11.05.22
Bydd dau o adeiladau mwyaf eiconig Caerdydd yn
llawn lliw’r mis hwn i ddathlu rôl y ddinas yn ystod Pythefnos Gofal Maeth.
Bydd waliau’r Castell a ffasâd dramatig Neuadd y Ddinas yn tywynnu’n borffor - lliw'r gwasanaeth yng Nghaerdydd – yn y nos yn ystod y pythefnos, o ddydd Llun, Mai 9 i ddydd Sul, Mai 22.
Mae'r ymgyrch, a sefydlwyd ym 1997, yn gyfle i dynnu sylw at y gwaith a wneir gan ofalwyr maeth a gweithwyr maethu proffesiynol i helpu i ddod o hyd i gartrefi cariadus i bobl ifanc pan fydd ei angen fwyaf arnynt. Eleni, y thema yw 'cymunedau maethu'.
Bydd y Rhwydwaith Maethu, sy'n trefnu'r pythefnos, yn defnyddio'r digwyddiad i amlygu’r ffyrdd niferus y mae pobl ar draws y gymuned faethu yn cefnogi ei gilydd.
Yng Nghaerdydd, mae tîm y cyngor o weithwyr cymdeithasol sy'n arbenigo mewn gofal maeth wedi trefnu dau ddigwyddiad galw heibio: y cyntaf yn Hyb Llyfrgell Ganolog Caerdydd ddydd Mawrth, Mai 17 rhwng 10.30am a 2pm, ac yn siop Tesco Extra yn Excelsior Road ar ddydd Mercher, Mai 18, rhwng 1pm a 4pm. Bydd hyn yn hyrwyddo eu gwaith ac yn annog pobl leol i ymuno â'r miloedd o deuluoedd maeth newydd sydd eu hangen bob blwyddyn i ofalu am blant.
Bydd yn rhoi cyfle i
unrhyw un sydd â diddordeb mewn maethu siarad â'r tîm am sut i wneud gwahaniaeth
gwirioneddol i fywyd plentyn. "P'un
a ydych chi'n awyddus i gymryd rhan mewn maethu, neu os ydych chi eisoes yn
ofalwr maeth ac os oes gennych ddiddordeb mewn trosglwyddo i'r cyngor, neu os
mai dim ond rhywfaint o wybodaeth sydd ei angen arnoch, rydym yn barod i siarad
â chi," dywedodd llefarydd ar ran y cyngor.
"Yr angen mwyaf yw
am ofalwyr maeth sy'n gallu cefnogi plant hŷn, grwpiau o frodyr a chwiorydd,
plant sydd ag anableddau a phlant ar eu pen eu hunain sy'n ceisio lloches.
"A phan fydd pobl yn
penderfynu ymuno â Maethu Cymru Caerdydd, gallant fod yn hyderus y bydd
ganddynt fynediad at rwydweithiau cymorth o'r radd flaenaf, cyfleoedd a
hyfforddiant amrywiol a phecyn gwobrwyo hael iawn. Er enghraifft, mae ein cynnig gwell yn golygu
bod yr isafswm y gallai gofalwr ei gael yn maethu un plentyn yn cyfateb i
gyflog o £25,000."
Er y gall maethu olygu
gofalu am blentyn yn y tymor hir, mae llawer o deuluoedd maeth yn helpu gyda
seibiannau byr ac yn cynnig gofal seibiant.
Ac mae gofalwyr maeth yng Nghaerdydd mor amrywiol â'r ddinas ei hun – yn
briod, yn byw gyda phartner, sengl, o'r gymuned LHDT+, yn anabl ac o lawer o
gefndiroedd crefyddol ac ethnig gwahanol.
Mae Maethu Cymru Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o fuddion a manteision hael i sicrhau bod gofalwyr maeth yn cael eu cefnogi, yn ariannol, yn broffesiynol ac yn emosiynol. I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth ewch i: Maethu Yng Nghaerdydd | Maethu Cymru Caerdydd (llyw.cymru) neu ffoniwch 029 2087 3797.