Back
Dreamachine – y profiad celf ymgolli y mae pawb yn siarad amdano – y nagor yng Nghaerdydd

12.5.22
Mae Dreamachine, profiad ymgolli newydd pwerus sy'n archwilio potensial diddiwedd y meddwl dynol, yn agor heddiw yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd lle bydd yn rhedeg tan 18 Mehefin.

Wedi'i greu gan Collective Act, mae'n dwyn ynghyd enillwyr y Wobr Turner, artistiaid Assemble, y cyfansoddwr Jon Hopkins sydd wedi derbyn enwebiadau gan Grammy a Mercury, a thîm o dechnolegwyr, gwyddonwyr ac athronwyr blaenllaw. Mae Dreamachine wedi ei gomisiynu a'i gyflwyno fel rhan o UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU.

Bydd y profiad ymgolli unigryw hwn yn meddiannu adeilad hardd y Deml Heddwch yng nghanol Caerdydd, a adeiladwyd yn sgil y Rhyfel Byd Cyntaf ac a gynlluniwyd i 'newid y byd' drwy hybu ymdrechion heddwch rhyngwladol. Bydd Dreamachine yn tywys ei gynulleidfaoedd ar daith galeidosgopig, weledol drwy olau crynedig a sain, a’r profiad cyfan yn digwydd drwy lygaid cau. Bydd cynulleidfaoedd yn cymryd eu seddi mewn lle a gynlluniwyd gan Assemble sy'n caniatáu iddyn nhw fwynhau profiad amlsynhwyraidd a rennir sy'n bersonol iawn, ac ar y cyd.

Mae'r cyfansoddwr Jon Hopkins, sydd wedi derbyn enwebiadau gan Grammy a Mercury, wedi cyfansoddi sgôr newydd ar gyfer y gwaith mewn sain ofodol 360 gradd, gan greu byd sonig unigryw ac amgylchynol. Mae tîm o niwrowyddonwyr ac athronwyr o Brifysgol Sussex a Phrifysgol Glasgow wedi cydweithio â'r stiwdio technoleg greadigol Holition i ddatblygu offer creadigol unigryw i’r gynulleidfa fyfyrio, bob un wedi'i gynllunio i annog cysylltiad a sgwrs.

Mae Dreamachine wedi'i ysbrydoli gan ddyfais ryfeddol ond prin y gŵyr amdano ym 1959 gan yr artist-ddyfeisiwr Brion Gysin, ar y chwith. Defnyddiodd ei ddyfais gartref arbrofol olau crynedig i greu rhithwelediadau byw, patrymau caleidosgopig a ffrwydradau o liw ym meddwl y 'gwyliwr'.

Wedi'i gynllunio i fod y 'gwaith celf cyntaf i'w werthfawrogi gyda'ch llygaid ar gau', roedd gan Gysin weledigaeth i’w ddyfais ddisodli’r teledu ym mhob cartref yn America. Yn hytrach na defnyddwyr goddefol cyfryngau wedi'u cynhyrchu ar raddfa fawr, byddai gwylwyr y Dreamachine yn creu eu profiad sinematig eu hunain.

Dros drigain mlynedd ar ôl ei ddyfais wreiddiol, mae Collective Act wedi dod â thîm creadigol blaenllaw at ei gilydd i ail-ddychmygu'r Dreamachine yn radical fel math newydd pwerus o brofiad ar y cyd, gan gyflwyno hyn i gynulleidfaoedd ledled y DU am ddim.

Bydd pob profiad o'r Dreamachine yn gwbl unigol. Bydd ymchwil i ymatebion gwahanol y gynulleidfa yn taflu goleuni unigryw ar sut y mae'r ymennydd dynol yn creu ein 'bydysawd mewnol' goddrychol, gan archwilio'r ffyrdd y mae pob un ohonom yn canfod y byd, sut mae hyn yn siapio ein bywydau a phwy ydym ni. Hyd yn oed gydag offer niwrowyddoniaeth fodern, mae'r cwestiwn pam yn union y mae profiadau byw o'r fath yn digwydd yn dal heb ei ateb.

Er bod profiad ymgolli Dreamachine ar gyfer pobl dros 18 oed, datblygwyd rhaglen ysgolion ochr yn ochr â'r sioeau byw gan A New Direction mewn partneriaeth â Chymdeithas Wyddoniaeth Prydain, UNICEF UK a We The Curious.

Gan gyfuno gwyddoniaeth â'r celfyddydau, mae themâu Dreamachine yn cynnig ymchwiliad ystafell ddosbarth ysgogol: pŵer y meddwl dynol, ein hymennydd anhygoel a chwestiynau mawr canfyddiad ac ymwybyddiaeth – ein hymdeimlad o hunan, sut rydym yn gweld y byd a sut rydym yn cysylltu ag eraill.

Mae'r rhaglen yn cynnwys 30 o gynlluniau gwers ar gyfer plant 5 - 13 oed, ar draws Gwyddoniaeth, Dinasyddiaeth Fyd-eang ac ABCh, a’r cyfan yn cysylltu â fframwaith newydd Cwricwlwm i Gymru; cyfres o sesiynau DPP Athrawon sy'n canolbwyntio ar les; a gwahoddiad i ysgolion gymryd rhan yn Life’s Big Questions – arolwg rhyngweithiol o'r synhwyrau sy'n cysylltu lleisiau plant ar draws y pedair gwlad.

Mae agor y profiad ymgolli wedi creu nifer o gyfleoedd swyddi a datblygu sgiliau i bobl leol Caerdydd, sydd wedi eu recriwtio gan y Cyngor i chwarae rhan annatod yn y gwaith celf fel Gwarcheidwaid profiad y gynulleidfa, gan dderbyn rhaglen hyfforddi bwrpasol fel rhan o'r swydd.

Mae'r Cyngor hefyd yn benderfynol o wneud Dreamachine mor hygyrch i gynifer o bobl yng Nghaerdydd â phosibl. “Rydym yn gwybod y bydd Dreamachine yn ddigwyddiad anhygoel i Gaerdydd,” meddai llefarydd ar ran y Cyngor. “Dim ond ym mhedair prifddinas y DU y mae'n cael ei lwyfannu felly rydym wrth ein bodd y bydd yma am fwy na mis, ac mewn lleoliad mor eiconig.

“Mae'n bwysig bod cynifer â phosibl o bobl yng Nghaerdydd yn cael y cyfle i fynd ac felly gwahoddwyd nifer o arweinwyr grwpiau cymunedol i ddangosiadau rhagolwg arbennig ac rydym wedi cadw nifer o berfformiadau yn arbennig ar gyfer grwpiau cymunedol, gan gynnwys grwpiau anabledd.

Datblygwyd Dreamachine gydag ymchwil grŵp ffocws helaeth i sicrhau ei fod mor gynhwysol a hygyrch â phosibl, gan gynnwys i bobl niwrowahanol, pobl ddall a rhannol ddall, a phobl B/byddar yn ogystal â defnyddwyr cadeiriau olwyn a'r rhai sy'n defnyddio cymhorthion symudedd. Mae profiadau hamddenol ar gael i unrhyw un a fyddai'n elwa ar sefyllfa fwy anffurfiol, a chynigir sesiynau dehongli BSL hefyd.

Mae tocynnau i Dreamachine am ddim ond mae’n rhaid eu harchebu ymlaen llawr drwy www.dreamachine.world