17/3/22
Caerdydd yw'r awdurdod cyntaf yng Nghymru i gael ei derbyn i ymuno â Rhwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Dinasoedd a Chymunedau o Gyfleoedd i'r Henoed.
Sefydlwyd y Rhwydwaith yn 2010 i gysylltu dinasoedd, cymunedau a sefydliadau ledled y byd, gyda'r weledigaeth gyffredin o wneud eu cymunedau'n lle gwych i dyfu'n hŷn.
Mae statws aelodaeth newydd y ddinas yn ganlyniad i gydweithio helaeth â rhanddeiliaid ledled y ddinas gan gynnwys y Cyngor, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, sefydliadau addysgol a sefydliadau'r trydydd sector, gan arwain at gynllun gweithredu deinamig gydag uchelgais gyffredinol o ddod yn Ddinas o Gyfleoedd i'r Henoed.
Mae'r cyflawniad yn dyst i ymrwymiad y Cyngor i ddiwallu anghenion dinasyddion wrth iddynt fynd yn hŷn ac mae'n dilyn cymeradwyaeth oStrategaeth Heneiddio'n Dda yr awdurdod yn gynharach eleni, sy'n canolbwyntio ar sut y gall gwasanaethau gydweithio'n agos i gefnogi pobl hŷn i gadw'n heini, yn gysylltiedig ac i fyw'nannibynnol gartref drwy wasanaethau ataliol sy'n seiliedig ar gryfderau, gofal cynaliadwy o ansawdd uchel a moderneiddio gwasanaethau sy'n bodoli eisoes.
Mae cydnabod pobl hŷn fel poblogaeth sy'n cael ei pharchu ac amrywiol y dylid eu galluogi i gymryd rhan ym mhob agwedd ar fywyd a chyfrannu ati, yn ganolog i'r cynllun gweithredu O Gyfleoedd i'r Henoed, sy'n dwyn ynghyd strategaethau a chynlluniau amrywiol sydd wedi'u datblygu mewn ymgynghoriad ag aelodau hŷn o'n cymunedau.
Mae'r cynllun yn cynnwys cyfres o ymrwymiadau i bobl hŷn, sy'n ymwneud ag agweddau ar fywyd megis tai, trafnidiaeth a chymryd rhan mewn gweithgareddau gwerthfawr. Mae'n amlinellu llawer o fentrau gwych sydd eisoes ar waith yn ogystal ag uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol sy'n canolbwyntio ar wella bywydau pobl hŷn.
Yn ei datganiad i'r Cyngor Llawn y prynhawn yma, 17 Mawrth, dywedodd y Cynghorydd Susan Elsmore, Aelod Cabinet y Cyngor dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles, ei bod yn falch iawn o gadarnhau cais llwyddiannus y ddinas am statws Dinas o Gyfleoedd i'r Henoed.
Dywedodd y Cynghorydd Elsmore: "Roedd yn amlwg o'r broses ymgeisio i ymuno â Rhwydwaith o Gyfleoedd i'r Henoed Sefydliad Iechyd y Byd fod Caerdydd yn ddinas wych i dyfu'n hŷn ynddi - ac mae'n gwella drwy'r amser. Mae hwn yn gyfle gwych i arddangos ein gwaith i ddinasoedd a chymunedau ledled y byd a dysgu oddi wrthynt. Rydym hefyd wedi gwneud ymrwymiad gwirioneddol i anrhydeddu egwyddor rhwydwaith Sefydliad Iechyd y Byd ac mae ein haddewidion 'Byddwn yn' yn nodi ein hymrwymiadau i sicrhau bod Caerdydd yn lle gwych i dyfu'n hŷn."
Esboniodd y Cynghorydd Elsmore sut y tynnodd cyflwyniad Caerdydd i Sefydliad Iechyd y Byd sylw at yr amrywiaeth o raglenni o gyfleoedd i'r henoed, gweithgareddau wedi'u targedu a mentrau iechyd sy'n anelu at wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl hŷn sy'n byw yng Nghaerdydd. Mae'r rhain yn cynnwys:
Dywedodd Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, Julie Morgan: "Rwy'n falch iawn mai Caerdydd yw'r awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i ymuno â Rhwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Dinasoedd a Chymunedau o Gyfleoedd i'r Henoed. Mae'n wych gweld Caerdydd yn gwrando ar bobl hŷn ac yn gweithio gyda nhw i gynllunio gwasanaethau a chymorth cymunedol sy'n galluogi pobl hŷn i ffynnu.
"Mae pobl hŷn yn rhan allweddol o'n cymunedau a'n huchelgais yw dod yn Gymru o Gyfleoedd i'r Henoed sy'n cefnogi pobl o bob oed i fyw ac i heneiddio'n dda. Rydym wedi cefnogi awdurdodau lleol i fod yn aelod o Rwydwaith Dinasoedd a Chymunedau o Gyfleoedd i'r Henoed Sefydliad Iechyd y Byd ac mae'n wych bod Caerdydd eisoes wedi dod yn aelod."
"Dywedodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Heléna Herklots CBE: "Hoffwn longyfarch Caerdydd ar gyrraedd y garreg filltir bwysig hon yn ei thaith tuag at ddod yn ddinas o gyfleoedd i'r henoed, ac rwy'n croesawu'r ymrwymiad hwn i weithredu i gefnogi pobl i heneiddio'n dda.
"Fel aelod o'r rhwydwaith byd-eang, mae gan Gaerdydd gyfleoedd newydd bellach i rannu ei phrofiad, gweithio gyda phartneriaid ledled y byd a dysgu ohonynt, a fydd yn helpu i greu mwy o syniadau newydd am y ffyrdd y gallwn gefnogi pobl i heneiddio'n dda a sicrhau bod y camau a gyflawnir mor effeithiol â phosibl.
"Rwy'n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda Chaerdydd a'i chefnogi wrth i gynlluniau gael eu trosi'n weithredoedd, fel rhan o'm gwaith ehangach gydag awdurdodau lleol ledled Cymru i wneud ein cymunedau'n fwy ystyriol o oedran, ac rwy'n edrych ymlaen yn arbennig at weld mwy o gyfleoedd i ymgysylltu, er mwyn sicrhau bod lleisiau a phrofiadau pobl hŷn yn cael eu clywed, eu deall ac y gweithredir arnynt.
"Mae'r cyhoeddiad heddiw yn gam pwysig ymlaen, ac mae'n dod â ni'n nes at wireddu ein huchelgais cyffredin o Gymru o Gyfleoedd i'r Henoed."
I ddarllen y datganiad llawn, dilynwch y ddolen honhttps://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=149&MId=7771&LLL=1