20/05/22
Bydd cant o goed yn cael eu plannu ym Mharc Bute, gan greu perllan newydd a phlannu coed newydd yn lle 50 o goed a ddifrodwyd gan fandaliaid ym mis Medi y llynedd. Mae'r plannu'n dilyn ymgyrch dan arweiniad y gymuned a sefydlwyd yn sgil y fandaliaeth, a achosodd werth miloedd o bunnoedd o ddifrod.
Parc Bute, Gwanwyn
Mae ymgyrch codi arian, a sefydlwyd gan Melissa Boothman, perchennog Caffi'r Ardd Gudd ym Mharc Bute, wedi codi £5,000 hyd yn hyn. Nawr, drwy ymuno â rhaglen plannu coed Coed Caerdydd y Cyngor, bydd dwy goeden yn cael eu plannu yn ystod y tymor plannu coed nesaf, ar gyfer pob un goeden a ddinistriwyd.
Bydd hanner cant o'r coed newydd yn goed ffrwythau brodorol, gan ddychwelyd perllan i Barc Bute am y tro cyntaf ers iddo gael ei drosglwyddo i bobl Caerdydd gan deulu Bute yn 1947. Caiff y berllan ei hysbrydoli gan amrywiaethau treftadaeth Cymru a bydd â choed sydd o fudd i'r gymuned ac i fywyd gwyllt.
"Dyma barc y bobl," meddai Ms Boothman, "a theimlodd yr ymosodiad hwnnw fel ymosodiad personol. Roedd pobl yn dod i mewn i'r caffi, gan ddweud wrthyf am eu profiadau o'r parc ac eisiau helpu i'w ailadeiladu.
"Roedd ymateb y gymuned yn enfawr ac yn wych. Yn gyntaf, denodd y digwyddiad "Adfer y Parc" gannoedd o bobl i ddathlu'r parc gan ysgogi llawer o syniadau, ac yna cafwyd llawer mwy o arian na'r disgwyl drwy'r cyllido torfol. Mae'n golygu y gall y gymuned helpu i adfer coed yr ardd goed sydd wedi'u difrodi ac y gellir sefydlu'r berllan gymunedol. Edrychwn ymlaen at weithio mewn partneriaeth â Chyfeillion Parc Bute ar y fenter gymunedol gyffrous hon."
Bydd dwy berllan: y brif un i'r gogledd o gaeau chwarae'r Gored Ddu, ac un llai gerllaw lawnt hanesyddol y berllan. Bellach yn fan poblogaidd ar gyfer picnics a digwyddiadau cymunedol, roedd unwaith yn safle perllan a oedd yn cyflenwi cynnyrch ffres i deulu Bute a'u gwesteion yng Nghastell Caerdydd. Y bwriad yw y bydd y safle llai hwn, y tu allan i'r 'Ardd Furiog' sy'n gartref i Gaffi'r Ardd Gudd, Canolfan Ymwelwyr Parc Bute, Siop Planhigion a Phlanhigfeydd, yn lleoliad delfrydol i gyflwyno ymwelwyr â'r parc i fanteision perllannau a'u cyfeirio i'r safle mwy.
Parc Bute, Medi 2021
Dywedodd Rheolwr Parc Bute, Julia Sas: "Mae'r haelioni a ddangoswyd gan y gymuned ers diwrnod tywyll yr ymosodiad fandaliaeth wedi bod yn galonogol ac rwy'n gwybod bod pawb sy'n ymwneud â'r parc yn hynod ddiolchgar. Roedd llawer o'r coed a ddifrodwyd yn yr ymosodiad yn goed coffa, y talwyd amdanynt gan deuluoedd ac a blannwyd er cof am eu hanwyliaid, felly roedd yn bwysig iawn i ni fod coed tebyg newydd yn cael eu rhoi yn lle'r rheiny a ddifrodwyd, ac na ellid gwneud hynny heb gymorth y gymuned. Nawr, mae gallu dychwelyd perllan i'r parc yn teimlo fel diwedd mor obeithiol i'r hyn oedd yn gyfnod anodd iawn."
"Mae cymaint o gyfleoedd i'w cael a straeon i'w hadrodd yma yn y parc. Rydym wedi ein cyffroi'n fawr gan y posibilrwydd o gysylltu'r berllan newydd â hanes y parc a gweld yr holl syniadau anhygoel a chreadigol sydd gan y gymuned am sut i ddylunio a defnyddio'r perllannau."
I gael gwybodaeth am Gyfeillion Parc Bute ac am sut i gymryd rhan yn y gwaith o ddiogelu a gwella'r parc, ewch i:
https://bute-park.com/cy/cyfeillion-parc-bute/
I gael gwybodaeth am Coed Caerdydd, ewch i:https://www.outdoorcardiff.com/cy/bioamrywiaeth/coed-caerdydd/neu i @CoedCaerdydd ar Facebook.