy'n byw yng Nghaerdydd feicio neu gerdded.Mae ymchwil yn dangos bod 52% o'r teithiau car ym mhrifddinas Cymru yn llai na 5km o hyd.  Mae hwn yn bellter y gellir ei feicio yn braf mewn 20 munud.

Gwyddom hefyd fod 28% o drigolion Caerdydd nad ydynt yn beicio ar hyn o bryd yn dymuno gwneud hynny.

Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd, mae hyn yn gwneud beicio yn ddewis mwy atyniadol fyth gan y byddai teithio ar feic yn gynt na char ar yr oriau brig neu yn ystod digwyddiadau mawr.

Parcio i Siopwyr

Argymhellir i siopwyr ddefnyddio'r safleoedd Parcio a Theithio penodol ym Mhentwyn neu Neuadd y Sir. Neu mae meysydd parcio ar gael yng nghanol y ddinas hefyd: Meysydd Parcio Heol y Gogledd; Canolfan Siopa Dewi Sant; John Lewis; Canolfan Siopa Capitol ac NCP (Stryd Adam, Plas Dumfries a Heol y Brodyr Llwydion)

Parcio i Bobl Anabl

Argymhellir bod gyrwyr anabl yn defnyddio Gerddi Sophia. Mae lleoedd parcio i bobl anabl hefyd ar gael mewn meysydd parcio preifat amrywiol.

Gweler argaeledd ar wefannau unigol.

Tacsis

Bydd safle tacsis Heol Eglwys Fair (y tu allan i Dŷ Fraser) ar gau ar yr un pryd ag y bydd y ffyrdd ar gau. Felly, ddydd Gwener 17 Mehefin am 2.30pm a dydd Sadwrn 18Mehefinam 12 hanner dydd.