Back
Meithrin cyfeillgarwch rhwng y cenedlaethau drwy’r cynllun cyfaill sgrifennu


3/5/22

Er bod y grefft o sgrifennu llythyron yn un sy'n cilio yn ein hoes ddigidol, nid felly ar gyfer grŵp o blant ysgol Caerdydd a phreswylwyr rhai o gartrefi gofal preswyl y ddinas.

 

Mae plant o Ysgol Gynradd Millbank yn Nhrelái ac Ysgol Gynradd Gatholig Sant Joseff yn Gabalfa wedi bod yn rhoi pin ar bapur, yn gohebu â'i gilydd ac yn meithrin cyfeillgarwch newydd gydag aelodau hŷn o'r gymuned sy'n byw yng Nghanolfan Gofal The Forge,Canolfan Nyrsio a Phreswyl Heol Dona Chartref Gofal Llys Trelái.

Mae'r cynllun cyfaill sgrifennu sy'n pontio'r cenedlaethau wedi'i drefnu gan wasanaeth Hybiau a Llyfrgelloedd y ddinas ac mae'n un o'r mentrau niferus a ddarperir gan y gwasanaeth fel rhan o waith y ddinas i fod yn dda i bobl hŷn. 

Ym mis Mawrth, daeth Caerdydd yr awdurdod cyntaf yng Nghymru i ymuno â Rhwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Dinasoedd a Chymunedau sy'n Dda i Bobl Hŷn.

Ac yr wythnos diwethaf,yn ystod yr Wythnos Pontio'r Cenedlaethau Fyd-eang gyntaf ac ar ôl cyfnewid llythyrau dros y ddwy flynedd ddiwethaf, daeth yr ysgrifenyddion wyneb yn wyneb o'r diwedd pan ymwelodd disgyblion Blwyddyn 6 o Ysgol Millbank â Chanolfan Gofal The Forge.

 

A picture containing person, outdoor, people, groupDescription automatically generated

Mwynhaodd y ddwy genhedlaeth yr heulwen,wrth chwarae gemau gyda'i gilydd yng ngardd y ganolfan gan gynnwys tiddlywinks, Connect 4, Robot Boy, golff o'r gadair freichiau a nadroedd ac ysgolion.

Dywedodd y Rheolwr Strategaeth Llyfrgelloedd Arweiniol, Nicola Pitman: "Mae'r plant a'r preswylwyrwedi mwynhau treulio amser yng nghwmni ei gilydd yr wythnos diwethaf, gan ddod i adnabod ei gilydd yn bersonol ar ôl ysgrifennu at ei gilydd yn ystod y pandemig. Roedd yn fraint cael bod yno a gweld rhai o'r bobl hŷn yn dod yn fyw, yn gwenu, yn chwerthin ac mewn rhai achosion yn mwynhau'r awyrgylch tra'n amlwg yn mwynhau eu hunain hefyd.

 

"Mae'r plant yn hynod ofalgar ac mae'r ddwy genhedlaeth wedi cael effaith mor gadarnhaol ar ei gilydd yn ystod cyfnodau anodd y pandemig. Mae wedi bod yn gynllun calonogol iawn."

 

Dywedodd Rheolwr Canolfan Gofal The Forge, Gill Reed: "Cawsom brynhawn anhygoel, cymaint o hwyl a chymaint o wenu - roedd yn galonogol. Diolch yn fawr iawn i'r holl blant a ymwelodd, roedd eu hymddygiad yn hyfryd ac mor barchus."

 

Dywedodd athro Millbank, Barry Blears: "Mae wedi bod yn brofiad gwych i'r plant ysgrifennu llythyrau a chwrdd â thrigolion The Forge. Gyda'r cwricwlwm newydd yng Nghymru, roedd yn gyfle perffaith i archwilio'r maes dysgu iechyd a lles a rhoi cyd-destun a phwrpas go iawn iddo i'n plant. Roedd yn brofiad arbennig iddyn nhw."

 

Mae aelodaeth Caerdydd o Rwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Dinasoedd a Chymunedau sy'n Dda i Bobl Hŷn yn ganlyniad i gydweithio helaeth â rhanddeiliaid ledled y ddinas gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, sefydliadau addysgol a sefydliadau'r trydydd sector, gan arwain at gynllun gweithredu deinamig gydag uchelgais gyffredinol y bydd Caerdydd yn dod yn Ddinas sy'n Dda i Bobl Hŷn.

Mae Wythnos Pontio'r Cenedlaethau Fyd-eang yn ymgyrch a drefnir gan Generations Working Together, sy'n cysylltu pawb sy'n frwd dros gysylltu gwahanol genedlaethau a lleihau rhagfarn ar sail oedran.Mae'r ymgyrch yn ceisio creu cyfleoedd i feithrin a dathlu perthnasoedd rhwng gwahanol grwpiau oedran er mwyn helpu i gryfhau cymunedau, lleihau unigrwydd, gwella iechyd a lles meddyliol.