Back
Wythnos Gofalwyr yn hybiau a llyfrgelloedd Caerdydd


6/6/22

Cynhelir sesiwn galw heibio arbennig i ofalwyr, a gynhelir gan Carers UK, yn Hyb Rhydypennau ddydd Iau 9 Mehefin.

 

Yn ystod yr Wythnos Gofalwyr flynyddol (Mehefin 6 -12), bydd y digwyddiad yn gyfle i unrhyw un sydd â chyfrifoldebau gofalu gyfarfod, sgwrsio a chael gafael ar gymorth, wedi'i hwyluso gan Dîm Cymorth Gwrando Gofalwyr Cymru.

 

Bydd y tîm ar gael yn yr hyb rhwng 10am a 4pm ac mae'r sesiwn yn un o nifer o ddigwyddiadau ar thema gofalwyr sy'n cael eu cynnal mewn hybiau a llyfrgelloedd ledled y ddinas yn ystod Wythnos Gofalwyr.

 

Bydd boreau coffi rheolaidd a Grwpiau Ffrindiau a Chymdogion) yn canolbwyntio ar ofalu, pwy rydym yn gofalu amdanynt a sut.  Bydd y gwasanaeth hefyd yn tynnu sylw at fanteision rhai o'i weithgareddau ar-lein wythnosol - fel sesiynau ymwybyddiaeth ofalgar ac ymarfer corff ysgafn, i ofalwyr a'r rhai y maent yn gofalu amdanynt.

 

Bydd Academi Gofal Caerdydd, gwasanaeth hyfforddi a recriwtio'r Cyngor sy'n rhoi'r holl hyfforddiant a chefnogaeth sydd ei angen ar bobl sydd am ddod yn weithwyr gofal yn y ddinas i fynd i mewn i'r rôl, hefyd yn ymweld â hybiau i ddarparu gwybodaeth a chyngor i unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am gyfleoedd yn y sector.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Oedolion, y Cynghorydd Norma Mackie:  "Mae gofalwyr yn chwarae rhan bwysig iawn yn ein dinas, boed yn ofalwyr di-dâl sy'n gofalu am rywun annwyl neu gymydog na all ymdopi hebddynt, neu'r gweithwyr gofal gwych sy'n cefnogi'r rhai sy'n agored i niwed a'r henoed bob dydd.

"Nid yw llawer o bobl sy'n gofalu yn ystyried eu hunain yn ofalwyr ac nid ydynt yn gwybod am yr amrywiaeth o gyngor a chymorth sydd ar gael i'w helpu yn eu rôl gofalu. Mae ein sesiynau ymwybyddiaeth mewn hybiau a llyfrgelloedd yn ceisio sicrhau bod gofalwyr yn gwybod sut i gael gafael ar y cymorth hwn tra bydd y sesiynau coffi a grwpiau anffurfiol yn gyfle i rannu profiadau gydag eraill."

 

I gael mwy o wybodaeth am ddigwyddiadau a gweithgareddau Wythnos Gofalwyr yn eich hyb neu eich llyfrgell leol, ewch iwww.hybiaucaerdydd.co.uk