Back
Caerdydd i gynnal digwyddiad stadiwm WWE mawr cyntaf y DU mewn 30 mlynedd
Cyhoeddwyd heddiw fod digwyddiad stadiwm mawr cyntaf WWE yn y DU ers 30 mlynedd i'w gynnal yng Nghaerdydd.

Bydd Stadiwm Principality yn cynnal y digwyddiad Ddydd Sadwrn, 3 Medi 2022.

Yn ôl John Porco, Uwch Is-lywydd WWE, Digwyddiadau Byw. “Mae Stadiwm y Principality yn lleoliad perffaith ar gyfer cynnal digwyddiad mawr fel hwn. Bydd yn gyfle gwych i groesawu ein cefnogwyr anhygoel o Gymru, yn Ewrop, ac o gwmpas y byd.

“Bydd y penwythnos yn llawn amrywiaeth o brofiadau WWE a fydd, yn ein barn ni, yn arwain at greu atgofion oesol fel y profwyd pam gynhaliwyd SummerSlam yn Stadiwm Wembley yn 1992”.

Mae'r digwyddiad yn adeiladu ar enw da Caerdydd fel cyrchfan ddigwyddiadau o'r radd flaenaf ac mae'n ymuno â chyfres o ddigwyddiadau mawr proffil uchel, gan gynnwys Cynghrair Pencampwyr UEFA, Ras Fôr Volvo, a Chwpan Rygbi'r Byd, a gyflawnwyd yn y ddinas gyda chefnogaeth Tîm Digwyddiadau Cyngor Caerdydd, gan weithio'n agos gyda Thîm Digwyddiadau Mawr Llywodraeth Cymru.

Bydd gwybodaeth am enw'r digwyddiad, gwerthiant tocynnau a newyddion pellach am y digwyddiad ar gael yn fuan.

Gall cefnogwyr sydd â diddordeb mewn cyfle i sicrhau tocynnau ymlaen llaw gofrestru yn https://wwe.com/cardiff-2022-presale