22.03.22
Mae un o gymdeithasau rhandiroedd mwyaf amrywiol
ddiwylliannol Caerdydd yn bwriadu gwneud garddio'n hygyrch i'r anabl a
dechreuwyr ar ôl sicrhau swm sylweddol o arian annisgwyl elusennol.
Mae Rhandiroedd Pafiliwn Pengam, oddi ar Ffordd
Rover ym Mhengam, wedi bod yn safle i arddwyr brwd ers 1927 ac ar hyn o bryd
mae tua 70 o aelodau yn cynhyrchu amrywiaeth eang o gynnyrch, gan gynnwys
ffrwythau, llysiau a blodau.
Maent wedi treulio blynyddoedd yn trin y tir eu hunain,
gyda chefnogaeth tîm gwasanaethau rhandiroedd Cyngor Caerdydd, ac yn gwneud
defnydd da o'u cronfeydd cyfyngedig drwy ailgylchu deunyddiau i wneud siediau a
thwneli.
Erbyn hyn, fodd bynnag, maent wedi derbyn rhodd
fawr gan y cwmni cyflenwadau adeiladu Travis Perkins ar ffurf cynalydion
rheilffordd a deunyddiau eraill i helpu i ddatblygu cornel wedi'i hadfer o'u
safle a chreu lleiniau newydd sy'n addas ar gyfer garddwyr newydd ac anabl.
Dywedodd llywydd cymdeithas rhandiroedd Pengam,
Dennis Ramsey, fod y rhodd - gan Gronfa Etifeddiaeth Travis Perkins - wedi dod
ar ôl iddo ef a'i aelodau weithio'n galed i glirio ardal hanner erw a oedd
wedi'i gordyfu â mieri a choed.
"Roeddem am wneud yr hyn a allem yma i greu
mwy o le. Ar ôl i ni glirio'r tir,
gwahoddwyd y cyngor i weld beth yr oeddem wedi'i wneud ac roeddent mor falch eu
bod wedi ein cyflwyno ar gyfer y Gronfa Etifeddiaeth.
"Nawr, gyda chymorth y cyngor, rydym yn bwriadu
creu tua 21 o 'erddi cychwynnol' bach i'r rhai sy'n newydd i randiroedd a nifer
o welyau uchel a fydd yn cael eu haddasu'n arbennig ar gyfer defnyddwyr
anabl."
Dywedodd Tracey Woodberry, ysgrifennydd y
gymdeithas, ei bod yn gobeithio y byddai'r gwaith o drawsnewid y plot yn cael
ei gwblhau o fewn dau neu dri mis. "Rydyn ni'n gwybod bod gennym lawer o
waith i'w wneud o hyd ond rydym yn hyderus y byddwn yn gwneud popeth cyn yr
haf.
"Mae gennym fwy o ddeunyddiau wedi'u rhoi i
ddod o hyd, gan gynnwys uwchbridd, a llwch cerrig i greu mynediad da i'r
lleiniau."
Mae'r gymdeithas yn ymfalchïo yn ei chynwysoldeb ac
mae ganddi aelodau o bron i 20 o wahanol gymunedau ethnig yng Nghaerdydd, gan
gynnwys garddwyr o Bortiwgal, Twrci, Yemen, Irac, Nepal a Bangladesh. Mae ganddi hefyd gyfran uchel o aelodau
benywaidd.
"Rydym wedi ehangu llawer yn ystod y blynyddoedd
diwethaf," meddai Dennis, "ac rydym bob amser wedi ceisio gwneud y
defnydd gorau o ba adnoddau y gallwn ddod o hyd iddynt. Rydyn ni bob amser yn edrych ar y cyfryngau
cymdeithasol am fargeinion ac wedi dod yn arbenigwr ar droi hen fframiau
trampolîn yn dwneli, er enghraifft."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd ei fod
wedi derbyn nifer o geisiadau gan grwpiau rhandiroedd ar draws y ddinas am
gyfran o Gronfa Etifeddiaeth Travis Perkins ond bod cynlluniau Pafiliwn Pengam
wedi creu argraff arbennig arnynt.
Os hoffech ddod yn ddeiliad rhandir yng Nghaerdydd,
cliciwch ar y wefan hon – https://www.outdoorcardiff.com/cy/cymrwch-ran/rhandiroedd/
I ddarllen mwy am strategaeth rhandiroedd Cyngor
Caerdydd a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer y ddinas gyfan, dilynwch y ddolen
hon: https://cardiff.moderngov.co.uk/documents/s56479/Cabinet%2010%20March%202022%20Alltoment%20Strat.pdf