29/04/22
Dyma'r diweddariad diweddaraf gan Gyngor Caerdydd, yn ymwneud â: chynllun peilot 20mya Llywodraeth Cymru mewn pedair ward yng Ngogledd Caerdydd; Pennaeth a Dirprwy Bennaeth o Gaerdydd sydd wedi ennill gwobr yng Ngwobrau Cenedlaethol Cymru; y digwyddiad ‘Dreamachine' am ddim sy'n dod i Gaerdydd ym mis Mai a'r coronafeirws nifer wrth nifer.
Cynllun peilot 20mya Llywodraeth Cymru yn cael ei roi ar waith heddiw mewn pedair ward yng Nghaerdydd
Mae pedair ward yng Nghaerdydd wedi'u dewis i fod yn rhan o dreial gan Lywodraeth Cymru i leihau'r terfyn cyflymder cenedlaethol o 30mya i 20mya mewn ardaloedd preswyl.
Mae Ystum Taf, yr Eglwys Newydd a Thongwynlais, Rhiwbeina a'r Mynydd Bychan i gyd wedi cael eu dewis i fod yn rhan o gynllun Cam 1 20mya Llywodraeth Cymru.
Bydd hyn yn golygu y bydd holl strydoedd preswyl y wardiau hyn yn cael eu cyfyngu i 20mya pan gaiff y cynllun ei weithredu, ond bydd y terfyn cyflymder ar Ffordd y Faenor a Rhodfa'r Gorllewin yn parhau yn 30mya. Disgwylir i'r cynllun gael ei weithredu'n llawn erbyn 14 Mai.
Mae holl drigolion a busnesau'r ardaloedd hyn wedi derbyn taflen wybodaeth am y cynllun, gan fod Caerdydd yn un o wyth ardal yng Nghymru sy'n helpu Llywodraeth Cymru i asesu'r ffordd orau o symud i derfyn cyflymder o 20mya mewn ardaloedd preswyl. Mae hwn yn newid cenedlaethol a fydd yn digwydd ledled Cymru yn 2023.
Darllenwch fwy yma:Cynllun peilot 20mya Llywodraeth Cymru yn cael ei roi ar waith heddiw mewn pedair ward yng Nghaerdydd (newyddioncaerdydd.co.uk)
Pennaeth a Dirprwy Bennaeth o Gaerdydd yn cipio'r brif wobr yng Ngwobrau Cenedlaethol Cymru
Mae Pennaeth Ysgol Gynradd Llansdowne, Michelle Jones a'i Dirprwy Bennaeth, Catherine Cooper wedi ennill y wobr gyntaf yng Ngwobrau Dewi Sant, sef gwobrau cenedlaethol Cymru.
Derbyniodd y ddau uwch arweinydd y wobr yn y categori Gweithiwr Allweddol Hanfodol am y cymorth a ddangoswyd ganddynt i deuluoedd yn eu hysgol yn ystod pandemig y coronafeirws.
Mewn enwebiad dienw ar gyfer gwobrau mawreddog Llywodraeth Cymru, disgrifiwyd Michelle a Catherine fel calon Ysgol Gynradd Lansdowne, gan ei gwneud yn gymuned ddiogel, gariadus, gefnogol ac uchelgeisiol.
Mae'r wobr yn cydnabod y gwaith diflino a wnaed gan Michelle a Catherine yn ystod y pandemig Covid-19 a sut yr aethant yr ail filltir i sicrhau bod plant a theuluoedd sy'n agored i niwed yn cael cymorth a chefnogaeth yn ystod cyfnod anodd iawn, gan weithio diwrnodau hir a rhoi eu bywydau personol eu hunain yn ail i gefnogi'r gymuned mewn amrywiaeth o ffyrdd.
Aeth yr enwebiad ymlaen i ddweud sut yr oedd y pâr yn darparu cymorth a gofal plant i weithwyr allweddol a phlant sy'n agored i niwed gan gynnwys cludo plant i'r ysgol, darparu bwyd a hanfodion eraill i deuluoedd a sicrhau eu bod ar gael 24/7 i gynnig cymorth a chyngor i'r gymuned.
Yn ystod y cyfnod hwn, daeth yr ysgol, o dan eu gofal, yn esiampl o ddiogelwch, a phwysodd y gymuned arnynt am gyngor, sicrwydd a chefnogaeth. Roedd lles staff yr ysgol hefyd yn eithriadol o bwysig iddynt a gwnaethant gydnabod yr effaith emosiynol ar holl gymuned yr ysgol. Gwnaethant hefyd ddarparu cymorth hanfodol i deuluoedd a brofodd golled yn ystod y pandemig.
Darllenwch fwy yma:Pennaeth a Dirprwy Bennaeth o Gaerdydd yn cipio'r brif wobr yng Ngwobrau Cenedlaethol Cymru (newyddioncaerdydd.co.uk)
Archwilio potensial y meddwi dynol ym mhrofiad ‘Dreamachine' Caerdydd
Mae'n swnio fel rhywbeth allan o ffuglen wyddonol ond mae Dreamachine, gwaith celf am ddim yr ydych chi'n ei 'weld' gyda'ch llygaid wedi'u cau, yn real, mae'n dod i Caerdydd ym mis Mai ... a gallai eich syfrdanu! Mae'r profiad yn cynnwys taith drochi o oleuadau a sain sy'n cynhyrchu byd caleidosgopig sy'n agor y tu ôl i'ch llygaid, wedi'i greu gan eich ymennydd eich hun ac sy'n unigryw i chi. Bydd Dreamachine yn y Deml Heddwch yn Cathays rhwng 12 Mai a 18 Mehefin. I gael rhagor o fanylion ac i wybod sut i gael tocynnau am ddim, dilynwch y ddolen hon:https://www.stdavidshallcardiff.co.uk/dreamachine-immersive-experience-collective-act-and-unboxed-creativity-in-the-uk-presents-dreamachine/
Coronafeirws Nifer wrth Nifer
Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro:
https://bipcaf.gig.cymru/covid-19/rhaglen-brechu-torfol-covid-19/
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod 18 Ebrill 2022 - 24 Ebrill 2022)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru:
Mae'r data'n gywir ar:
28 Ebrill 2022
Achosion: 143
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 39.0 (Cymru: 33.5 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 821
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 223.8
Cyfran bositif: 17.4% (Cymru: 13.5% cyfran bositif)