Back
Blodau Haul y Ddinas yn blodeuo gyda gofal a sylw Jane

09.06.22
Efallai eu bod yn dechrau eu bywydau yn y tywyllwch fel hadau unig, ond os rhowch ddigon o anogaeth
  gofal iddynt a'u rhoi yn yr amgylchedd cywir, gall blodau'r haul dyfu'n gryf ac yn uchel – a harddu unrhyw ardd.

Felly, i Jane Clemence, un o swyddogion cynhwysiant cymunedol ymroddedig Cyngor Caerdydd, dim ond un enw fyddai’n gwneud y tro ar gyfer ei grŵp o unigolion y cawson nhw eu gwahanu oddi wrth ei gilydd ar ddechrau’r pandemig - Clwb Blodau’r Haul.

"Daethon ni at ein gilydd yn wreiddiol drwy rhwydwaith Hybiau Caerdydd cyn y pandemig," meddai Jane, y mae ei gwaith fel rhan o'r Gwasanaeth Cymorth Lles yn cynnwys trefnu gweithgareddau i ddod â'r henoed a'r sawl sydd wedi eu hynysu at ei gilydd.

"Roeddwn i'n arfer cynnal sesiynau amrywiol yn Hyb Partneriaeth Tredelerch yn Heol Llansteffan ac mewn canolfannau eraill yn Llanrhymni, Llaneirwg a Llanedern i gadw pobl yn actif a'u cael allan o'u cartrefi a chymdeithasu," meddai. "Roedd llawer ohonyn nhw ar eu pennau eu hunain, ar ôl colli eu gwragedd neu eu gwŷr, a phan ddaethon nhw aton ni roedd yn gyfle iddyn nhw gwrdd ag eraill mewn amgylchedd braf a chyfeillgar."

Yna, yng Ngwanwyn 2020, fe gollon nhw’r bywyd cymdeithasol hwn oherwydd y pandemig.

"Tuag wythnos cyn hynny, cefais lawdriniaeth ar fy mhen-glin ac roeddwn i'n gaeth i'r tŷ hefyd," meddai Jane, "felly roedd yn rhaid i ni feddwl am sut i gadw pobl gyda'i gilydd – yn rhithiol, os nad yn gorfforol.

"Gweithiais gyda Joanne Davies, un o fy nghydweithwyr yn nhîm Gwasanaethau Byw'n Annibynnol y cyngor, a oedd yr un mor benderfynol ag oeddwn i o gadw pobl gyda'i gilydd."

Eu hateb i ddechrau oedd defnyddio pŵer WhatsApp i gadw pawb mewn cysylltiad â'i gilydd ond pan roddodd Ymddiriedolaeth Neuadd Llanrhymni 100 o gyfrifiaduron llechi i'r Hyb, a’r cyngor yn cynnig cymorth TG, dechreuodd Jane gynnal sesiynau ymarfer corff rhithwir y gallai pobl ymuno â nhw.

"Yn 2021, fel rhan o Ŵyl Lles y Gwanwyn, penderfynwyd rhoi hadau blodau haul i bawb oedd yn bresennol," meddai Jane. "Fe wnaethon ni annog pawb i'w plannu gartref a phob dydd Iau, drwy Teams, bydden ni’n eu cymharu, yn mesur eu taldra ac yn gweld sut roedd pawb yn dod yn eu blaen... aeth hyn ymlaen am saith mis."

Wrth i'r cyfyngiadau gael eu llacio, gwnaeth y grŵp – bellach dan yr enw Clwb Blodau'r Haul – ailymddangos yn raddol a, gyda chymorth cyllid y cyngor, grant gan y Bartneriaeth Gwastadeddau Byw, yn ogystal â gwerth £7,000 o blanhigion ac offer gan y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB) fel rhan o'i rhaglen Natur ar Garreg eich Drws, fe wnaethon nhw ymgasglu yn Nhredelerch i roi'r sgiliau garddio yr oedden nhw wedi'u dysgu yn ystod y cyfnod clo ar waith.

"Tredelerch oedd yr unig Hyb gyda man awyr agored addas – roedd yn berffaith ar gyfer Clwb Blodau'r Haul," meddai Jane. "Yn gyntaf, fe wnaethon ni drawsnewid ardal patio fach a'i gwneud yn lle braf i gael te. Roedd rhyw chwech neu wyth i ddechrau, gan fod pobl yn dal i fod braidd yn amheus o fynd allan, ond tyfodd y niferoedd a dechreuodd pobl ddod o bob cwr o Gaerdydd i ymuno â ni, ar ôl clywed amdano gan eu ffrindiau.

"Gyda chymorth yr RSPB, fe wnaethon ni greu gwelyau blodau uchel, tŷ gwydr, silffoedd a chasgen ddŵr ac fe wnaethon nhw roi llawer iawn o blanhigion a hadau i ni i helpu gyda'n prosiectau.

"Yn yr ail gyfnod clo roedden ni’n gallu cwrdd yn yr awyr agored felly roedden ni dal wrthi, ac erbyn hyn mae rhyw 16 yn dod yn rheolaidd.  Mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw’n oedrannus ac yn byw ar eu pennau eu hunain ond daw rhai o ganolfan leol ar gyfer pobl ag anableddau dysgu, ynghyd â'u gweithwyr cymorth.

"Ac nid dim ond am yr ardd rydyn ni’n gofalu yma," meddai Jane. "Rydyn ni'n cael sesiynau iechyd rheolaidd ac mae pobl yn dod i chwarae gemau, yn gwneud celf a chrefft neu ddim ond eistedd a chael sbort."

Nid oes amheuaeth gan y rhan fwyaf o'r Clwb Blodau Haul y byddai eu bywydau'n waeth o lawer heb ymroddiad Jane a'i chydweithwyr. "Collais fy ngwraig ym mis Mehefin y llynedd," meddai Colin Fleming, 77, cyn-bostmon o Lanedern. "Roedd fy ngalar yn llethol ond dechreuais ddod yma chwe mis yn ôl ac mae wedi rhoi rheswm i fi godi yn y bore.

"Rwy'n gwneud Tai Chi, 'Cwrdd ar ddydd Llun' yn Llanrhymni, yn cyrlio ac ar ddydd Mawrth mae Jane yn arwain taith gerdded mewn parciau ac ardaloedd hyfryd eraill o'r ddinas. Hebddi hi a'r clwb hwn, dydw i ddim wir yn meddwl y byddwn i'n dal yma."

Ac mae wedi trawsnewid Jane hefyd. Yn 55 oed, wedi gweithio gyda’r cyngor ers dros 35 mlynedd a’i gŵr eisoes wedi ymddeol, roedd hi'n ystyried rhoi'r gorau i'w gwaith cyn y pandemig. "Mae hyn yn sicr wedi fy newid er gwell," meddai. "Mae wedi bod yn braf iawn gweld y daith y mae'r bobl hyn i gyd wedi bod arni a bu’n fraint bod yn rhan ohoni. Mae wedi gwneud i fi syrthio mewn cariad â fy swydd unwaith eto ac rwyf wastad yn edrych ymlaen mynd i mewn i’r gwaith.”