Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 18 Mawrth 2022

Dyma'r diweddariad diweddaraf gan Gyngor Caerdydd, yn ymwneud â: Capel Briwnant yn agor i bawb ar y Diwrnod Cenedlaethol o Fyfyrdod; Arddangos gwaith ysbrydoledig y rhai sy'n gadael gofal yng Nghaerdydd; a'r coronafeirws nifer wrth nifer.

 

Capel Briwnant yn agor i bawb ar y Diwrnod Cenedlaethol o Fyfyrdod

Eleni, cynhelir y Diwrnod Cenedlaethol o Fyfyrdod ddydd Mercher, 23 Mawrth.

Wedi'i drefnu gan yr elusen Marie Curie, mae'r Diwrnod Cenedlaethol y Fyfyrdod yn gyfle i gymryd amser i gysylltu, cefnogi'r miliynau o bobl sy'n galaru, a chofio'r teulu, ffrindiau, cymdogion a chydweithwyr sydd wedi marw.

Er mwyn helpu i nodi'r diwrnod, bydd Capel Briwnant yn Amlosgfa Draenen Pen-y-graig yn agor fel lle i bobl eistedd mewn myfyrdod preifat, rhwng 3.30pm ac 8pm, ddydd Mercher, 23 Mawrth.

Gall y rhai sy'n dymuno mynychu hefyd lenwi cerdyn coffa a chynnau cannwyll yn y capel er cof am rywun annwyl, tra bod cerddoriaeth dawel yn chwarae yn y cefndir.

I gael rhagor o wybodaeth am y Ddiwrnod Cenedlaethol o Fyfyrdod, gan gynnwys manylion am ffyrdd eraill o nodi'r diwrnod, ewch yma ar wefan Marie Curie:

www.mariecurie.org.uk/get-involved/day-of-reflection

 

Cyhoeddi'r cerflunydd fydd yn creu cerflun o arwyr rygbi Bae Caerdydd

Mae'r gwaith o greu cerflun i anrhydeddu 'torwyr cod' y byd rygbi o Fae Caerdydd, a adawodd etifeddiaeth barhaus ar fyd rygbi'r gynghrair, wedi cymryd cam mawr ymlaen yn ei ymgyrch codi arian.

Roedd y cerflun, a fydd yn anrhydeddu tri o'r chwaraewyr mwyaf blaenllaw a symudodd yn ddadleuol o yrfaoedd amatur yr undeb i serennu yn nhimau rygbi'r gynghrair proffesiynol Lloegr, yn destun ymgyrch codi arian dan arweiniad y dyn busnes o Dde Cymru, Syr Stanley Thomas OBE.

Wrth nesáu at ei darged, mae'r pwyllgor codi arian bellach wedi comisiynu'r cerflunydd Steve Winterburn i greu'r heneb i'r arwyr chwaraeon, Billy Boston, Clive Sullivan a Gus Risman, y tri o Butetown a hen ardal Tiger Bay.

Mae gan Winterburn, o Yorkshire Fine Arts, gyfoeth o brofiad yn dathlu arwyr ym myd y campau ac mae eisoes wedi anfarwoli Billy Boston mewn cerflun yn Wigan ac wedi creu'r cerflun eiconig 'Arwyr' rygbi'r gynghrair yn Stadiwm Wembley.

Roedd Boston, ynghyd â Sullivan a Risman, yn torri tir newydd wrth symud i ogledd Lloegr, gan oresgyn rhagfarn i fod yn sêr nid yn unig yn eu cymunedau mabwysiedig newydd ond hefyd yn y timau Prydain Fawr yr oeddent yn eu cynrychioli.

Mae rhagor o wybodaeth am y prosiect ar gael ynwww.torwyrcodybydrygbi.co.uk/cy

 

Arddangos gwaith ysbrydoledig y rhai sy'n gadael gofal yng Nghaerdydd

Bydd arddangosfa newydd o waith artistig gan bobl ifanc o Gaerdydd sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn agor yr wythnos nesaf yng Nghanolfan Dewi Sant.

Mae Care Leavers in Focus yn cynnwys 36 o ffotograffau ar draws chwe adran thema wahanol - hunaniaeth, perthyn, bod yn barod, llais, dyheadau a chymorth parhaus - ynghyd â datganiadau o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.

