08.04.22
Efallai bod y systemau PA wedi eu pacio'n ddiogel,
efallai bod y posteri'n dechrau pilio oddi ar y waliau ac efallai bod yr atseinio yn ein pennau wedi tawelu, ond un
wythnos yn ddiweddarach ac mae’r ganmoliaeth i Ŵyl Gerdd 6 Music Caerdydd yn
parhau i atseinio ar hyd a lled y ddinas.
Cafwyd canmoliaeth gyffredinol ar draws y cyfryngau a'r rhyngrwyd ar gyfer y digwyddiad, a welodd rai o fandiau ac artistiaid mwyaf a gorau'r byd, yn ogystal â llu o sêr sy’n codi, yn perfformio mewn lleoliadau ledled Caerdydd, gan gynnwys Neuadd Dewi Sant, Neuadd Fawr y brifysgol, y Tramshed a Chlwb Ifor Bach.
Er bod y prif ddigwyddiad, a drefnwyd gan Dîm Gŵyl Gerdd y BBC, gyda chefnogaeth Cyngor Caerdydd a Chymru Greadigol, yn cynnwys perfformwyr fel y Manic Street Preachers, Johnny Marr, Idles, Siôn John Misty, Self Esteem, Ezra Collective, Pixies, Khruangbin a Little Simz, gwnaeth y digwyddiad ymylol – y cyntaf yn hanes yr ŵyl – argraff enfawr hefyd.
Wedi'i drefnu gan Cymru Greadigol, sy'n rhan o Lywodraeth Cymru, roedd yn cynnwys 29 o sioeau ychwanegol ar draws 12 lleoliad yn cefnogi 150 o berfformwyr ychwanegol o Gymru ac, ar y cyd â'r brif ŵyl, sicrhaodd fod dros 12,000 o ddeiliaid tocynnau lwcus wedi mwynhau gweld dychweliad cerddoriaeth fyw ogoneddus wedi’r bwlch a fu, gan gefnogi dyheadau Caerdydd i ddod yn 'Ddinas Gerdd' a gydnabyddir yn rhyngwladol.
Dwedodd Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr BBC Cymru Wales: "Mae cerddoriaeth fyw yn rhywbeth rydyn ni i gyd wedi gweld ei golli yn ystod y pandemig felly roedd Gŵyl Gerdd 6 Music y BBC yng Nghaerdydd eleni yn fwy na dim ond gŵyl – roedd yn ddathliad.
"Gan weithio gyda phartneriaid ar draws y ddinas, unodd y lleoliadau, yr artistiaid, y torfeydd a'r gwrandawyr i lawenhau a dathlu rhywbeth sy’n annwyl gennym i gyd. Roedd yn wych clywed cymaint o artistiaid o Gymru, yn perfformio'n fyw ar lwyfan gydol y penwythnos, yn nwy iaith ein cenedl. Mae fy niolch i bawb am ei wneud yn benwythnos mor arbennig."
Dwedodd Ruth Cayford – pennaeth y Diwydiannau Creadigol a Diwylliant, Cyngor Caerdydd "Roedd hwn wir yn un o'r pethau gorau sydd wedi digwydd yn y ddinas. Mae hyn wedi bod mor bwysig i gadarnhau ein gwaith Dinas Gerdd Caerdydd ymhellach a thynnu sylw at y dalent yng Nghaerdydd a Chymru, yn ogystal â dod â'r gorau yn y byd i Gaerdydd er mwyn i bobl gael eu mwynhau.
"Roedd mor braf cwrdd â phobl dros y penwythnos nad
oeddent erioed wedi bod i Gymru ac a oedd wrth eu boddau. Rydym wedi mwynhau gweithio gyda thîm Gŵyl
Gerdd 6 Music y BBC a thîm Cymru Greadigol hefyd, felly mae gennym gymaint i
adeiladu arno nawr i roi Caerdydd ar y map fel cyrchfan ar gyfer twristiaeth
cerddoriaeth ryngwladol."