Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 10 Mehefin 2022

10/06/22


Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: Caerdydd yn ymuno â Rhwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Dinasoedd a Chymunedau sy'n Dda i Bobl Hŷn; Cyngor Caerdydd yn ystyried cynlluniau Llywodraeth Cymru i wella gwasanaethau bysus ledled Cymru;
plannu 20,000 o goed yn chwe mis cyntaf prosiect coedwig drefol Caerdydda lansiad y ‘Strategaeth Symud Mwy Caerdydd' i helpu trigolion i fod yn fwy actif.

Dathliad Ystyriol o Bobl Hŷn yn y Castell i nodi aelodaeth rhwydwaith byd-eang 


Roedd cerddoriaeth, dawnsio ac ymdeimlad o ddathlu yn llenwi tiroedd Castell Caerdydd heddiw mewn digwyddiad arbennig i nodi Caerdydd yn ymuno â Rhwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Dinasoedd a Chymunedau o Gyfleoedd i'r Henoed.

Y ddinas oedd y gyntaf yng Nghymru i ymaelodi â'r rhwydwaith ym mis Mawrth a dathlodd y cyflawniad mewn steil gyda pharti lansio swyddogol heddiw yn cynnwys perfformiadau gan Only Men Aloud, dawnswyr Rubicon a phlant o Ysgol Gynradd Millbank, Trelái.

Mwynhaodd y gwesteion, oedd yn cynnwys Hyrwyddwr Pobl Hŷn Caerdydd, y Cynghorydd Norma Mackie, a Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, Julie Morgan AoS a rhai o'n dinasyddion hŷn sy'n defnyddio gwasanaethau dydd y ddinas yr haul a'r awyrgylch o ddathlu.

Mae aelodaeth y ddinas o'r rhwydwaith hwn o Sefydliad Iechyd y Byd, a sefydlwyd yn 2010 i gysylltu dinasoedd, cymunedau a sefydliadau ledled y byd â'r weledigaeth gyffredin o wneud eu cymunedau'n lle gwych i heneiddio, yn ganlyniad i gydweithio helaeth â rhanddeiliaid ledled y ddinas gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, sefydliadau addysgol a sefydliadau'r trydydd sector.

Mwy yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29180.html

Angeni Lywodraeth Cymru ddiogelu cwmnïau bysus y ddinas, yn ôl Cyngor Caerdydd 

 

Mae cynlluniau Llywodraeth Cymru i wella gwasanaethau bysus ledled Cymru yn cael eu hystyried gan Gyngor Caerdydd.

Mae ymgynghoriad Papur Gwyn y llywodraeth, "Un rhwydwaith, un amserlen, un tocyn: cynllunio bysiau fel gwasanaeth cyhoeddus i Gymru", yn nodi cynigion sydd â'r nod o dyfu'r rhwydwaith bysus, diwallu anghenion y cyhoedd, sicrhau'r gwerth mwyaf am fuddsoddiad cyhoeddus mewn gwasanaethau bysus, a thorri'r ddibyniaeth ar geir preifat.

Bydd adroddiad i Gabinet Cyngor Caerdydd yn argymell bod y cyngor yn ymateb yn gadarnhaol i'r ymgynghoriad gan dynnu sylw at feysydd sy'n peri pryder y mae'r cyngor yn teimlo bod angen mynd i'r afael â hwy, gan gynnwys;

 

  • Rhagor o wybodaeth am gynlluniau ariannu hirdymor;
  • Mwy o eglurder ar gymorth i gwmnïau bysus y ddinas sy'n aml yn gweithredu llwybrau llai poblogaidd ond sy'n cael eu hosgoi gan gwmnïau sector preifat sy'n mynd ar drywydd elw;
  • Ystyried trefniadau trafnidiaeth ysgol nad ydynt yn cael eu cynnwys yn yr ymgynghoriad ar hyn o bryd;
  • Cyflwyno mesurau sy'n sicrhau mai cynghorau lleol sydd yn y sefyllfa orau i benderfynu sut y caiff llwybrau bysus lleol eu darparu gan gysylltu â chynlluniau ar gyfer safleoedd parcio a theithio a choridorau clyfar.

Mwy yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29205.html

20,000 o goed wedi'u plannu yn ystod 6 mis cyntaf prosiect coedwig ddinesig Caerdydd

20,000 o goed wedi'u plannu yn ystod 6 mis cyntaf prosiect coedwig ddinesig Caerdydd

Plannwyd 20,000 o goed newydd yn ystod 6 mis cyntaf prosiect deng mlynedd uchelgeisiol i greu coedwig ddinesig yng Nghaerdydd.

Mae prosiect Coed Caerdydd yn rhan o ymateb Cyngor Caerdydd i'r argyfwng hinsawdd gyda'r nod o gynyddu canopi coed Caerdydd o 18.9% i 25%.

Drwy weithio gyda chymunedau lleol, mae perllannau cymunedol newydd wedi cael eu plannu yn ystod y tymor plannu cyntaf, gyda rhywogaethau pwysig yn cael eu hadfer, cloddiau newydd yn cael eu creu, a channoedd o goed yn cael eu rhoi i gartrefi, grwpiau cymunedol ac ysgolion.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke-Davies: Mae coed yn hanfodol i iechyd ein dinas a'n planed. Mae coed Caerdydd eisoes yn amsugno 10.5% o'r llygryddion sy'n cael eu gollwng gan draffig ac yn cael gwared ar yr hyn sy'n cyfateb i allyriadau carbon blynyddol tua 14,000 o geir o'r atmosffer - ond os ydym am wireddu ein gweledigaeth o Gaerdydd carbon niwtral erbyn 2030 yna mae angen i ni blannu llawer mwy ohonynt.

Mwy yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29195.html

Lansio Strategaeth Symud Mwy Caerdydd i helpu Preswylwyr i Fod yn Actif

A allech chi ymysgwyd mwy yn gorfforol? O gerdded, beicio a gweithgarwch bywyd bob dydd, hyd at fyd y campau, mae Caerdydd eisoes yn ddinas llawn egni ac erbyn hyn mae strategaeth newydd Symud Mwy Caerdydd yn cael ei lansio i helpu trigolion i gyrraedd eu llawn botensial.

Mae Cyngor Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd wedi cysylltu partneriaid o bob rhan o'r system gyfan i ddatblygu strategaeth 5 mlynedd i gael Caerdydd i symud mwy. Bydd y strategaeth yn targedu pedwar maes gweithredu allweddol: systemau gweithredol, amgylcheddau gweithredol, cymdeithasau gweithgar, a phobl actif, gyda'r nod o leihau ymddygiad eisteddog a gwneud bod yn actif yn norm.

Wedi'i ddatblygu drwy 12 mis o drafod gyda rhanddeiliaid, mae Symud Mwy Caerdydd yn strategaeth weithgarwch corfforol a chwaraeon sy'n mabwysiadu ymagwedd systemau cyfan, gan wneud y gymuned yn greiddiol iddi, a chan ystyried y ddinas, ei photensial a'r rhwystrau i weithgarwch yn eu cyfanrwydd.

Mwy yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29186.html