Back
Lansio Strategaeth Symud Mwy Caerdydd i helpu Preswylwyr i Fod yn Actif
A allech chi ymysgwyd mwy yn gorfforol? O gerdded, beicio a gweithgarwch bywyd bob dydd, hyd at fyd y campau, mae Caerdydd eisoes yn ddinas llawn egni ac erbyn hyn mae strategaeth newydd Symud Mwy Caerdydd yn cael ei lansio i helpu trigolion i gyrraedd eu llawn botensial.

Mae Cyngor Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd wedi cysylltu partneriaid o bob rhan o'r system gyfan i ddatblygu strategaeth 5 mlynedd i gael Caerdydd i symud mwy. Bydd y strategaeth yn targedu pedwar maes gweithredu allweddol: systemau gweithredol, amgylcheddau gweithredol, cymdeithasau gweithgar, a phobl actif, gyda'r nod o leihau ymddygiad eisteddog a gwneud bod yn actif yn norm.

Wedi'i ddatblygu drwy 12 mis o drafod gyda rhanddeiliaid, mae Symud Mwy Caerdydd yn strategaeth weithgarwch corfforol a chwaraeon sy'n mabwysiadu ymagwedd systemau cyfan, gan wneud y gymuned yn greiddiol iddi, a chan ystyried y ddinas, ei photensial a'r rhwystrau i weithgarwch yn eu cyfanrwydd.

Mae'r strategaeth wedi dwyn ynghyd uwch arweinwyr o bob rhan o'r ddinas a all ddylanwadu ar benderfyniadau, polisïau a chydweithio a chael effaith ar ba mor actif yw trigolion unigol, waeth pwy ydynt, waeth beth fo’r lleoliad neu lefel y gweithgarwch. 

Dwedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd a Chadeirydd grŵp Arweinyddiaeth Symud Mwy Caerdydd, y Cyng Huw Thomas: "Mae Caerdydd yn ddinas chwaraeon balch ac actif iawn. Does dim rhaid i chi fynd yn bell i weld pobl yn cerdded, yn rhedeg neu’n beicio'n rheolaidd drwy ein dinas hardd. Mae gennym glybiau chwaraeon hynod angerddol o rai ar lawr gwlad i'n clybiau proffesiynol.

"Bydd lansio'r strategaeth Symud Mwy yn ein galluogi i gysylltu'r system gyfan, gan helpu ein cymunedau i symud mwy, yn eu ffordd eu hunain, fel y gallent elwa ar fanteision hysbys iechyd a lles gweithgarwch corfforol, a helpu Caerdydd i ddod yn un o'r dinasoedd mwyaf actif yn y gwledydd hyn ac i fagu enw’n rhyngwladol fel dinas actif.”

Ar 8 Mehefin, mae Symud Mwy Caerdydd yn lansio gyda digwyddiad sy'n dod â'r holl randdeiliaid hynny a mwy yn ôl at ei gilydd i drafod y strategaeth, y nodau a'r camau nesaf.  Gyda chyfarfodydd a gweithdai gweithgar, areithiau a thrafodaethau, bydd sgyrsiau yn y lansiad i gyd yn ymwneud ag un nod cyffredin: cael Caerdydd i symud mwy ar raddfa sy'n addas ac yn gyraeddadwy i'r holl breswylwyr.

Gallwch ddysgu rhagor am Symud Mwy Caerdydd, y strategaeth a sut y gallwch chi gymryd rhan drwy fynd i wefan MakeYourMove.org.uk/movemorecardiff heddiw.

Awydd rhoi cynnig arni?  Cysylltwch â ni yn y cyfeiriad e-bost canlynol: movemorecardiff@cardiffmet.ac.uk.