Back
Diweddariad gan Gyngor Caerdydd: 17 Mai 2022

Y diweddaraf gennym ni: mae cynigion sylweddol Caerdydd i gynyddu'r ddarpariaeth ar gyfer plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn mynd rhagddynt; helpwch i ddylunio Parc Sglefrio newydd; a'r coronafeirws mewn rhifau.

 

Mae cynigion sylweddol Caerdydd i gynyddu'r ddarpariaeth ar gyfer plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn mynd rhagddynt

Mae cynlluniau Cyngor Caerdydd i gyflawni cyfres o gynigion i ehangu a gwella'r ddarpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn mynd rhagddynt.

Yn un o'r rhaglenni gwelliannau mwyaf cynhwysfawr i'r sector yng Nghaerdydd, mae'r Cyngor wedi cynnig creu lleoedd ychwanegol ar gyfer disgyblion rhwng 3 a 19 oed ar draws y ddinas.

Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus yn gynharach eleni gyda'r farn a gyflwynwyd yn gyffredinol yn gefnogol i'r cynlluniau sylweddol yn y ddinas er mwyn helpu i ateb y galw cynyddol am ddarpariaeth i blant ar draws yr ystod gyfan o anghenion ychwanegol, gan gynnwys y rhai ar y sbectrwm awtistiaeth.  Maent yn cynnwys mwy na dwsin o ysgolion arbennig, cynradd ac uwchradd, yn cynnig addysg Gymraeg a Saesneg.

Yn dilyn penderfyniadau'r Cabinet a wnaed ym mis Mawrth, cyhoeddwyd 11 o Hysbysiadau Statudol Cyhoeddus ar 6 Mai 2022, yn unol ag adran 48 Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013. Mae'r rhain yn cynnwys: 

 

  • Sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol 20 lle yn Ysgol Gynradd Moorland o fis Medi 2023 ar gyfer plant oed cynradd sydd ag Anghenion Dysgu Cymhleth
  • Sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol 30 lle ar gyfer dysgwyr ag anghenion dysgu cymhleth yn Ysgol Uwchradd Willows o fis Medi 2023
  • Cynyddu'r nifer dynodedig yng Nghanolfan Adnoddau Arbenigol Ysgol Uwchradd Llanisien i ddysgwyr â chyflwr y Sbectrwm Awtistig o 20 i 45 lle o fis Medi 2022
  • Sefydlu Canolfan Adnoddau â 30 lle yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf ochr yn ochr â'r Ganolfan Adnoddau Arbenigol presennol sydd â 30 lle ar gyfer dysgwyr â chyflwr y Sbectrwm Awtistig o fis Medi 2023
  • Cynyddu nifer dynodedig Ysgol Arbennig Tŷ Gwyn o 198 i 240 o fis Medi 2022
  • Cynyddu nifer dynodedig Ysgol Arbennig The Hollies o 90 i 119 o fis Medi 2022; cynyddu nifer dynodedig Ysgol Arbennig The Hollies ymhellach o 119 i 150 o fis Medi 2023
  • Cynyddu'r nifer dynodedig yn y Ganolfan Adnoddau Arbenigol yn Ysgol Gynradd Llanisien Fach ar gyfer dysgwyr ag anghenion dysgu cymhleth o 20 i 30 lle o fis Medi 2023
  • Cynyddu'r nifer dynodedig yn y Ganolfan Adnoddau Arbenigol yn Ysgol Gynradd Pentre-baen ar gyfer dysgwyr â Chyflwr y Sbectrwm Awtistig o 20 i 24 lle o fis Medi 2022
  • Cynyddu capasiti Ysgol Arbennig The Court o 42 i 72 lle. Byddai'r ysgol yn trosglwyddo i adeiladau newydd ar draws dwy safle sef Ysgol Gynradd y Tyllgoed a safle presennol Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg, yn Llanrhymni, gyda 36 o ddisgyblion ar bob safle o fis Medi 2025. 
  • Sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol â 20 lle ar gyfer iechyd a lles emosiynol yn Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd o fis Medi 2022.
  • Sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol â 20 lle ar gyfer iechyd a lles emosiynol yn Ysgol Uwchradd y Dwyrain o fis Medi 2022.

 

Bydd Hysbysiadau Statudol ynghylch ehangu'r ddarpariaeth arbenigol arfaethedig yn Ysgol Arbennig Meadowbank, Ysgol Gynradd Marlborough ac Ysgol Gynradd Springwood yn cael eu cyhoeddi ym mis Mehefin 2022.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29036.html

 

Helpwch i ddylunio Parc Sglefrio newydd

Bydd dyluniad Parc Sglefrio concrid modern yn Llanrhymni yn cael ei lunio gan farn y gymuned sglefrfyrddio leol ac ehangach.

Nawr yn gamp Olympaidd, bydd y parc sglefrio yn lle i sglefrio o bob oed a gallu ymarfer eu sgiliau mewn cyfleuster o ansawdd uchel a gynlluniwyd gan ymgynghorwyr ardderchog VDZ+A a Newline Skateparks.

Cynhelir cyfarfod cychwyn dylunio i sefydlu barn gychwynnol ar barc sglefrio Llanrhymni yng Nghanolfan Hamdden y Dwyrain (ac ar yr un pryd ar Zoom) ar 18 Mai rhwng 5.30pm a 7pm.

Bydd arolwg ar-lein hefyd ar gael, ar ôl y cyfarfod, i gasglu barn y rhai nad ydynt yn gallu mynychu'r cyfarfod.

Dolen Zoom: tinyurl.com/llanrumneyzoom

 

Coronafeirws Nifer wrth Nifer

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro:

https://bipcaf.gig.cymru/covid-19/rhaglen-brechu-torfol-covid-19/

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (06 Mai - 12 Mai 2022)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru:

https://public.tableau.com/profile/public.health.wales.health.protection#!/vizhome/RapidCOVID-19virology-Public/Headlinesummary

Mae'r data'n gywir ar:

16 Mai 2022

 

Achosion: 74

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 20.2 (Cymru: 18.3 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 907

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 247.2

Cyfran bositif: 8.2% (Cymru: 7.4% cyfran bositif)