Dyma'r diweddariad diweddaraf gan Gyngor Caerdydd, yn ymwneud â: ffyrdd ar gau ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd Prifysgol Caerdydd ar 27 Mawrth; grŵp rhandiroedd Caerdydd yn elwa o arian annisgwyl elusennol; a'r coronafeirws nifer wrth nifer.
Ffyrdd ar gau ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd Prifysgol Caerdydd ar 27 Mawrth
Bydd Hanner Marathon Caerdydd yn cael ei gynnal ar 27 Mawrth. Disgwylir i 15,000 o bobl gymryd rhan yn y digwyddiad, felly disgwylir i Gaerdydd fod yn brysur iawn.
Bydd ffyrdd ar gau yn y Ganolfan Ddinesig o 23 Mawrth er mwyn gosod a chlirio pentref y digwyddiad.
O 5am ddydd Mercher 23 Mawrth tan hanner dydd ar 29 Mawrth bydd
Heol y Coleg ar gau o'r gyffordd â Rhodfa'r Amgueddfa i'r gyffordd â Rhodfa'r Brenin Edward VII (gellir cael mynediad tan 6am ddydd Sadwrn 26 Mawrth)
O 5am ddydd Iau 24 Mawrth tan ganol dydd ar 29 Mawrth bydd
Rhodfa'r Brenin Edward VII ar gau i'r gyffordd â Boulevard de Nantes ac i'r gyffordd â Heol Neuadd y Ddinas. Caniateir mynediad i fusnesau a gwasanaethau brys o ddydd Mercher 23 Mawrth tan ddydd Gwener 25 Mawrth ac ar ddydd Llun 28 Mawrth ond ni chaniateir mynediad ddydd Sadwrn 26 Mawrth a Dydd Sul 27 Mawrth
Bydd y ffyrdd canlynol ar gau o 5am ddydd Gwener 25 Mawrth tan ganol nos ar 27 Mawrth:
Bydd y ffyrdd canlynol ar gau rhwng 4am a hanner dydd ddydd Sul 27 Mawrth:
Bydd y ffyrdd canlynol ar gau rhwng 6am a 10.45am ddydd Sul 27 Mawrth:
Bydd y ffyrdd canlynol ar gau rhwng 10am a 3.10pm:
Bydd y trefniadau mynediad canlynol ar waith ddydd Sadwrn 26 Mawrth a dydd Sul 27 Mawrth:
Bydd y ffyrdd canlynol yn cael eu cau yn eu tro o 8.30am tan 3.10pm i hwyluso'r llwybr:
Os caiff y llwybr ei gwblhau'n gynharach, yna bydd y ffyrdd hyn yn ailagor cyn 3.10pm.
Bydd y giât fysus ar Heol y Porth yn cael ei hatal am gyfnod y digwyddiad hwn o 8.30am tan 3.10pm ar 27 Mawrth.
Grŵp rhandiroedd Caerdydd yn elwa o arian annisgwyl elusennol
Mae un o gymdeithasau rhandiroedd mwyaf amrywiol ddiwylliannol Caerdydd yn bwriadu gwneud garddio'n hygyrch i'r anabl a dechreuwyr ar ôl sicrhau swm sylweddol o arian annisgwyl elusennol.
Mae Rhandiroedd Pafiliwn Pengam, oddi ar Ffordd Rover ym Mhengam, wedi bod yn safle i arddwyr brwd ers 1927 ac ar hyn o bryd mae tua 70 o aelodau yn cynhyrchu amrywiaeth eang o gynnyrch, gan gynnwys ffrwythau, llysiau a blodau.
Maent wedi treulio blynyddoedd yn trin y tir eu hunain, gyda chefnogaeth tîm gwasanaethau rhandiroedd Cyngor Caerdydd, ac yn gwneud defnydd da o'u cronfeydd cyfyngedig drwy ailgylchu deunyddiau i wneud siediau a thwneli.
Erbyn hyn, fodd bynnag, maent wedi derbyn rhodd fawr gan y cwmni cyflenwadau adeiladu Travis Perkins ar ffurf cynalydion rheilffordd a deunyddiau eraill i helpu i ddatblygu cornel wedi'i hadfer o'u safle a chreu lleiniau newydd sy'n addas ar gyfer garddwyr newydd ac anabl.
Dywedodd llywydd cymdeithas rhandiroedd Pengam, Dennis Ramsey, fod y rhodd - gan Gronfa Etifeddiaeth Travis Perkins - wedi dod ar ôl iddo ef a'i aelodau weithio'n galed i glirio ardal hanner erw a oedd wedi'i gordyfu â mieri a choed.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28784.html
Coronafeirws Nifer wrth Nifer
Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro:
https://bipcaf.gig.cymru/covid-19/rhaglen-brechu-torfol-covid-19/
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (11 Mawrth - 17 Mawrth 2022)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru:
Mae'r data'n gywir ar:
21 Mawrth 2022
Achosion: 1,544
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 420.8 (Cymru: 403.0 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 3,942
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,074.4
Cyfran bositif: 39.2 (Cymru: 37.1% cyfran bositif)