Back
Partneriaeth i wella bywydau myfyrwyr a phreswylwyr

17/03/22


Sefydlwyd partneriaeth newydd a gynlluniwyd i helpu myfyrwyr i integreiddio'n fwy llwyddiannus i gymunedau lleol tra'n cydnabod y gwerth a'r pwysigrwydd a ddaw yn eu sgil i fywyd economaidd a diwylliannol Caerdydd.

Mae Cyngor Caerdydd, Heddlu De Cymru a thair prifysgol y ddinas - Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol De Cymru; ynghyd â Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru - wedi dod at ei gilydd i ffurfio bwrdd Partneriaeth Gymunedol Myfyrwyr a fydd yn canolbwyntio ar y pedair blaenoriaeth allweddol ganlynol:

  • Bywyd Cymunedol -gwella tai myfyrwyr, materion gwastraff/sbwriel a pharcio, diogelwch cymunedol ac ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol
  • Iechyd a lles myfyrwyr- cynnig cyngor a chymorth, gwella iechyd meddwl myfyrwyr, delio â niwed yn sgil cyffuriau ac alcohol, a hyrwyddo ffyrdd iach o fyw
  • Datblygu economaidd- ymchwilio i ffyrdd gwell o gadw graddedigion yn y ddinas ar ôl i fyfyrwyr orffen eu hastudiaethau, cynyddu cyfleoedd ymchwil, cefnogi pobl ifanc drwy Addewid Caerdydd ac adeiladu'r adferiad economaidd yn dilyn y pandemig drwy brosiectau adfywio strategol a datblygu'r sector addysg uwch
  • Sero Net- datblygu cynlluniau ar gyfer datgarboneiddio, mwy o fannau gwyrdd gwell, trafnidiaeth gynaliadwy, cynllunio ystadau, plannu mwy o goed ac ailgylchu mwy.

Bydd y bartneriaeth yn llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a fydd yn gweld yr holl gyrff a enwir yn gweithio gyda'i gilydd i wella bywydau myfyrwyr a thrigolion lleol.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Mae manteision cadarnhaol myfyrwyr sy'n dysgu ac yn byw yn y ddinas a'r rhanbarth ehangach bob amser yn cael eu tanbrisio. Mae ein poblogaeth myfyrwyr yn chwarae rhan allweddol yn ddiwylliannol ac yn economaidd, gan sicrhau bod Caerdydd yn parhau i dyfu fel prifddinas fywiog ac ifanc. Ond mae pris i'w dalu weithiau am y bywiogrwydd hwnnw mewn rhannau o'r ddinas lle gall sbwriel, sŵn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol guddio'r pethau cadarnhaol. Dyna pam rydym am adeiladu partneriaeth a all edrych ar ffyrdd y gallwn i gyd weithio gyda'n gilydd i wella canlyniadau i fyfyrwyr ac i drigolion mewn cymunedau lleol lle mae poblogaeth uchel o fyfyrwyr.

"Mae'r data diweddaraf sydd ar gael yn dangos bod y Sector Addysg Uwch yn cyfrannu £4bn i economi'r DU, gyda dros 70,000 o fyfyrwyr yn dysgu ac yn byw yn Rhanbarth De Cymru. Mae'r tair prifysgol yn cyflogi dros 12,000 o swyddi llawn amser, ac mae'r ffigur hwn gryn dipyn yn uwch os ystyriwch y gadwyn gyflenwi ehangach.

"Bydd y bartneriaeth newydd hon yn dwyn ynghyd y prifysgolion, y Cyngor a Heddlu De Cymru mewn partneriaeth ffurfiol i ganolbwyntio ar ein pedair blaenoriaeth, er mwyn sicrhau bod y manteision sylweddol y mae'r boblogaeth myfyrwyr yn eu cyfrannu at yr economi leol yn cael eu gwireddu, tra'n sicrhau integreiddiad agosach rhwng y boblogaeth myfyrwyr, yr awdurdodau a'r gymuned ehangach er mwyn mynd i'r afael ag unrhyw broblemau sy'n codi."

Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, yr Athro Cara Aitchison: "Ym Phrifysgol Metropolitan Caerdydd rydym yn llwyr gefnogi datblygu'r bartneriaeth hon sy'n ymgorffori ymhellach ein hymrwymiad i weithio gyda Chyngor Caerdydd a chydweithwyr mewn prifysgolion a rhanddeiliaid ledled y rhanbarth er mwyn helpu i sicrhau newid cadarnhaol i'r bobl sy'n byw, yn dysgu, yn gweithio ac yn treulio amser yn ein prifddinas hardd. Mae ein gwaith partneriaeth yn amlygu ei hun mewn sawl ffordd, yn enwedig drwy rannu ein harbenigedd a'n cyfleusterau chwaraeon i helpu i feithrin cenedlaethau iach o ddinasyddion Caerdydd yn y dyfodol a chydweithio â'n partneriaid fel ceidwaid amgylcheddol y ddinas, gan ymrwymo i fod yn brifysgol Carbon Sero Net erbyn 2030."

Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Colin Riordan: "Mae prifysgolion yn rhan o wead bywyd Caerdydd. O ystyried yr argyfyngau economaidd, cymdeithasol a dyngarol a achoswyd gan y pandemig byd-eang a'r ymosodiad erchyll ar Wcráin, mae'n bwysicach nag erioed bod sefydliadau'n dod at ei gilydd i wynebu ein heriau ar y cyd a chefnogi ein gilydd. Dyna pam rwy'n falch iawn o lofnodi'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth newydd hwn. Mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn adeiladu ar y berthynas bresennol rhwng y prifysgolion yng Nghaerdydd a Chyngor Caerdydd sydd wedi ein helpu i fynd i'r afael â materion allweddol ar y cyd ac i dynnu sylw at y manteision a ddaw yn sgil myfyrwyr a'r prifysgolion i fywyd dinas ac economi ehangach y ddinas. Mae'r meysydd ffocws i'w croesawu'n arbennig ac yn adlewyrchu ein blaenoriaethau strategol ein hunain o fod yn gymydog da, helpu ein myfyrwyr i ddelio â heriau iechyd meddwl, cefnogi adferiad economaidd y brifddinas o'r pandemig a chydweithio i gyflawni ein huchelgais cyffredin ar gyfer dyfodol sero-net.

Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol De Cymru, Dr Ben Calvert: "Bydd llofnodi'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth i sicrhau parhad Partneriaeth Gymunedol Myfyrwyr Caerdydd yn ein galluogi ni i gyd i adeiladu ar y gwaith partneriaeth da sydd wedi digwydd er budd ein myfyrwyr a'r gymuned ehangach. Mae poblogaeth sylweddol o fyfyrwyr wedi'i lleoli yng Nghaerdydd, a thrwy weithio gyda darparwyr addysg uwch eraill, ynghyd â Chyngor Caerdydd a Heddlu De Cymru, gallwn weithio gyda'n gilydd i fynd i'r afael mewn ffordd gadarnhaol ag ystod eang o bynciau gyda'i gilydd, o dai myfyrwyr a diogelwch cymunedol i les, cefnogi'r economi leol a'n hymgyrch i ddatgarboneiddio. Edrychwn ymlaen at barhau â'r gwaith hwn a chefnogi Caerdydd a rhanbarth De Cymru ymhellach fel lle gwych i fyfyrwyr astudio, gweithio a byw ynddo." 

Mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth wedi'i lofnodi rhwng Cyngor Caerdydd, Heddlu De Cymru, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol De Cymru, ar y cyd â Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.