Back
Arddangos gwaith ysbrydoledig y rhai sy'n gadael gofal yng Nghaerdydd

18.3.22
Bydd arddangosfa newydd o waith artistig gan bobl ifanc o Gaerdydd sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn agor yr wythnos nesaf yng Nghanolfan Dewi Sant.

Mae Care Leavers in Focus yn cynnwys 36 o ffotograffau ar draws chwe adran thema wahanol – hunaniaeth, perthyn, bod yn barod, llais, dyheadau a chymorth parhaus – ynghyd â datganiadau o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.

Mae'r arddangosfa'n ffrwyth llafur gwaith ar y cyd rhwng nifer o wahanol grwpiau, gan gynnwys Cymru Ddiogelach, y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol, Canolfan Adnoddau Pobl Ifanc (CAPI), Photovoice a Gwasanaethau Plant Caerdydd.

Yn ogystal â'r ffotograffau, mae'r arddangosfa hefyd yn cynnwys mygydau a wnaed gan bobl ifanc sy'n cynnwys negeseuon yn disgrifio sut maent yn teimlo amdanynt eu hunain, a model bren sy'n cyflwyno rap am aflonyddu a sgil effeithiau aflonyddu, wedi’i hamgylchynu gan ôl traed gyda negeseuon grymusol wedi'u hysgrifennu gan bobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal.

Dywedodd Joanna Chittenden, gweithiwr ieuenctid gyda Cymru Ddiogelach: "Rydym wedi bod yn cynnal rhaglen cydraddoldeb rhywiol Hyrwyddwyr Cymru, sy’n cael ei hariannu gan yr elusen Plan UK, dros y 18 mis diwethaf sydd wedi'i chynllunio i bwysleisio mwy o gydraddoldeb a hawliau merched, gan edrych ar fodelau rôl benywaidd a meithrin hunan-barch a hyder.

"Mae hyn wedi cynnwys llawer o waith creadigol yn ymwneud ag aflonyddu ar y stryd gyda merched ifanc ar ffiniau gofal yr ydym yn gweithio gyda nhw i'w cefnogi yn eu teuluoedd.

"Mae cymryd rhan yn yr arddangosfa hon wedi gwneud i'r bobl ifanc rydyn ni wedi gweithio gyda nhw sylweddoli nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain, a sylweddoli pa mor gyffredin yw aflonyddu a sut mae pobl eraill yn teimlo. Mae eu gweld yn magu hyder wedi bod yn wych.”

Dwedodd llefarydd ar ran y Cyngor: "Mae llawer o bobl ifanc yng Nghaerdydd sydd â phrofiad o fod mewn gofal ac mae ein timau ymroddedig wedi ymrwymo i'w helpu i gyd drwy amrywiaeth o ffyrdd.

"Mae'r arddangosfa hon yn dangos y gall datblygu eu dawn artistig gael effaith fawr ar eu hyder ac mae'n cyd-fynd yn dda â gwaith parhaus y Cyngor i wneud Caerdydd yn Ddinas sy'n Dda i Blant UNICEF."

Mae'r arddangosfa'n agor ddydd Llun (21 Mawrth) yn yr uned Caerdydd sy’n Dda i Blant dros dro yng Nghanolfan Dewi Sant (wrth ymyl siop Apple) ac mae'n parhau tan ddydd Gwener.