Back
Diweddariad gan Gyngor Caerdydd: 06 Mai 2022

Y diweddaraf gan Gyngor Caerdydd: rydym am glywed gan bobl ifanc Caerdydd am bynciau lleol allweddol sy'n bwysig iddynt; meithrin cyfeillgarwch rhwng y cenedlaethau drwy'r cynllun cyfaill sgrifennu; a'r coronafeirws mewn rhifau.

 

Panel Dinasyddion Ifanc Caerdydd yn lansio i ymgysylltu â phobl ifanc ar ddatblygiadau lleol allweddol

Mae Cyngor Caerdydd eisiau clywed gan bobl ifanc Caerdydd am bynciau lleol allweddol sy'n bwysig iddyn nhw.

Mae Panel Dinasyddion o drigolion lleol o bob rhan o Gaerdydd sy'n rhoi eu barn ar nifer o bynciau ymgynghori drwy gydol y flwyddyn wedi bod ar waith ers peth amser ac erbyn hyn mae Panel Dinasyddion Ifanc yn cael ei greu ar gyfer pobl ifanc 11-25 oed sy'n byw yn y ddinas.

Hoffai'r cyngor ymgysylltu â phanel iau gyda phynciau mwy penodol ac annog pobl ifanc i gymryd rhan o oedran ifanc yn y broses o wneud penderfyniadau a democratiaeth leol. Mae cael barn a mewnbwn pobl ifanc ar bethau pwysig sy'n digwydd yn y ddinas hefyd yn cefnogi Erthygl 12 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn; Mae gennych hawl i gael eich clywed a'ch cymryd o ddifrif.

Mae Cyngor Caerdydd eisoes wedi ymgysylltu a gweithio gyda phobl ifanc wrth wneud cynlluniau yn y ddinas fel gyda'r Strategaeth Un Blaned lle maent yn helpu i lunio'r ymateb strategol i'r argyfwng newid yn yr hinsawdd, y cynllun NextBike a phrosiectau Addysg Minecraft lle mae pobl ifanc wedi cynllunio rhannau o'r ddinas ar gyfer amrywiaeth o ddatblygiadau strategol drwy ddefnyddio'r platfform gêm rithwir.

Mae cynlluniau a strategaethau pwysig eraill hefyd wedi'u datblygu a'u haddasu gyda phobl ifanc mewn golwg megis  y Strategaeth Adfer Covid sy'n YstyrioloBlant a Pobl Ifanc ar Ddiogelu  lle'r oedd pobl ifanc yn ymwneud yn helaeth â gweledigaeth, egwyddorion a nodau'r strategaeth, ynghyd â'i hanimeiddio'n weledol.

Rydym hefyd yn cynnal Arolwg Disgyblion Caerdydd sy'n Dda i Blant ym mhob ysgol i gasglu barn pobl ifanc a helpu i ddylanwadu ar benderfyniadau ynghylch ble maent yn byw, y gwasanaethau y maent yn eu defnyddio a datblygiad y ddinas yn y dyfodol.

Bydd aelodau'r Panel Dinasyddion Ifanc yn cael cyfle i rannu eu barn drwy gwblhau arolygon ac weithiau gymryd rhan mewn gweithgareddau eraill fel grwpiau ffocws, gweithdai neu fforymau. Gofynnir iddynt am eu mewnbwn ar wahanol bethau sy'n digwydd yn y ddinas megis trafnidiaeth, yr amgylchedd, addysg, iechyd, tai, datblygiadau mawr, teithio llesol, twf y ddinas, dyfodol cyfleoedd gwaith a chyflogaeth a mwy.

