01/04/22
Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, yn ymwneud ag adeiladwr twyllodrus a ddedfrydwyd i dair blynedd o garchar, buddion Gŵyl Gaeaf Llawn Lles Caerdydd i bobl ifanc a'r coronafeirws nifer wrth nifer.
Adeiladwr twyllodrus yn cael ei garcharu yn Llys y Goron Caerdydd
Cafodd adeiladwr twyllodrus a dwyllodd bedwar dioddefwr allan o ychydig dan £15,000 wedi cael ei anfon i'r carchar am dair blynedd yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener diwethaf, 25 Mawrth.
Gofynnodd Alan John Freeman, 63, o Fynachdy yng Nghaerdydd, sy'n gweithredu drwy'r cwmni 'Alexander Building Maintenance' - am flaendal sylweddol gan ei ddioddefwyr am waith i'w cartrefi, gan wneud gwaith yn aml heb y cymwysterau cywir na thrwydded gan Cyfoeth Naturiol Cymru i symud gwastraff o'u heiddo.
Ym mhob un o'r pedwar achos, dyfynnodd Freeman bris rhesymol iawn am y gwaith, gyda hanner y gost yn cael ei cheisio ymlaen llaw i dalu am ddeunyddiau adeiladu a chostau llafur. Ychydig iawn o waith a wnaed ar yr eiddo hyn ac roedd y gwaith a wnaed yn 'ddi-grefft', yn aml yn gofyn am waith adfer gan adeiladwr cymwys i orffen neu gywiro'r gwaith a wnaed.
Clywodd y llys fod gan Alan Freeman euogfarnau blaenorol am droseddau safonau masnach tebyg yn 2015 a'i fod wedi cyflawni trosedd bellach pan fethodd â mynd i'r llys ym mis Gorffennaf 2021 pan oedd ar fechnïaeth.
Darllenwch fwy yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28822.html
Miloedd o bobl ifanc yn elwa ar Aeaf Llawn Lles Caerdydd
Mae miloedd o blant a phobl ifanc ledled Caerdydd wedi manteisio ar wyth wythnos o ddigwyddiadau hamdden, chwaraeon a diwylliannol a gynhaliwyd yn y ddinas fel rhan o'r Ŵyl Gaeaf Llawn Lles.
Roedd yr ŵyl, yn dilyn Gwên o Haf y llynedd, yn cynnwys llwyth o weithgareddau am ddim a gynlluniwyd i roi amrywiaeth o brofiadau i bobl ifanc hyd at 25 oed a'u teuluoedd, gan gynnwys gwersi padlfyrddio, cwrs barista, dringo creigiau dan do, disgo tawel, gemau, celf a chrefft a sioeau theatr.
Wedi'i ariannu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd, dechreuodd y Gaeaf Llawn Lles ym mis Rhagfyr gyda miloedd o deuluoedd yn cael mynediad am ddim i holl berfformiadau a digwyddiadau Nadolig byw'r ddinas, gan gynnwys llwybr golau Parc Bute a Gŵyl y Gaeaf.
Drwy raglen gelfyddydol a diwylliannol gynhwysfawr, siop 'dros dro' Caerdydd sy'n Dda i Blant yng nghanolfan siopa Dewi Sant a phecyn sylweddol o gyllid grant ar gyfer 24 o sefydliadau cymunedol ledled y ddinas, helpodd pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau cymdeithasol a'u mynegi eu hunain drwy chwarae a gweithgarwch corfforol.
Darllenwch fwy yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28832.html
Coronafeirws Nifer wrth Nifer
Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro:
https://bipcaf.gig.cymru/covid-19/rhaglen-brechu-torfol-covid-19/
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (20 Mawrth 2022 - 26 Mawrth 2022)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru:
Mae'r data'n gywir ar:
30 Mawrth 2022
Achosion: 1,767
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 481.6 (Cymru: 451.7 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 4,221
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,150.4
Cyfran bositif: 41.9 (Cymru: 39.3% cyfran bositif)
Achosion COVID-19 a adroddwyd yn ysgolion Caerdydd yn ystod y 7 diwrnod diwethaf (25 Mawrth - 31 Mawrth 2022)
Cyfanswm y nifer a adroddwyd = 595
Yn seiliedig ar y ffigurau diweddaraf, mae ychydig o dan 56,000 o ddisgyblion a myfyrwyr wedi'u cofrestru yn ysgolion Caerdydd.
Cyfanswm nifer staff ysgolion Caerdydd, heb gynnwys staff achlysurol, yw ychydig dros 7,300.