Back
Newidiadau i wasanaethau Llyfrgell Rhiwbeina

20.4.22

Bydd gwasanaethau amgen ar gael i ddefnyddwyr llyfrgelloedd yn Rhiwbeina a'r ardal leol yr wythnos nesaf, gan y bydd Llyfrgell Rhiwbeina yn cau dros dro i gael ei datblygu'n ganolfan gymunedol newydd.

Bydd y llyfrgell ar Pen-y-Dre yn cau am 5.30pm ddydd Sadwrn, 23 Ebrill. Bydd y gwaith o'i ailddatblygu yn mynd rhagddo ar  ddechrau mis Mai a disgwylir iddo gael ei gwblhau cyn diwedd y flwyddyn.

Tra bo'r gwaith adnewyddu'n cael ei wneud,bydd llyfrgell symudol y gwasanaeth ar gael dair gwaith yr wythnos ar Heol Pantbach, nid nepell o'r llyfrgell ar ddyddiau Llun (1-4pm), Mawrth (10am – 1pm) a dyddiau Gwener (1 – 4pm). Bydd cwsmeriaid yn gallu dewis o blith detholiad o lyfrau ar y cerbyd yn ogystal ag archebu teitlau, casglu llyfrau y maent wedi’u harchebu a chael mynediad i wasanaethau llyfrgell eraill.

Bydd bagiau ailgylchu gwyrdd a gwastraff bwyd hefyd ar gael yma, neu o'r Co-op ar Heol y Deri.

Mae nifer o grwpiau cymunedol sy'n cyfarfod yn y llyfrgell wedi'u hail-leoli i Ystafelloedd Cymunedol Canolfan Beulah gerllaw a Neuadd Eglwys y Bedyddwyr Bethany.  Bydd defnyddwyr y llyfrgell hefyd yn gallu gollwng llyfrau yn nerbynfa Ystafell Gymunedol Canolfan Beulah. 

Bydd cwsmeriaid sydd â phroblemau symudedd neu nad ydynt yn gallu mynychu'r lleoliadau amgen hyn yn gallu defnyddio’r gwasanaeth dosbarthu cartref a’r gwasanaeth chlicio a chasglu.

Dwedodd llefarydd ar ran y Cyngor: "Mae hybiau cymunedol yn dod â mwy o wasanaethau a gwell cyfleusterau i ardal a'r cynllun yn Rhiwbeina yw rhoi ffocws cryf ar les.

"Rydym yn ddiolchgar i bartneriaid yn yr ardal leol sy'n ein helpu i sicrhau bod y gymuned yn gallu parhau i gael mynediad at wasanaethau a gweithgareddau.  Yn ogystal â'r trefniadau amgen hyn, efallai y bydd cwsmeriaid am gael mynediad at wasanaethau yn eu hyb cymunedol agosaf yn yr Eglwys Newydd."