Wrth gofrestru i fod yn aelod o'r Panel Dinasyddion Ifanc, bydd pobl ifanc yn:

  • Helpu'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau yng Nghyngor Caerdydd a gwasanaethau eraill, fel y Bwrdd Iechyd, Trafnidiaeth ac Addysg, ledled y ddinas i wneud Caerdydd yn lle gwell i blant a phobl ifanc dyfu i fyny ynddo.
  • Gwireddu eu hawl i gael gwrandawiad o dan erthygl 12 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawl y Plentyn (CCUHP) ar y materion y maent yn angerddol yn eu cylch.
  • Helpu Cyngor Ieuenctid Caerdydd i ddadlau o blaid newid cadarnhaol a hawliau plant ledled dinas Caerdydd.
  • Cael cyfle i ennill taleb £50 am gofrestru
  • Cael cyfle i ennill taleb £50 am bob arolwg a gwblheir

 

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Mae'n bwysig cael plant a phobl ifanc i gymryd rhan yn y broses o helpu i wneud penderfyniadau a lleisio eu barn ar y materion y maent yn angerddol iawn yn eu cylch. Bydd nid yn unig yn rhoi hyder iddynt ac yn eu cynnwys drwy newid y ddinas y maent yn byw ynddi, ond hefyd yn eu hannog i fynegi eu barn a chwarae rhan mewn democratiaeth leol yn gynnar."

I gael gwybod mwy am Banel Dinasyddion Ifanc Caerdydd ac i gofrestru, cliciwch yma:
 https://www.cardiff.gov.uk/CYM/Eich-Cyngor/dweud-eich-dweud/panel-dinasyddion-caerdydd/Pages/default.aspx

Mae Panel Dinasyddion Ifanc Caerdydd yn cyd-fynd yn agos ag uchelgais y ddinas i ddod yn Ddinas sy'n Dda i Blant a gydnabyddir yn rhyngwladol, fel yr argymhellwyd gan Bwyllgor y DU ar gyfer UNICEF.

 

Meithrin cyfeillgarwch rhwng y cenedlaethau drwy'r cynllun cyfaill sgrifennu

Er bod y grefft o sgrifennu llythyron yn un sy'n cilio yn ein hoes ddigidol, nid felly ar gyfer grŵp o blant ysgol Caerdydd a phreswylwyr rhai o gartrefi gofal preswyl y ddinas.

Mae plant o Ysgol Gynradd Millbank yn Nhrelái ac Ysgol Gynradd Gatholig Sant Joseff yn Gabalfa wedi bod yn rhoi pin ar bapur, yn gohebu â'i gilydd ac yn meithrin cyfeillgarwch newydd gydag aelodau hŷn o'r gymuned sy'n byw yng Nghanolfan Gofal The Forge, Canolfan Nyrsio a Phreswyl Heol Dona Chartref Gofal Llys Trelái.

Mae'r cynllun cyfaill sgrifennu sy'n pontio'r cenedlaethau wedi'i drefnu gan wasanaeth Hybiau a Llyfrgelloedd y ddinas ac mae'n un o'r mentrau niferus a ddarperir gan y gwasanaeth fel rhan o waith y ddinas i fod yn dda i bobl hŷn.

Ym mis Mawrth, daeth Caerdydd yr awdurdod cyntaf yng Nghymru i ymuno â Rhwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Dinasoedd a Chymunedau sy'n Dda i Bobl Hŷn.

Ac yr wythnos diwethaf, yn ystod yr Wythnos Pontio'r Cenedlaethau Fyd-eang gyntaf ac ar ôl cyfnewid llythyrau dros y ddwy flynedd ddiwethaf, daeth yr ysgrifenyddion wyneb yn wyneb o'r diwedd pan ymwelodd disgyblion Blwyddyn 6 o Ysgol Millbank â Chanolfan Gofal The Forge.

Mwynhaodd y ddwy genhedlaeth yr heulwen, wrth chwarae gemau gyda'i gilydd yng ngardd y ganolfan gan gynnwys tiddlywinks, Connect 4, Robot Boy, golff o'r gadair freichiau a nadroedd ac ysgolion.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28984.html

 

Coronafeirws Nifer wrth Nifer

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro:

https://bipcaf.gig.cymru/covid-19/rhaglen-brechu-torfol-covid-19/

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (25 Ebrill - 01 Mai 2022)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru:

https://public.tableau.com/profile/public.health.wales.health.protection#!/vizhome/RapidCOVID-19virology-Public/Headlinesummary

 

Mae'r data'n gywir ar:

05 Mai 2022

 

Achosion: 114

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 31.1 (Cymru: 24.2 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 786

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 214.2

Cyfran bositif: 14.5 (Cymru: 10.9% cyfran bositif)