Back
Archwilio potensial y meddwl dynol ym mhrofiad 'Dreamachine' Caerdydd

29.03.22
Mae profiad celf o drochi pwerus, sy'n manteisio ar 'botensial diderfyn y meddwl dynol' yn dod i Gaerdydd ym mis Mai fel rhan o ŵyl UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU.

Mae Dreamachine, a fydd yn cael ei gyflwyno yn y Deml Heddwch ym Mharc Cathays rhwng 12 Mai a 18 Mehefin, wedi'i ysbrydoli gan eitem anghyfarwydd ym 1959 gan y dyfeisiwr a’r artist Brion Gysin.

Defnyddiodd ei ddyfais arbrofol o olau yn fflachio i greu rhithiau llachar, patrymau caleidosgopig a ffrwydradau o liw ym meddwl y gwyliwr.

Mae fersiwn yr 21ain ganrif yn brofiad ar eich eistedd, rhwng awr a 90 munud o hyd, sydd wedi'i gynllunio i gael ei 'weld' gyda'ch llygaid caeedig. Bydd yn arwain cynulleidfaoedd drwy amgylchedd trochi o olau a sain, mor fywiog ac mor ddisglair ag unrhyw efelychiad digidol, ond wedi'i greu gan bob unigolyn ac yn unigryw iddo.

Fe'i crëwyd gan Collective Act, gan ddwyn ynghyd artistiaid buddugol Gwobr Turner, Assemble, y cyfansoddwr a enwebwyd ar gyfer gwobrau’r Grammy a Mercury, Jon Hopkins a thîm o dechnolegwyr, gwyddonwyr ac athronwyr blaenllaw.

Dywedodd Jennifer Crook, o Collective Act: "Bydd Dreamachine yn ymgysylltu â chynulleidfaoedd ar draws oedrannau a diwylliannau mewn math newydd pwerus o brofiad cyfunol. Bydd byd caleidosgopig cyfoethog y Dreamachine yn dod o'r tu mewn, gan roi cipolwg hudolus ar botensial eithriadol eich meddwl eich hun.

"Y tu hwnt i gyfyngiadau sgriniau neu ddyfeisiau, bydd ein rhaglen ni yn archwilio'n greadigol y cysylltiadau dynol mwyaf sylfaenol: sut yr ydym yn gweld ac yn gwneud synnwyr o'r byd o'n cwmpas. I archwilio un o'r dirgelion mwyaf sy'n parhau i'r ddynoliaeth... y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cau eich llygaid."

Mae Dreamachine yn cael ei lansio yn Llundain ar 10 Mai a bydd hefyd yn ymddangos mewn lleoliadau yn Belfast a Chaeredin drwy'r haf. Dewiswyd lleoliad hanesyddol Caerdydd oherwydd fe'i hadeiladwyd, yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf, fel lle llawn ysbrydoliaeth, ac yn hyrwyddo achosion heddwch rhyngwladol.

"Bydd y profiad yn byw o fewn y deml ddinesig Art Deco wych hon," meddai Jennifer, "gan gynnig lleoliad unigryw a theimladwy i gynulleidfaoedd ar gyfer myfyrio mewnol."

Ychwanegodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Bydd y prosiect hwn yn rhoi cyfle i bobl yn y ddinas gymryd rhan mewn profiad trochi llwyr a fydd yn ysbrydoli cwestiynau, yn hybu creadigrwydd ac yn rhoi oriau o hwyl. Rydym yn teimlo’n gyffrous ynghylch cynnal y profiad hwn."

Mae tocynnau ar gyfer y Dreamachine am ddim ac wedi'u rhyddhau heddiw i unrhyw un dros 18 oed sydd eisiau cymryd rhan yn y profiad. Rhaid archebu tocynnau ymlaen llaw drwy 
www.dreamachine.world