10.06.22
Bydd Clive Sullivan, athletwr chwedlonol a aned yng
Nghaerdydd a fydd yn cael ei anfarwoli gyda cherflun newydd yn ei ddinas
enedigol, yn cael ei anrhydeddu yng Nghwpan Rygbi Gynghrair y Byd eleni.
Ganed Sullivan yn Sblot ym 1943, ac ef oedd y chwaraewr du cyntaf i gapteinio tîm cenedlaethol Prydeinig a'r gŵr olaf i arwain tîm Prydeinig i lwyddiant yng Nghwpan y Byd, lle gwnaeth ei gais rhyfeddol yn erbyn Awstralia ym 1972 helpu Prydain Fawr i ennill y teitl.
Er iddo farw o ganser ym 1985 yn ddim ond 42 oed, mae ei enwogrwydd yng Nghaerdydd ar sylfeini cadarn - mae wedi’i ddathlu’n un o 'Dorwyr Cod y Byd Rygbi’, y chwaraewyr a newidiodd yn ddadleuol o rengoedd amatur rygbi'r undeb i fod yn sêr cyflogedig yn rygbi'r gynghrair. Gwnaeth rhai frwydro yn erbyn hiliaeth a rhagfarn cyn cael eu dathlu’n arwyr yng ngogledd Lloegr.
Nawr bydd enwogrwydd Sullivan yn cyrraedd cenhedlaeth newydd o gefnogwyr rygbi'r gynghrair gan fod trefnwyr y twrnament eleni wedi enwi'r bêl a ddefnyddir ym mhob un o'r 61 gêm ar draws digwyddiadau'r dynion, menywod a chadair olwyn yn ‘Bêl Sully’.
Fe'i dadorchuddiwyd yn Stadiwm MKM, cartref Hull, lle mae Sullivan yn dal i fod y prif sgoriwr ceisiau erioed, ac mae'r anrhydedd yn cydnabod Sullivan fel un o chwaraewyr gorau Cymru sy'n cynrychioli gwerthoedd craidd y twrnament a hanes rygbi'r gynghrair ac yn cydnabod yr effaith sylweddol a gafodd ar y gamp.
"Byddai fy nhad wedi ei anrhydeddu o weld ei gyflawniadau'n cael eu cydnabod yn y ffordd hon," meddai Anthony Sullivan, sy’n gyn-chwaraewr rhyngwladol cod deuol ei hun. "Bydd yn arbennig iawn i’w deulu ei weld yn cael ei werthfawrogi fel hyn ac i'w enw gael effaith gadarnhaol ar genedlaethau'r dyfodol o fewn y gamp."
Yng Nghaerdydd, bydd Sullivan yn un o dri 'Thorrwr Cod' – ochr yn ochr â Billy Boston a Gus Risman, i gyd o ardaloedd Butetown a Tiger Bay yn y ddinas – sy’n serennu ar gerflun efydd enfawr sydd wrthi’n cael ei saernïo gan yr artist enwog Steve Winterburn. Bydd yn nodi'r cyfraniad i'r gamp a wnaed gan 13 o chwaraewyr, 'cewri Bae Caerdydd', a gafodd effaith enfawr ar rygbi'r gynghrair.
Dywedodd arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas, is-gadeirydd y pwyllgor sydd wedi codi £150,000 tuag at y cerflun hyd yma, ei fod wrth ei fodd bod anrhydedd ddiweddaraf Sullivan wedi dod ar adeg allweddol. "Bydd rownd gynderfynol gyntaf Cwpan y Byd yn cael ei chwarae ar 50 mlwyddiant cais gwych Clive yn erbyn Awstralia ac rwy'n siŵr y cawn ein hatgoffa o fawredd y foment.
"Rydyn ni fel cyngor wedi ymrwymo i anrhydeddu'r holl Dorwyr Cod, a bydd y cerflun yn sefyll yn falch mewn lleoliad allweddol ym Mae Caerdydd gan sicrhau nad yw eu straeon, na stori'r gymuned amlddiwylliannol falch a bywiog a helpodd i'w siapio – byth yn cael eu hanghofio."
I gael rhagor o wybodaeth am y Torwyr Cod ac i
wneud cyfraniad tuag at y cerflun, ewch i www.torwyrcodybydrygbi.co.uk/cy