1/6/22
Mae Gwasanaethau Plant Caerdydd yn chwilio am wirfoddolwyr i ddod yn fodelau rôl cadarnhaol i blant a phobl ifanc yn y ddinas.
Mae'r Cynllun Cyfeillio Gwirfoddol yn paru unigolion sydd â pheth amser sbâr a'r awydd i roi rhywbeth yn ôl i'w cymuned gyda phlant saith i 18 oed sy'n ymwneud â'r Gwasanaethau Plant, a fyddai'n elwa ar gael dylanwad cadarnhaol allanol yn eu bywydau.
Mae cyfeillion gwirfoddol yn gweithio gyda pherson ifanc ar sail un i un, gan ddarparu cymorth ac anogaeth iddo. Gallai hyn gynnwys cynnwys person ifanc yn rheolaidd mewn gweithgareddau hamdden neu chwaraeon, eu hannog i ddatblygu eu diddordebau a'u hobïau neu helpu i feithrin eu hyder a'u hunan-barch.
Mae'r cyfaill gwirfoddol, Ben, yn dweud bod cymryd rhan yn y cynllun nid yn unig wedi helpu'r person ifanc y bu'n gweithio gydag ef ond yn ei alluogi i ddatblygu ei yrfa ym maes gofal cymdeithasol.
Meddai Ben: "Cymerais ran yn y rhaglen cyfeillio gan fy mod i eisiau newid gyrfa ac roeddwn i eisiau mynd i mewn i'r maes gofal cymdeithasol. Ar ôl y cyfnod hyfforddi cychwynnol o ychydig wythnosau, cefais fy mharu â pherson ifanc a oedd yn dioddef o orbryder ac nad oedd yn mynd allan yn y gymuned rhy lawer.
"Ar ôl cyfarfod ag e, fe ddywedodd wrthyf gymaint roedd e'n mwynhau trampolinio, felly fe wnes i fynd ag e i barc trampolîn unwaith yr wythnos. Wrth i'r wythnosau fynd rhagddynt, sylwais fod y person ifanc yn dod yn fwy hyderus ac yn rhyngweithio â mwy o bobl ifanc yn ystod y sesiynau.
"Cefais gefnogaeth lawn gan Martine yn ystod yr holl broses a byddwn yn cyfarfod â hi bob mis i drafod sut roedd pethau'n mynd. Ers gwneud y gwaith gwirfoddoli rwyf wedi sicrhau swydd amser llawn fel gweithiwr cymorth yn y sector gofal cymdeithasol."
Dywedodd Y Cynghorydd Ash Lister, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Plant: "Gall bod yn gyfaill gwirfoddol fod yn hynod werth chweil a gall yr effaith gadarnhaol y gall person ei chael ar fywyd plentyn neu berson ifanc fod yn aruthrol.
"Mae gan bob un o'r plant a'r bobl ifanc rydyn ni'neu cefnogi weithiwr cymdeithasol ac efallai bod ganddynt deuluoedd sydd angen cymorth arbennig. Efallai y bydd ganddynt ymddygiad anodd neu fod ganddynt anghenion emosiynol, addysgol neu anghenion penodol eraill, felly rydym yn chwilio am bobl amyneddgar, dibynadwy sy'n wrandawyr da ac sy'n gallu cynnig anogaeth i'w ffrindiau newydd i wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eu bywydau."
Rhaid i wirfoddolwyr allu ymrwymo i'r prosiect am o leiaf 6 mis ac yn ddelfrydol gallant dreulio ychydig oriau gyda'u person ifanc bob yn ail wythnos neu bythefnos.
Bydd angen gwiriad GDG manwl ar gyfeillion, dau eirda a rhaid iddynt gymryd rhan mewn rhaglen hyfforddi. Bydd yr holl gostau, gan gynnwys costau teithio a gweithgareddau, yn cael eu had-dalu.
Os hoffech wirfoddoli ar gyfer y cynllun cyfeillio neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at Martine:mrowe@caerdydd.gov.uk