Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 26 Ebrill 2022

Dyma'r diweddariad diweddaraf gan Gyngor Caerdydd, yn ymwneud â: Parc y Maltings i gau dros dro wrth i'r gwaith uwchraddio ddechrau; Newidiadau i wasanaethau Llyfrgell Rhiwbeina; a'r coronafeirws nifer wrth nifer.

 

Parc y Maltings i gau dros dro wrth i'r gwaith uwchraddio ddechrau

Bydd Parc y Maltings yn y Sblot yn cau dros dro i'r cyhoedd o 3 Mai 2022 i ganiatáu i waith uwchraddio ddigwydd.

Ar ôl ei gwblhau, bydd y parc yn cynnwys plaza mynedfa gylchol oddi ar Stryd Tyndall Ddwyreiniol, ardal chwarae naturiol newydd, ardal gemau aml-ddefnydd a chyfleusterau sglefrfyrddio/sgwtera.

Bydd 31 o goed lled-aeddfed hefyd yn cael eu plannu fel rhan o strategaeth Caerdydd Un Blaned y Cyngor, ynghyd â dolydd, llwyni a lawntiau agored newydd. Bydd llwybrau, arwyddion, seddi a biniau newydd hefyd yn cael eu gosod.

Mae'r gwaith yn rhan o raglen barhaus o adnewyddu sy'n digwydd mewn parciau ledled y ddinas a disgwylir iddo gymryd tua phedwar mis i'w gwblhau.

 

Newidiadau i wasanaethau Llyfrgell Rhiwbeina

Mae gwasanaethau amgen ar gael i ddefnyddwyr llyfrgelloedd yn Rhiwbeina a'r ardal leol gan fod Llyfrgell Rhiwbeina wedi cau dros dro i gael ei datblygu'n hyb cymunedol newydd.

Bydd y gwaith o'i ailddatblygu yn mynd rhagddo ar  ddechrau mis Mai a disgwylir iddo gael ei gwblhau cyn diwedd y flwyddyn.

Tra bo'r gwaith adnewyddu'n cael ei wneud, bydd llyfrgell symudol y gwasanaeth ar gael dair gwaith yr wythnos ar Heol Pantbach, nid nepell o'r llyfrgell ar ddyddiau Llun (1-4pm), Mawrth (10am - 1pm) a dyddiau Gwener (1 - 4pm). Bydd cwsmeriaid yn gallu dewis o blith detholiad o lyfrau ar y cerbyd yn ogystal ag archebu teitlau, casglu llyfrau y maent wedi'u harchebu a chael mynediad i wasanaethau llyfrgell eraill.

Bydd bagiau ailgylchu gwyrdd a gwastraff bwyd hefyd ar gael yma, neu o'r Co-op ar Heol y Deri.

Mae nifer o grwpiau cymunedol sy'n cyfarfod yn y llyfrgell wedi'u hail-leoli i Ystafelloedd Cymunedol Canolfan Beulah gerllaw a Neuadd Eglwys y Bedyddwyr Bethany.  Bydd defnyddwyr y llyfrgell hefyd yn gallu gollwng llyfrau yn nerbynfa Ystafell Gymunedol Canolfan Beulah. 

Bydd cwsmeriaid sydd â phroblemau symudedd neu nad ydynt yn gallu mynychu'r lleoliadau amgen hyn yn gallu defnyddio'r gwasanaeth dosbarthu cartref a'r gwasanaeth chlicio a chasglu.

Dwedodd llefarydd ar ran y Cyngor: "Mae hybiau cymunedol yn dod â mwy o wasanaethau a gwell cyfleusterau i ardal a'r cynllun yn Rhiwbeina yw rhoi ffocws cryf ar les.

"Rydym yn ddiolchgar i bartneriaid yn yr ardal leol sy'n ein helpu i sicrhau bod y gymuned yn gallu parhau i gael mynediad at wasanaethau a gweithgareddau.  Yn ogystal â'r trefniadau amgen hyn, efallai y bydd cwsmeriaid am gael mynediad at wasanaethau yn eu hyb cymunedol agosaf yn yr Eglwys Newydd."

 

Coronafeirws Nifer wrth Nifer

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro:

https://bipcaf.gig.cymru/covid-19/rhaglen-brechu-torfol-covid-19/

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (15 Ebrill - 21 Ebrill 2022)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru:

https://public.tableau.com/profile/public.health.wales.health.protection#!/vizhome/RapidCOVID-19virology-Public/Headlinesummary

Mae'r data'n gywir ar:

25 Ebrill 2022

Achosion: 135

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 36.8 (Cymru: 36.0 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 736

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 200.6

Cyfran bositif: 18.3 (Cymru: 16.2% cyfran bositif)