Mae'r arddangosfa'n ffrwyth llafur gwaith ar y cyd rhwng nifer o wahanol grwpiau, gan gynnwys Cymru Ddiogelach, y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol, Canolfan Adnoddau Pobl Ifanc (CAPI), Photovoice a Gwasanaethau Plant Caerdydd.

Yn ogystal â'r ffotograffau, mae'r arddangosfa hefyd yn cynnwys mygydau a wnaed gan bobl ifanc sy'n cynnwys negeseuon yn disgrifio sut maent yn teimlo amdanynt eu hunain, a model bren sy'n cyflwyno rap am aflonyddu a sgil effeithiau aflonyddu, wedi'i hamgylchynu gan ôl traed gyda negeseuon grymusol wedi'u hysgrifennu gan bobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal.

Dywedodd Joanna Chittenden, gweithiwr ieuenctid gyda Cymru Ddiogelach: "Rydym wedi bod yn cynnal rhaglen cydraddoldeb rhywiol Hyrwyddwyr Cymru, sy'n cael ei hariannu gan yr elusen Plan UK, dros y 18 mis diwethaf sydd wedi'i chynllunio i bwysleisio mwy o gydraddoldeb a hawliau merched, gan edrych ar fodelau rôl benywaidd a meithrin hunan-barch a hyder.

"Mae hyn wedi cynnwys llawer o waith creadigol yn ymwneud ag aflonyddu ar y stryd gyda merched ifanc ar ffiniau gofal yr ydym yn gweithio gyda nhw i'w cefnogi yn eu teuluoedd.

"Mae cymryd rhan yn yr arddangosfa hon wedi gwneud i'r bobl ifanc rydyn ni wedi gweithio gyda nhw sylweddoli nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain, a sylweddoli pa mor gyffredin yw aflonyddu a sut mae pobl eraill yn teimlo. Mae eu gweld yn magu hyder wedi bod yn wych."

Dwedodd llefarydd ar ran y Cyngor: "Mae llawer o bobl ifanc yng Nghaerdydd sydd â phrofiad o fod mewn gofal ac mae ein timau ymroddedig wedi ymrwymo i'w helpu i gyd drwy amrywiaeth o ffyrdd.

"Mae'r arddangosfa hon yn dangos y gall datblygu eu dawn artistig gael effaith fawr ar eu hyder ac mae'n cyd-fynd yn dda â gwaith parhaus y Cyngor i wneud Caerdydd yn Ddinas sy'n Dda i Blant UNICEF."

Mae'r arddangosfa'n agor ddydd Llun (21 Mawrth) yn yr uned Caerdydd sy'n Dda i Blant dros dro yng Nghanolfan Dewi Sant (wrth ymyl siop Apple) ac mae'n parhau tan ddydd Gwener.

 

Coronafeirws Nifer wrth Nifer

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro:

https://bipcaf.gig.cymru/covid-19/rhaglen-brechu-torfol-covid-19/

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (07 Mawrth 2022 - 13 Mawrth 2022)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru:

https://public.tableau.com/profile/public.health.wales.health.protection#!/vizhome/RapidCOVID-19virology-Public/Headlinesummary

 

Mae'r data'n gywir ar:

17 Mawrth 2022

 

Achosion: 1,178

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 321.1 (Cymru: 304.5 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 3,507

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 955.8

Cyfran bositif: 33.6 (Cymru: 32.6% cyfran bositif)

 

Achosion COVID-19 a adroddwyd yn ysgolion Caerdydd yn ystod y 7 diwrnod diwethaf (11 Mawrth - 17 Mawrth 2022)

Cyfanswm y nifer a adroddwyd = 810

  • Disgyblion a myfyrwyr = 636
  • Staff, gan gynnwys staff addysgu = 174

 

Yn seiliedig ar y ffigurau diweddaraf, mae ychydig o dan 56,000 o ddisgyblion a myfyrwyr wedi'u cofrestru yn ysgolion Caerdydd.

Cyfanswm nifer staff ysgolion Caerdydd, heb gynnwys staff achlysurol, yw ychydig dros 7,300.