Back
Ffyrdd ar gau ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd Prifysgol Caerdydd ar 27 Mawrth

22/03/22

Bydd Hanner Marathon Caerdydd yn cael ei gynnal ar 27 Mawrth. Disgwylir i 15,000 o bobl gymryd rhan yn y digwyddiad, felly disgwylir i Gaerdydd fod yn brysur iawn.

Bydd ffyrdd ar gau yn y Ganolfan Ddinesig o 23 Mawrth er mwyn gosod a chlirio pentref y digwyddiad.

O 5am ddydd Mercher 23 Mawrth tan hanner dydd ar 29 Mawrthbydd Heol y Coleg ar gau o'r gyffordd â Rhodfa'r Amgueddfa i'r gyffordd â Rhodfa'r Brenin Edward VII (gellir cael mynediad tan 6am ddydd Sadwrn 26 Mawrth)

O 5am ddydd Iau 24 Mawrth tan ganol dydd ar 29 Mawrthbydd Rhodfa'r Brenin Edward VII ar gau i'r gyffordd â Boulevard de Nantes ac i'r gyffordd â Heol Neuadd y Ddinas. Caniateir mynediad i fusnesau a gwasanaethau brys o ddydd Mercher 23 Mawrth tan ddydd Gwener 25 Mawrth ac ar ddydd Llun 28 Mawrth ond ni chaniateir mynediad ddydd Sadwrn 26 Mawrth a Dydd Sul 27 Mawrth

Bydd y ffyrdd canlynol ar gau o 5am ddydd Gwener 25 Mawrth tan ganol nos ar 27 Mawrth:

 Rhodfa'r Brenin Edward VII (Cyffordd â Boulevard de Nantes i'r gyffordd â Heol Neuadd y Ddinas, ac o'r gyffordd â Heol Corbett i'r gyffordd â Heol Neuadd y Ddinas)

 Rhodfa'r Amgueddfa o'r pen caeedig â Heol Corbett i'r gyffordd â Heol Gerddi'r Orsedd

Heol Gerddi'r Orsedd

Heol Neuadd y Ddinas o'r gyffordd â Rhodfa'r Amgueddfa i'r gyffordd â Heol y Gogledd.

Bydd y ffyrdd canlynol ar gau rhwng 4am a hanner dydd ddydd Sul 27 Mawrth:

 Heol y Gogledd i'r de o'r gyffordd â Boulevard de Nantes i'r gyffordd â'r A416

 Yr A4161 o'r gyffordd â Heol y Gogledd i'r gyffordd â Ffordd y Brenin,

 Ffordd y Brenin o'r gyffordd â'r A4161 i'r gyffordd â Heol y Dug

 Heol y Dug a Stryd y Castell

 Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o'r gyffordd â Stryd y Castell i'r gyffordd â Heol y Gadeirlan.

Bydd y ffyrdd canlynol ar gau rhwng 6am a 10.45am ddydd Sul 27 Mawrth:

Heol y Gogledd o'r gyffordd â Heol Colum i'r gyffordd â Boulevard de Nantes (mynediad i'r Gored Ddu drwy Blas y Parc/Heol Corbett, tua'r gogledd i fyny Heol y Gogledd).

Bydd y ffyrdd canlynol ar gau rhwng 10am a 3.10pm:

Heol Colum

 Plas y Parc o'r gyffordd â Plas Sant Andreas i'r gyffordd â Heol Colum.

Bydd y trefniadau mynediad canlynol ar waith ddydd Sadwrn 26 Mawrth a dydd Sul 27 Mawrth:

Ceir mynediad i Beatty Avenue o'r gyffordd â Lake Road North yn unig (gan gynnwys Jellicoe Gardens, Keyes Avenue a Tyrwhitt Crescent)

Bydd mynediad iac oSgwâr y Frenhines Anne yn cael ei reoli drwy Heol y Gogledd/Heol Corbett.

Lady Mary Road o'r gyffordd â Maryport Road at y gyffordd â Lake Road East.

Bydd y ffyrdd canlynol yn cael eu cau yn eu tro o 8.30am tan 3.10pm i hwyluso'r llwybr:

Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o'r gyffordd â Heol y Gadeirlan i'r gyffordd â Neville Street

Stryd Wellington, Heol Lecwydd a Heol y Grange

 Heol Penarth, Morglawdd Bae Caerdydd, Rhodfa'r Harbwr a Roald Dahl Plas

Plas Bute, Rhodfa Lloyd George a Stryd Herbert

Stryd Tyndall, Stryd Tyndall Ddwyreiniol a Windsor Road

 Stryd Adam, Fitzalan Place yn mynd ar draws Heol Casnewydd

 Llwyn y Gorllewin, Heol Richmond a Heol Albany

Heol Marlborough, Heol Pen-y-lan a Heol Ninian

 Heol y Dderwen Deg, Heol Ddwyreiniol y Llyn a Heol Orllewinol y Llyn - bydd mynediad i fynwent Cathays yn cael ei hwyluso drwy Heol Allensbank hyd nes y bydd Heol y Dderwen Deg yn agor, pan geir mynediad eto drwy'r brif fynedfa.

  • Teras Cathays, Heol Corbett a Rhodfa'r Amgueddfa

Os caiff y llwybr ei gwblhau'n gynharach, yna bydd y ffyrdd hyn yn ailagor cyn 3.10pm.

Bydd y giât fysus ar Heol y Porth yn cael ei hatal am gyfnod y digwyddiad hwn o 8.30am tan 3.10pm ar 27 Mawrth.