Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 05 Ebrill 2022

Dyma'r diweddariad diweddaraf gan Gyngor Caerdydd, yn ymwneud â: Caerdydd yn taro deuddeg gyda ffans Gŵyl 6 Music y BBC; Cynnydd yn nifer y cŵn sydd angen eu hailgartrefu; Partneriaeth i wella bywydau myfyrwyr a phreswylwyr; a'r coronafeirws nifer wrth nifer.

 

Caerdydd yn taro deuddeg gyda ffans Gŵyl 6 Music y BBC

Cynhaliodd Caerdydd ŵyl Gerddoriaeth BBC Radio 6 dros y penwythnos gyda pherfformiadau gwych gan berfformwyr anhygoel mewn lleoliadau ledled y ddinas, gan gynnwys y Manic Street Preachers, Little Simz, Pixies, Idles, Johnny Marr, Father John Misty a llawer mwy.

Rhyddhaodd y BBC dros 12,000 o docynnau ar gyfer y digwyddiad hynod boblogaidd, gyda’r Ŵyl Ymylol dan arweiniad Cymru Greadigol yn cydlynu 150 o berfformwyr eraill o Gymru, i berfformio fel rhan o'r ŵyl ehangach.

I lawer, roedd yr ŵyl yn teimlo fel adferiad hirddisgwyliedig dyddiau gwych cerddoriaeth fyw ar ôl i'r pandemig orfodi cymaint o leoliadau i gau ac roedd y cyfryngau cymdeithasol ar dân gyda sylwadau cadarnhaol.

Mae'r ŵyl, a gynhaliwyd gyda chymorth Cyngor Caerdydd a Cymru Greadigol, yn cyd-fynd â strategaeth gerddoriaeth Caerdydd, sydd hefyd yn cefnogi arena 17,000 sedd newydd wedi’i chynllunio ar gyfer Glanfa'r Iwerydd, Bae Caerdydd, yn ogystal â'r uchelgais i ddatblygu gŵyl gerddoriaeth ryngwladol, i gyd â’r bwriad o weithio tuag at ddyhead Caerdydd i ddod yn Ddinas Gerdd sy'n cael ei pharchu'n rhyngwladol. 
 
 

Cynnydd yn nifer y cŵn sydd angen eu hailgartrefu

Mae Cartref Cŵn Caerdydd yn profi cynnydd yn nifer y cŵn sydd angen eu hailgartrefu wrth i berchnogion a brynodd gŵn yn ystod y pandemig ddychwelyd i'r gwaith, a darganfod nad oes ganddynt yr amser sydd ei angen i ofalu'n iawn am eu hanifeiliaid anwes.

Ar hyn o bryd mae 46 o gŵn yn derbyn gofal yn y cartref, mae nifer o gŵn yn cael eu maethu gan wirfoddolwyr tra bo'r cytiau cŵn yn llawn, ac mae rhestr aros ar waith wrth i fwy o gŵn aros i le yn y cartref fod ar gael.

I gael gwybod mwy, a gweld rhai o'r cŵn sydd ar gael i'w hailgartrefu ar hyn o bryd, ewch i:
www.cardiffdogshome.co.uk/cy/

 

Partneriaeth i wella bywydau myfyrwyr a phreswylwyr

Sefydlwyd partneriaeth newydd a gynlluniwyd i helpu myfyrwyr i integreiddio'n fwy llwyddiannus i gymunedau lleol tra'n cydnabod y gwerth a'r pwysigrwydd a ddaw yn eu sgil i fywyd economaidd a diwylliannol Caerdydd.

Mae Cyngor Caerdydd, Heddlu De Cymru a thair prifysgol y ddinas - Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol De Cymru; ynghyd â Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru - wedi dod at ei gilydd i ffurfio bwrdd Partneriaeth Gymunedol Myfyrwyr a fydd yn canolbwyntio ar y pedair blaenoriaeth allweddol ganlynol:

 

  • Bywyd Cymunedol - gwella tai myfyrwyr, materion gwastraff/sbwriel a pharcio, diogelwch cymunedol ac ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol
  • Iechyd a lles myfyrwyr - cynnig cyngor a chymorth, gwella iechyd meddwl myfyrwyr, delio â niwed yn sgil cyffuriau ac alcohol, a hyrwyddo ffyrdd iach o fyw
  • Datblygu economaidd - ymchwilio i ffyrdd gwell o gadw graddedigion yn y ddinas ar ôl i fyfyrwyr orffen eu hastudiaethau, cynyddu cyfleoedd ymchwil, cefnogi pobl ifanc drwy  Addewid Caerdydd  ac adeiladu'r adferiad economaidd yn dilyn y pandemig drwy brosiectau adfywio strategol a datblygu'r sector addysg uwch
  • Sero Net - datblygu cynlluniau ar gyfer datgarboneiddio, mwy o fannau gwyrdd gwell, trafnidiaeth gynaliadwy, cynllunio ystadau, plannu mwy o goed ac ailgylchu mwy

 

Mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth wedi'i lofnodi rhwng Cyngor Caerdydd, Heddlu De Cymru, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol De Cymru, ar y cyd â Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

 

Coronafeirws Nifer wrth Nifer

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro:

https://bipcaf.gig.cymru/covid-19/rhaglen-brechu-torfol-covid-19/

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (25 Mawrth - 31 Mawrth 2022)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru:

https://public.tableau.com/profile/public.health.wales.health.protection#!/vizhome/RapidCOVID-19virology-Public/Headlinesummary

Mae'r data'n gywir ar:

04 Ebrill 2022

Achosion: 1,213

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 330.6 (Cymru: 311.7 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 3,080

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 839.5

Cyfran bositif: 39.4 (Cymru: 39.2% cyfran bositif)