25.04.22
Mae Nakeisha Sheppard yn sicr yn rhywun sy'n
mwynhau ei gwaith ond yna, fel Hyfforddai Swyddog Chwarae cyntaf Cyngor
Caerdydd, nid yw hynny'n syndod.
Wedi ei chyflogi fis Tachwedd y llynedd, mae'n treulio llawer o'i diwrnod yn helpu plant ledled y ddinas i fwynhau ystod eang o weithgareddau chwarae, chwaraeon a diddordebau, ond mae hi hefyd yn ennill sgiliau gwerthfawr ei hun drwy gyrsiau hyfforddi a phrofiad ymarferol.
Dros y ddwy flynedd nesaf, y bwriad yw i Nakeisha gymhwyso fel Swyddog Chwarae a mynd ymlaen i ymgymryd â mwy o gyfrifoldeb o fewn tîm chwarae'r cyngor.
"Dyma'r swydd ddelfrydol i mi," meddai. "Rwyf bob amser wedi bod eisiau gweithio gyda phlant ac fe wnes i wneud fy ngradd mewn seicoleg ym Mhrifysgol Met Caerdydd gyda'r math yma o waith mewn golwg.
"Pan wnes i raddio yn 2019 es i i weithio mewn canolfan chwarae breifat ger fy nghartref yn Nhreganna ond yna fe darodd Covid ac, er fy mod ar ffyrlo, newidiodd popeth.
"Roeddwn i eisiau dychwelyd i'r gwaith a ches rôl drwy asiantaeth fel Cynorthwyydd Addysgu yn Ysgol Parc Ninian yn Grangetown ond dim ond am y gwaith roeddech yn ei wneud yn ystod y tymor y caech eich talu. Felly pan glywais am y swydd hon es i amdani ac roeddwn wrth fy modd pan gefais hi."
Ers iddi ddechrau gyda'r cyngor, mae Nakeisha wedi cael llawer o hyfforddiant wedi'i gynllunio i fynd â hi i gymhwyster Lefel III mewn Gwaith Chwarae. "Rwyf eisoes wedi gwneud rhan gyntaf fy Lefel II ac wedi cael hyfforddiant mewn cymorth cyntaf, diogelu a gweithgareddau chwarae 'rhannau rhydd' – gan alluogi plant i chwarae gan ddefnyddio gwrthrychau bob dydd, yn hytrach na theganau.
"Byddaf hefyd yn cael profiad o weithio yn y swyddfa ac ochr weinyddol pethau pan fydd pawb yn dychwelyd i weithio yn y swyddfa, yn hytrach na gweithio gartref."
Mae'r hyfforddeiaeth, er yr un cyntaf yn adran Chwarae'r cyngor, yn dilyn llwyddiant y cynllun mewn meysydd eraill ac mae'n ymrwymiad gan y cyngor i ddatblygu pobl ifanc i baratoi ar gyfer y gweithle.
Dwedodd Steve Morris, rheolwr gweithredol, fod y rhan fwyaf o'r hyfforddeion yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi symud ymlaen i swyddi llawn amser, o ganlyniad i'r hyfforddiant a'r profiad gwaith a thrwy ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y swydd.
"Mae'r cynllun wedi gweithio'n dda i ni mewn rhannau eraill o'r gwasanaeth," meddai, "ac rwy'n falch iawn o allu datblygu hyfforddai arall, y tro hwn mewn chwarae plant. Edrychaf ymlaen at weld sut mae Nakeisha yn datblygu yn y rôl hon a'r effaith gadarnhaol y bydd yn ei chael ar fywydau'r plant sy'n mynychu'r sesiynau chwarae."
I Sarah Stork, rheolwr Nakeisha, mae'r hyfforddeiaeth newydd yn ffordd ddelfrydol o ddod o hyd i'r genhedlaeth nesaf o swyddogion Chwarae. "Mae'n fenter newydd i ni," meddai, "ac os bydd y cyfle'n codi eto byddwn yn sicr yn edrych i’w ailadrodd.
"Yn y gorffennol rydym wedi tueddu i gyflogi Swyddogion Chwarae sydd eisoes wedi cymhwyso. Gall cael cymwysterau fod yn broses ddrud ond mae'r hyfforddeiaeth hon wedi'i chynllunio i helpu gyda hynny a gwneud y sefyllfa'n fwy deniadol. Rydym am gefnogi pobl ifanc i gael gwaith ac mae gallu cynnig hyfforddiant yn bwysig."
Mae Tîm Chwarae'r cyngor wedi'i leoli yn Sblot ond mae'n gwneud llawer o waith allgymorth mewn ysgolion ledled Caerdydd, yn cynnal sesiynau chwarae ar ôl ysgol ac yn gweithio gyda grwpiau penodol fel gofalwyr ifanc a'r gymuned teithwyr.
"Mae'r gwaith yn amrywiol iawn a dyna sy'n apelio ataf," meddai Nakeisha. "Ddoe roeddwn i mewn ysgol ac yna'n gwneud sesiwn chwarae pan oedd yr ysgol wedi gorffen. Rydym yn trefnu pêl-droed, paentio a chrefftau i blant rhwng pump a 14 oed yma yn Sblot a hefyd yng Nghanolfan Ieuenctid Trelái, Canolfan Gymunedol Cathays, Ysgol Gynradd Mount Stuart a phafiliwn Butetown hefyd.
"Mae fy nghydweithwyr yn hynod o gymwynasgar a chyfeillgar ac mae wedi bod yn braf cwrdd â llawer o blant. Mae hefyd wedi bod yn wych gweithio i'r cyngor – rydych yn clywed pethau da am sut y gallwch symud ymlaen a'r manteision ac rwy'n hapus iawn.
"Roedd fy nheulu bob amser yn dweud pa mor dda oeddwn i gyda phlant a nawr rwy'n gwneud defnydd da o hynny."