Back
Diweddariad gan Gyngor Caerdydd: 24 Mai 2022

Y diweddaraf gennym ni: marchnad dan do Caerdydd yn ailagor gyda'r nos am y tro cyntaf ers y pandemig; grŵp theatr yn rhoi bywyd newydd i gymeriadau hanesyddol Caerdydd; a parc sglefrio newydd wedi'i gynnig ar gyfer Llanrhymni.

 

Marchnad dan do Caerdydd yn ailagor gyda'r nos am y tro cyntaf ers y pandemig

Bydd marchnad dan do hanesyddol Caerdydd yn ailagor gyda'r nos yr wythnos yma am y tro cyntaf ers 2019 wrth i'r ddinas barhau i ddychwelyd i normalrwydd ar ôl pandemig Covid-19.

Disgwylir i'r rhan fwyaf o'r stondinwyr gymryd rhan Ddydd Iau nesaf, 26 Mai, rhwng 6pm a 9pm a bydd dathlu yn yr awyr, gyda cherddoriaeth gan Daniel 'Dabs' Bonner o Gaerdydd, prif ganwr y New Town Kings, un o fandiau reggae/ska mwyaf blaenllaw'r gwledydd hyn.

Bydd y noson hefyd yn cynnwys yr artist lleol Marcus Smith a fu'n rhan o brosiect celf stryd Caerdydd PWSH y llynedd.

Teimlai Louise Thomas, rheolwr y farchnad, ei bod yn noson bwysig i'r gyrchfan siopa. "Rydym yn adfer y digwyddiadau nos a oedd yn boblogaidd iawn pan gawsom ni nhw yn haf 2019," meddai. "Doedden ni ddim yn teimlo ein bod ni'n gallu eu cynnal o gwbl yn ystod y pandemig ond rydyn ni i gyd yn teimlo'n fwy cyfforddus nawr ac am eu cynnal unwaith y mis yn ystod yr haf.

"Rwy'n credu y bydd y rhan fwyaf o'r stondinwyr yn aros ar agor ar gyfer y digwyddiad," ychwanegodd.  "Mae'n debyg y byddwn ni'n cau'r drysau tua 5.30pm Ddydd Iau i roi cyfle iddyn nhw gymryd eu gwynt a rhywbeth i'w fwyta cyn i ni eu hail-agor eto am chwech.

"Gyda'r stondinau bwyd, y manwerthwyr pethau difyr, y gerddoriaeth a'r gwaith celf, dylai fod yn dipyn o noson."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29082.html

 

Grŵp theatr yn rhoi bywyd newydd i gymeriadau hanesyddol Caerdydd

Bydd aelodau grŵp theatr o Gaerdydd yn sianelu ysbrydion rhai o drigolion mwyaf diddorol y ddinas fis nesaf mewn cyfres o berfformiadau arbennig ym Mynwent Cathays.

Mae 'Lleisiau o'r Tu Hwnt i'r Bedd' sy'n cael ei gyflwyno gan Gwmni Theatr yr A48, mewn cydweithrediad ag adran Gwasanaethau Profedigaeth Cyngor Caerdydd, wedi bod yn ddigwyddiad poblogaidd ar galendr y fynwent ers amser maith ac mae'n denu cynulleidfa lawn yn rheolaidd.

Mae'r perfformiadau eleni ddydd Mawrth 7 Mehefin a dydd Iau 9 Mehefin am 7pm, a'r dydd Sul canlynol, 12 Mehefin, am 2pm. Bydd pob un yn cael ei arwain gan gyn-reolwr coffa'r Cyngor, Roger Swan, a fydd yn tywys cynulleidfaoedd drwy lwybr treftadaeth o feddau, gan stopio mewn nifer ohonynt i glywed actorion mewn gwisgoedd o'r cyfnod yn adrodd hanes rhai o'r meddianwyr mwyaf adnabyddus.

Mae'r straeon i gyd wedi'u hysgrifennu gan grŵp ysgrifennu A48, Living Lines, ac yn portreadu gorffennol cyfoethog ac amrywiol Caerdydd, gan dalu teyrnged i'r rhai a oedd yn rhan ohono.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29076.html

 

Parc Sglefrio newydd wedi'i gynnig ar gyfer Llanrhymni

Mae parc sglefrio 'cyrchfan' newydd yn cael ei gynnig ar gyfer Llanrhymni lle byddai parc sglefrio concrid modern yn disodli'r parc sglefrio ffrâm bren presennol ger Canolfan Hamdden y Dwyrain.

Mae ymgynghoriad ar-lein ar agor ar hyn o bryd, yn gofyn i'r gymuned sglefrfyrddio leol ac ehangach am eu mewnbwn i ddyluniad y parc sglefrio, sy'n cael ei ddatblygu gan ymgynghorwyr arobryn VDZ+A a Newline Skateparks.

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: "Mae'r cynigion ar gam cynnar a byddant yn destun ymgynghoriad pellach a chais cynllunio yn ddiweddarach eleni, ond y nod yw dylunio gofod cynhwysol o ansawdd uchel ar gyfer trigolion a sglefrwyr o bob oed a gallu.

"Rydym am annog cynifer o bobl â phosibl i fod yn gorfforol actif ac mae Sglefrfyrddio yn Gamp Olympaidd sy'n apelio at bobl o bob oed, o blant ifanc a phobl ifanc yn eu harddegau i sglefrwyr hŷn, y mae llawer ohonynt bellach yn cyflwyno eu plant i'r gamp.

"Mae parc sglefrio concrid yn golygu llai o waith cynnal a chadw ac yn creu llai o sŵn, ac fel rhan o'n strategaeth sglefrio ledled y ddinas sy'n cael ei datblygu ar hyn o bryd, rydym yn gobeithio gwella neu adnewyddu mwy o safleoedd presennol yn ogystal â nodi lleoliadau newydd, gan gynnig mwy o gyfleoedd i bobl fwynhau manteision gweithgarwch corfforol, gan ddechrau yn Llanrhymni."

I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar-lein, ewch i:

tinyurl.com/llanrumneysk8

Daw'r ymgynghoriad i ben ar 1 Mehefin.