Back
Miloedd o bobl ifanc yn elwa ar Aeaf Llawn Lles Caerdydd

31.03.22
Mae miloedd o blant a phobl ifanc ledled Caerdydd wedi manteisio ar wyth wythnos o ddigwyddiadau hamdden, chwaraeon a diwylliannol a gynhaliwyd yn y ddinas fel rhan o’r Ŵyl Gaeaf Llawn Lles.

Roedd yr ŵyl, yn dilyn Gwên o Haf y llynedd, yn cynnwys llwyth o weithgareddau am ddim a gynlluniwyd i roi amrywiaeth o brofiadau i bobl ifanc hyd at 25 oed a'u teuluoedd, gan gynnwys gwersi padlfyrddio, cwrs barista, dringo creigiau dan do, disgo tawel, gemau, celf a chrefft a sioeau theatr.

Wedi'i ariannu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd, dechreuodd y Gaeaf Llawn Lles ym mis Rhagfyr gyda miloedd o deuluoedd yn cael mynediad am ddim i holl berfformiadau a digwyddiadau Nadolig byw’r ddinas, gan gynnwys llwybr golau Parc Bute a Gŵyl y Gaeaf.

Drwy raglen gelfyddydol a diwylliannol gynhwysfawr, siop 'dros dro' Caerdydd sy'n Dda i Blant yng nghanolfan siopa Dewi Sant a phecyn sylweddol o gyllid grant ar gyfer 24 o sefydliadau cymunedol ledled y ddinas, helpodd pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau cymdeithasol a’u mynegi eu hunain drwy chwarae a gweithgarwch corfforol.

Dywedodd Llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Rydym wedi mwynhau’r bartneriaeth â Chanolfan Dewi Sant, yn darparu lle diogel a chreadigol i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd ac wedi croesawu 8,000 o ymwelwyr dros chwe wythnos.

"Mae'n bwysig iawn bod plant a phobl ifanc yn cael eu cynnwys yn y ffordd y mae canol dinasoedd yn meddwl, gan roi lle diogel a hygyrch iddynt ddysgu, ymlacio a chwarae. Mae'n dangos iddynt eu bod yn cael eu croesawu a'u parchu, sydd mor bwysig.

"Denodd y gweithgareddau a'r profiadau a drefnwyd gennym gyda'n partneriaid fwy na 7,000 o ddefnyddwyr ac rydym yn arbennig o falch bod llawer ohono wedi digwydd drwy gyfrwng y Gymraeg, a bod llawer o weithgareddau wedi'u cynllunio'n benodol ar gyfer defnyddwyr anabl."

Ychwanegodd y llefarydd:  "Roedd yn bwysig parhau i gefnogi ein plant a'n pobl ifanc ar ôl dwy flynedd o darfu ar eu bywydau.  Byddwn nawr yn adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd gennym yn y gaeaf gyda haf arall o weithgareddau – mwy o gyfleoedd newydd a gwahanol i helpu i ddylanwadu ar eu diddordebau yn ogystal â'u lles corfforol, meddyliol ac emosiynol.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £5m o gyllid ledled y wlad i ddarparu gweithgareddau i bobl ifanc drwy'r haf ac ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar raglen wych arall y byddwn yn ei datgelu'n fuan."

  • Mae Gaeaf Llawn Lles yn rhan o Adferiad sy’n Dda i Blant Caerdydd ac mae'n cyd-fynd yn agos ag uchelgais y ddinas i ddod yn Ddinas sy'n Dda i Blant a gydnabyddir yn rhyngwladol, fel yr argymhellwyd gan Bwyllgor y DU ar gyfer UNICEF. I gael gwybod mwy am bolisïau'r cyngor yn y maes hwn, ewch i www.caerdyddsynddaiblant.co.uk