Back
Diweddariad gan Gyngor Caerdydd: 03 Mai 2022

Y diweddaraf gan Gyngor Caerdydd: cwrdd â Nakeisha Sheppard, ein Swyddog Chwarae Plant dan Hyfforddiant cyntaf; Mark West yn cofio am ei 50 mlynedd yn yr Adran Parciau; a'r coronafeirws mewn rhifau.

 

Mae Nakeisha o'r farn y gall gweithio i Gyngor Caerdydd fod yn chwarae plant

Mae Nakeisha Sheppard yn sicr yn rhywun sy'n mwynhau ei gwaith ond yna, fel Hyfforddai Swyddog Chwarae cyntaf Cyngor Caerdydd, nid yw hynny'n syndod.

Wedi ei chyflogi fis Tachwedd y llynedd, mae'n treulio llawer o'i diwrnod yn helpu plant ledled y ddinas i fwynhau ystod eang o weithgareddau chwarae, chwaraeon a diddordebau, ond mae hi hefyd yn ennill sgiliau gwerthfawr ei hun drwy gyrsiau hyfforddi a phrofiad ymarferol.

Dros y ddwy flynedd nesaf, y bwriad yw i Nakeisha gymhwyso fel Swyddog Chwarae a mynd ymlaen i ymgymryd â mwy o gyfrifoldeb o fewn tîm chwarae'r cyngor.

"Dyma'r swydd ddelfrydol i mi," meddai.  "Rwyf bob amser wedi bod eisiau gweithio gyda phlant ac fe wnes i wneud fy ngradd mewn seicoleg ym Mhrifysgol Met Caerdydd gyda'r math yma o waith mewn golwg.

"Pan wnes i raddio yn 2019 es i i weithio mewn canolfan chwarae breifat ger fy nghartref yn Nhreganna ond yna fe darodd Covid ac, er fy mod ar ffyrlo, newidiodd popeth.

"Roeddwn i eisiau dychwelyd i'r gwaith a ches rôl drwy asiantaeth fel Cynorthwyydd Addysgu yn Ysgol Parc Ninian yn Grangetown ond dim ond am y gwaith roeddech yn ei wneud yn ystod y tymor y caech eich talu. Felly pan glywais am y swydd hon es i amdani ac roeddwn wrth fy modd pan gefais hi."

Ers iddi ddechrau gyda'r cyngor, mae Nakeisha wedi cael llawer o hyfforddiant wedi'i gynllunio i fynd â hi i gymhwyster Lefel III mewn Gwaith Chwarae.  "Rwyf eisoes wedi gwneud rhan gyntaf fy Lefel II ac wedi cael hyfforddiant mewn cymorth cyntaf, diogelu a gweithgareddau chwarae 'rhannau rhydd' - gan alluogi plant i chwarae gan ddefnyddio gwrthrychau bob dydd, yn hytrach na theganau.

"Byddaf hefyd yn cael profiad o weithio yn y swyddfa ac ochr weinyddol pethau pan fydd pawb yn dychwelyd i weithio yn y swyddfa, yn hytrach na gweithio gartref."

Mae'r hyfforddeiaeth, er yr un cyntaf yn adran Chwarae'r cyngor, yn dilyn llwyddiant y cynllun mewn meysydd eraill ac mae'n ymrwymiad gan y cyngor i ddatblygu pobl ifanc i baratoi ar gyfer y gweithle.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28941.html

 

Mark yn esiampl lluosflwydd gwydn iawn wedi 50 mlynedd yn gofalu am barciau Caerdydd

Roedd adeg pan oeddem i gyd yn gobeithio bod mewn swydd am oes ond faint all honni heddiw eu bod wedi gweithio i'r un cyflogwr - gan wneud mwy neu lai yr un tasgau - am y 50 mlynedd diwethaf?

Yn camu ymlaen mae Mark West, neu 'Westy', sydd newydd ddathlu 50 mlynedd ers dechrau gweithio yn adran Parciau Cyngor Caerdydd.

Bellach yn 65 ifanc a gweithgar o hyd, efallai ei fod wedi tynnu ei droed oddi ar y sbardun ychydig ers ei ddyddiau yn arddwr dan hyfforddiant 15 oed, ond er ei fod bellach ond yn gweithio ddau ddiwrnod a hanner yr wythnos fel goruchwyliwr gwaith, mae'n dal i dreulio mwyafrif helaeth ei amser yn meithrin ystod drawiadol Caerdydd o barciau a gerddi.

"Rwy'n credu fy mod y tu allan am efallai 90% o'r amser," meddai Mark, gan gymryd hoe tra'n gofalu am y gwelyau blodau ym Mharc Bute. "Ac mae hynny lawer yn well gen i. Rwy' wedi bod wrth fy modd gyda'r swydd hon o'r diwrnod y dechreuais hi ar £7 yr wythnos ac rwy'n dal i'w charu hi yr un faint nawr."

Fodd bynnag, gallai pethau fod wedi bod mor wahanol.  Ar ôl gadael yr ysgol yng Nghaerffili, daeth ei dad o hyd i swydd iddo yn y Ffatri Ordnans Frenhinol yng Nghaerdydd lle roedd yntau'n gweithio, am £18 yr wythnos, ond roedd yn well gan y Mark ifanc flodau'r haul i'r powdr gwn a dewisodd yn lle hynny weithio ar safle'r adran Barciau yn Llanisien, ychydig i lawr y ffordd.

"Roedden ni'n tyfu llwyni a phlanhigion eraill ar gyfer holl barciau a gerddi Caerdydd yno," meddai Mark, "ac roedd yn lle i gadw offer y cyngor hefyd. Roeddwn i yno am ddwy flynedd ac yna symud i Heol Wedal... ac rwy'n dal i fod wedi fy lleoli yma."

Gweithiodd ei ffordd i fyny i fod yn brif arddwr ym Mharc Bute ond 25 mlynedd yn ôl daeth rôl y goruchwyliwr yn wag ac fe'i dyrchafwyd. Mae ei gylch gwaith bellach yn dal i gynnwys y dirwedd ysblennydd hon yng nghanol Caerdydd ond mae hefyd yn cynnwys Gerddi'r Orsedd, Parc Cathays, y Ganolfan Ddinesig ac eraill.

Mewn 50 mlynedd mae wedi gweld newidiadau dirifedi ond nid yw'r llwyth gwaith wedi lleddfu - y Gwanwyn hwn bydd ganddo 40,000 o blanhigion i'w plannu ar draws yr ystâd er mwyn sicrhau bod calon werdd Caerdydd mor ysblennydd ag erioed.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28957.html

 

Coronafeirws Nifer wrth Nifer

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro:

https://bipcaf.gig.cymru/covid-19/rhaglen-brechu-torfol-covid-19/

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (22 Ebrill - 28 Ebrill 2022)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru:

https://public.tableau.com/profile/public.health.wales.health.protection#!/vizhome/RapidCOVID-19virology-Public/Headlinesummary

 

Mae'r data'n gywir ar:

29 Ebrill 2022

 

Achosion: 123

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 33.5 (Cymru: 27.2 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 797

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 217.2

Cyfran bositif: 15.4 (Cymru: 11.5% cyfran bositif)