29/4/2022
Mae Pennaeth Ysgol Gynradd Llansdowne, Michelle Jones a'i Dirprwy Bennaeth, Catherine Cooper wedi ennill y wobr gyntaf yng Ngwobrau Dewi Sant, sef gwobrau cenedlaethol Cymru.
Derbyniodd y ddau uwch arweinydd y wobr yn y categori Gweithiwr Allweddol Hanfodol am y cymorth a ddangoswyd ganddynt i deuluoedd yn eu hysgol yn ystod pandemig y coronafeirws.
Mewn enwebiad dienw ar gyfer gwobrau mawreddog Llywodraeth Cymru, disgrifiwyd Michelle a Catherine fel calon Ysgol Gynradd Lansdowne, gan ei gwneud yn gymuned ddiogel, gariadus, gefnogol ac uchelgeisiol.
Mae'r wobr yn cydnabod y gwaith diflino a wnaed gan Michelle a Catherine yn ystod y pandemig Covid-19 a sut yr aethant yr ail filltir i sicrhau bod plant a theuluoedd sy'n agored i niwed yn cael cymorth a chefnogaeth yn ystod cyfnod anodd iawn, gan weithio diwrnodau hir a rhoi eu bywydau personol eu hunain yn ail i gefnogi'r gymuned mewn amrywiaeth o ffyrdd.
Aeth yr enwebiad ymlaen i ddweud sut yr oedd y pâr yn darparu cymorth a gofal plant i weithwyr allweddol a phlant sy'n agored i niwed gan gynnwys cludo plant i'r ysgol, darparu bwyd a hanfodion eraill i deuluoedd a sicrhau eu bod ar gael 24/7 i gynnig cymorth a chyngor i'r gymuned.
Yn ystod y cyfnod hwn, daeth yr ysgol, o dan eu gofal, yn esiampl o ddiogelwch, a phwysodd y gymuned arnynt am gyngor, sicrwydd a chefnogaeth. Roedd lles staff yr ysgol hefyd yn eithriadol o bwysig iddynt a gwnaethant gydnabod yr effaith emosiynol ar holl gymuned yr ysgol. Gwnaethant hefyd ddarparu cymorth hanfodol i deuluoedd a brofodd golled yn ystod y pandemig.
Gan fyfyrio ar y wobr, dywedodd y Pennaeth, Michelle Jones: "Rydym yn wirioneddol falch o dderbyn y wobr am y gefnogaeth a gynigiwyd gennym i gymuned yr ysgol yn ystod y pandemig. Teimlwn yn freintiedig o fod wedi ennill a theimlwn mai dim ond yr hyn a wnaeth pob pennaeth/dirprwy bennaeth a phob tîm arall a wnaethom ni yn ystod y pandemig. Rydym yn ffodus iawn o gael tîm gwych yn Lansdowne ac o fewn ein clwstwr a buom yn gweithio ochr yn ochr â nhw drwy gydol y broses, gan gefnogi ein cymunedau yn ystod cyfnod anodd iawn.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Mae hwn yn gyflawniad rhyfeddol a hoffai Cyngor Caerdydd ddiolch i Michelle a Catherine am eu cyfraniad yn ystod Covid-19.
"Fel llawer o'n hysgolion, gwnaeth ymdrechion staff sicrhau bod disgyblion, teuluoedd a'u cymunedau ehangach yn cael eu cefnogi yn ystod rhai o'r cyfnodau anoddaf y mae'r ddinas erioed wedi'u profi.
"Llongyfarchiadau i Michelle a Catherine, enghraifft wych o Gaerdydd yn cydweithio dros ein trigolion."