Back
Liam Gallagher i chwarae ar Bentir Alexandra ym Mae Caerdydd

23.05.22
Mae Liam Gallagher wedi dewis Caerdydd fel lleoliad olaf ei haf o gyngherddau awyr agored gyda chyn brif leisydd Oasis yn ymddangos ym Mhentir Alexandra ar ymylon y Morglawdd.

Mae disgwyl i’r canwr chwedlonol a'r eicon modern gael haf i’w chofio, gyda'i drydedd albwm stiwdio 'C'mon You Know' ar fin cael ei rhyddhau a dwy sioe ym Mharc Knebworth eisoes wedi'u gwerthu allan. Y sioe ym Mae Caerdydd Ddydd Iau 15 Medi fydd y penllanw.

Bydd tocynnau'n mynd ar werth Ddydd Gwener 27 Mai am 10am drwy LiveNation.co.uk

Yn dilyn rhyddhau ei ganeuon syfrdanol "Everything's Electric" a "Better Days", mae ei drydedd albwm unigol hirddisgwyliedig, “'C'mon You Know”, yn cael ei rhyddhau ar 27 Mai drwy Warner Records.

Mae 'C'mon You Know' yn dilyn llwyddiant ysgubol albymau stiwdio blaenorol Liam 'As You Were' (2017) a 'Why Me? Why Not?’ (2019), a sefydlodd ei statws eiconig ar gyfer cenhedlaeth newydd sbon.

Bydd hefyd yn rhyddhau albwm byw newydd 'Down By The River Thames' Ddydd Iau. Recordiwyd y sioe ar fad ar gyfer ffrydiad byw arbennig ym mis Rhagfyr 2020. Aeth ei 'MTV Unplugged' hefyd yn syth i rif un ar y Siart Albwm Swyddogol.

Rhwng ei lwyddiannau fel artist unigol a'i lwyddiant aruthrol gydag Oasis, mae Liam wedi treulio cyfanswm ar y cyd o bron i chwe mis yn #1 a hynny drwy un ar ddeg o albymau, ac wedi ennill chwe Gwobr Brit, a dwy Wobr Ivor Novello.

Bydd Liam Gallagher yn arddangos ei albwm stiwdio newydd sydd ar y gweill mewn cadwyn o sioeau enfawr yr haf hwn, gan gynnwys dwy sioe gefn wrth gefn sydd wedi gwerthu allan ym Mharc Knebworth, y safle lle chwaraeodd Oasis ddwy o sioeau mwyaf y degawd yn 1996, cyn dirwyn ei haf i ben yn y lleoliad awyr agored epig gyda Bae Gaerdydd yn gefnlen iddo.  

Bydd The Charlatans yn westeion arbennig iawn, i gadw cwmni i Liam gyda rhagor o artistiaid i’w datgelu cyn hir.