Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: "Gosodwyd hysbyseb yn y Western Mail ar 27 Mai 2022 gan Gyngor Caerdydd o dan adran 123 Deddf Llywodraeth Leol 1972, yn amlinellu cynnig i waredu 59,000 metr sgwâr o dir ym Mharc Hailey. Dylai'r hysbyseb fod wedi cyfeirio at 1,500 metr sgwâr.
"Mae'r gwarediad arfaethedig ar gyfer Prydles Gymunedol i alluogi clwb chwaraeon lleol i sicrhau cyllid grant i alluogi buddsoddiad i fynd rhagddo yn yr ystafelloedd newid presennol ac i ddarparu cynllun draenio ar gyfer y ddau gae chwarae cyfagos a ddangosir yn las. Byddai'r tir yn parhau i fod ym mherchnogaeth y cyngor ac i fod yn hollol glir, ni fyddai unrhyw fannau gwyrdd yn cael eu colli, os cytunir ar y cynnig.
"Mae'r Brydles Gymunedol ond yn ymwneud â'r ystafelloedd newid, y maes parcio a'r ffordd fynediad bresennol, a ddangosir yn goch ar y cynllun, sy'n 1,500 metr sgwâr, ac nid y parc cyfan fel yr awgrymwyd yn wreiddiol.
"Mae'r Cyngor yn ceisio sylwadau ar y cynnig i brydlesu'r tir i'r clwb chwaraeon lleol cyn bwrw ymlaen â'r cynnig."