19.5.22
Bydd Picnic Jiwbilî Mawr ym Mharc Bute yn benllanw ar bedwar diwrnod o ddathliadau yng Nghaerdydd i nodi Jiwbilî'r Frenhines.
Dros benwythnos gŵyl y banc hefyd bydd Salíwt Ynnau Frenhinol yn digwydd yn Roald Dahl Plass, ac yna bydd gŵyl gerddoriaeth filwrol, cyngerdd yng Nghastell Caerdydd, ymweliad gan long y Llynges Frenhinol, a bydd ffagl yn cael ei chynnau ym Mae Caerdydd.
Gŵyl Gerdd Filwrol (Dydd Iau 2 Mehefin, canol dydd - 1.15pm)
Bydd Salíwt Ynnau Frenhinol yn Roald Dahl Plass yn arwydd o ddechrau dathliadau'r Jiwbilî ac awr o gerddoriaeth filwrol gan Fand Catrodol y Cymry Brenhinol. Mae Band Catrodol y Cymry Brenhinol yn un o'r ychydig iawn o fandiau pres llawn o fewn y Fyddin Brydeinig. Gwelir y Band yn rheolaidd yn cyflawni dyletswyddau seremonïol fel Salíwtiau Gynnau Brenhinol, gorymdeithiau rhyddid y ddinas, ac o flaen cefnogwyr rygbi ledled y byd yn Stadiwm Principality.
Seremoni Cynnau'r Ffagl (Dydd Iau 2 Mehefin, 9.15-9.45pm)
Bydd Ffagl y tu allan i Adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd ymhlith mwy na 2,000 o ffaglau fydd yn cael eu goleuo ar yr un pryd ledled y DU, yn ogystal ag ym mhob un o'r 54 prifddinas yng ngwledydd y Gymanwlad i anrhydeddu'r Jiwbilî.
Cyn i'r Ffagl gael ei goleuo bydd rhaglen o gerddoriaeth gan Fand Catrodol a Chorau Drymiau'r Cymry Brenhinol.
Bydd y Ffagl yn cael ei goleuo am 9.45pm, ac yna bydd arddangosfa fer o dân gwyllt.
Ymweliad HMS Severn (yn cyrraedd dydd Llun 30 Mai)
Bydd HMS Severn, a enwir ar ôl Afon Hafren, yn cael ei hangori yng Nghei Britannia ar gyfer y Jiwbilî. Yn ystod ei hymweliad â phrifddinas Cymru bydd y llong yn agor ei thramwyfa i aelodau'r cyhoedd ymweld â hi. Bydd y tocynnau'n cael eu rhyddhau drwy Eventbrite a bydd manylion am sut y gall pobl gael y rhain ar gael yn fuan.
I gael gwybod y newyddion diweddaraf am y llong, dilynwch hi ar Twitter, @hmssevern
Cyngerdd Jiwbilî Platinwm (Sadwrn 4 Mehefin, 3.30-10pm)
Bydd rhai o gantorion a diddanwyr gorau Cymru yn fyw ar y llwyfan yng Nghastell Caerdydd. Gyda chorau, bandiau, cwmnïau dawns a cherddorfa lawn, bydd y lleoliad eiconig yn atseinio i gerddoriaeth, cân a chwerthin.Tocynnauyn rhad ac am ddim i rai dan 16 oed yng nghwmni oedolyn.
Picnic Jiwbilî Mawr (Dydd Sul 5 Mehefin, 12-5pm)
Paciwch hamper, casglwch eich teulu a'ch ffrindiau ynghyd ac ewch i'r hyfryd Barc Bute i gael Picnic Jiwbilî Mawr i gloi'r penwythnos. Bydd ymwelwyr yn gallu gwylio'r Pasiant Jiwbilî Platinwm yn fyw o Lundain ar sgrin enfawr neu'n gallu ymlacio a mwynhau'r gerddoriaeth a'r adloniant symudol am ddim ar y safle.
Gyda phopeth o fflamingos enfawr i opera crwydrol mae'n addo bod yn brynhawn cofiadwy iawn.
Ni fydd bwyd a diod ar werth ar y safle felly cofiwch ddod â'ch brechdanau, byrbrydau a chacennau eich hun i greu eich picnic Jiwbilî blasus eich hun!
Cefnogir Picnic y Jiwbilî Fawr gan Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU.
Cyn penwythnos gŵyl y banc bydd Amgueddfa Caerdydd hefyd yn cynnal digwyddiad galw heibio Celf a Chrefft Jiwbilî Brenhinol ddydd Mercher 1 Mehefin (10am-3pm) lle gall plant 3+ oed fod yn greadigol a gwneud eu coron frenhinol eu hunain a dylunio eu baneri bach eu hunain. Digwyddiad am ddim, awgrymir rhoi £1. Dim angen trefnu o flaen llaw.
Cynhelir partïon a digwyddiadau Jiwbilî drwy gydol hanner tymor a phenwythnos y Jiwbilî yn hybiau ledled Caerdydd. Bydd yr holl fanylion arhttps://hybiaucaerdydd.co.uk/