13/5/2022
Mae cynlluniau Cyngor Caerdydd i gyflawnicyfres o gynigion iehangu a gwella'r ddarpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn mynd rhagddynt.
Yn un o'r rhaglenni gwelliannau mwyaf cynhwysfawr i'r sector yng Nghaerdydd, mae'r Cyngor wedi cynnig creu lleoedd ychwanegol ar gyfer disgyblion rhwng 3 a 19 oed ar draws y ddinas.
Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus yn gynharach eleni gyda'r farn a gyflwynwyd yn gyffredinol yn gefnogol i'r cynlluniau sylweddol yn y ddinas er mwyn helpu i ateb y galw cynyddol am ddarpariaeth i blant ar draws yr ystod gyfan o anghenion ychwanegol, gan gynnwys y rhai ar y sbectrwm awtistiaeth. Maent yn cynnwys mwy na dwsin o ysgolion arbennig, cynradd ac uwchradd, yn cynnig addysg Gymraeg a Saesneg.
Yn dilyn penderfyniadau'r Cabinet a wnaed ym mis Mawrth, cyhoeddwyd 11 o Hysbysiadau Statudol Cyhoeddus ar 6 Mai 2022, yn unol ag adran 48 Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013. Mae'r rhain yn cynnwys:
Bydd Hysbysiadau Statudol ynghylch ehangu'r ddarpariaeth arbenigol arfaethedig yn Ysgol Arbennig Meadowbank, Ysgol Gynradd Marlborough ac Ysgol Gynradd Springwood yn cael eu cyhoeddi ym mis Mehefin 2022.
Dwedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Bydd y cynlluniau hyn yn cyfrannu'n helaeth at fynd i'r afael â'r diffyg yn y ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol sydd ei hangen yma yng Nghaerdydd a bydd hefyd yn helpu i wasgaru'r cyfleusterau ledled y ddinas yn ein trawsnewidiad mwyaf radical ar y ddarpariaeth a welwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Bydd yn gwella safon y cyfleusterau yn sylweddol ac yn cynyddu nifer y lleoedd sydd ar gael bron i 300."
"Mae Caerdydd, fel sawl ardal, wedi gweld cynnydd yn y galw mewn addysg arbenigol. Mae'r Cyngor hwn - sy'n gwneud cais i fod yn Ddinas UNICEF sy'n Dda i Blant gyntaf Cymru - yn credu mewn hawliau i blant a rhoi'r cyfleoedd gorau iddynt mewn bywyd. Gobeithiwn y bydd y strategaeth hon yn gwneud rhywfaint i helpu plant yng Nghaerdydd gyrraedd eu potensial yn llawn."
Cyn gweithredu'r cynigion, bydd adroddiad pellach yn cael ei roi i'r Cabinet yn rhoi manylion unrhyw wrthwynebiadau a ddaw i law.