Back
Diwrnod Agored Ysgol Farchogaeth Caerdydd
Mae Ysgol Farchogaeth Caerdydd yn cynnal Diwrnod Agored y penwythnos hwn.

Mae'r digwyddiad, sy'n dechrau am 10am Ddydd Sadwrn 21 Mai, bydd yn cynnwys arddangosfa neidio ceffylau a dril gerddorol gan y staff a’r ceffylau, ac mae’n nodi agoriad Ysgol Awyr Agored newydd sbon a wnaed yn bosibl gyda chefnogaeth Cyfeillion Ysgol Farchogaeth Caerdydd.

Dwedodd Rheolwr Ysgol Farchogaeth Caerdydd, Gloria Garrington:  "Rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at groesawu wynebau i'r hyn a fydd, gobeithio, yn ddiwrnod llawn hwyl.

"Rydym wrth ein bodd gyda'r Ysgol Awyr Agored newydd ac yn ddiolchgar iawn i'r Cyngor a Chyfeillion Ysgol Farchogaeth Caerdydd am ei gwneud yn bosibl.

"Mae'n mynd i wneud cymaint o wahaniaeth – mae'n rhoi ardal wych i ni y gallwn ei defnyddio gydol y flwyddyn ar gyfer gwersi, mae'n golygu y gallwn gynnal cystadlaethau ochr yn ochr â'n gwersi arferol, bydd yn helpu i wella lles y ceffylau, gallwn gynnig pecyn lletya gwell i bobl â'u ceffylau eu hunain. Allwn ni ddim aros i bobl gael ei weld."

Amserlen lawn y digwyddiad:

10am – Gatiau’n agor

10:30 - Seremoni Agoriadol

10:45 - Taith dril gerddorol staff

11:15 - Arddangosfa neidio ceffylau

11:30 - Cŵn ystwyth

12:30 - Sioe gŵn hwyliog

Gellir mynychu’r sioe gŵn hwyliog a’r cŵn ystwyth drwy dudalen Facebook Ysgol Farchogaeth Caerdydd neu ar y diwrnod gyda rhodd ariannol fach i Gyfeillion Ysgol Farchogaeth Caerdydd. Mae'r sioe gŵn yn agored i unrhyw un o unrhyw oedran sydd â chŵn sy'n ymddwyn yn dda ar dennyn.

Bydd Bwyd a Lluniaeth ar gael. Bydd angen Arian Parod.