Ar ôl ei gwblhau, bydd y parc yn cynnwys plaza mynedfa gylchol oddi ar Stryd Tyndall Ddwyreiniol, ardal chwarae naturiol newydd, ardal gemau aml-ddefnydd a chyfleusterau sglefrfyrddio/sgwtera.
Bydd 31 o goed lled-aeddfed hefyd yn cael eu plannu fel rhan o strategaeth Caerdydd Un Blaned y Cyngor, ynghyd â dolydd, llwyni a lawntiau agored newydd. Bydd llwybrau, arwyddion, seddi a biniau newydd hefyd yn cael eu gosod.
Mae'r gwaith yn rhan o raglen barhaus o adnewyddu
sy’n digwydd mewn parciau ledled y ddinas a disgwylir iddo gymryd tua phedwar
mis i'w gwblhau.