05/04/22
Cynhaliodd Caerdydd ŵyl Gerddoriaeth
BBC Radio 6 dros y penwythnos gyda pherfformiadau gwych gan berfformwyr anhygoel
mewn lleoliadau ledled y ddinas, gan gynnwys y Manic Street Preachers, Little
Simz, Pixies, Idles, Johnny Marr, Father John Misty a llawer mwy.
Rhyddhaodd y BBC dros 12,000 o docynnau ar gyfer y digwyddiad hynod boblogaidd, gyda’r Ŵyl Ymylol dan arweiniad Cymru Greadigol yn cydlynu 150 o berfformwyr eraill o Gymru, i berfformio fel rhan o'r ŵyl ehangach.
I lawer, roedd yr ŵyl yn teimlo fel
adferiad hirddisgwyliedig dyddiau gwych cerddoriaeth fyw ar ôl i'r pandemig
orfodi cymaint o leoliadau i gau ac roedd y cyfryngau cymdeithasol ar dân gyda
sylwadau cadarnhaol.
Mae'r ŵyl, a gynhaliwyd gyda chymorth
Cyngor Caerdydd a Cymru Greadigol, yn cyd-fynd â strategaeth gerddoriaeth
Caerdydd, sydd hefyd yn cefnogi arena 17,000 sedd newydd wedi’i chynllunio ar
gyfer Glanfa'r Iwerydd, Bae Caerdydd, yn ogystal â'r uchelgais i ddatblygu gŵyl
gerddoriaeth ryngwladol, i gyd â’r bwriad o weithio tuag at ddyhead Caerdydd i
ddod yn Ddinas Gerdd sy'n cael ei pharchu'n rhyngwladol.