Back
Cwr y Camlas Caerdydd yn cyrraedd carreg filltir bwysig

17/03/22

Mae cynlluniau ar gyfer Cwr y Camlas newydd yng nghanol dinas Caerdydd wedi hen ddechrau ac mae'r gwaith galluogi ar y safle ar gyfer datblygiad Ffordd Churchill bellach wedi'i gwblhau.

Ers i'r gwaith ddechrau yn gynnar ym mis Chwefror, mae'r llain ganol ar Ffordd Churchill wedi'i dileu, palwyd y tarmac i fyny, gyda'r gwasanaeth a'r cyfleustodau a oedd o dan y ffordd bellach yn cael eu dargyfeirio. Mae palisau'r safle bellach yn eu lle fel y gall gwaith ddechrau dod â'r gamlas gyflenwi'r dociau yn ôl.

Disgwylir i'r cynllun, sy'n rhan o uwchgynllun ehangach i greu Cwr y Camlas bywiog newydd yn nwyrain y ddinas, gymryd deuddeg mis i'w gwblhau. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd Ffordd Churchill, i'r gogledd o Stryd Ogleddol Edward, ar gau i draffig.

Bydd agor y gamlas yn ddechrau uwchgynllun ehangach a fydd yn creu mannau gwyrdd cyhoeddus newydd, gyda gerddi glaw i reoli draeniad dŵr wyneb, seddi awyr agored ac ardal perfformiadau awyr agored ar ffurf amffitheatr.

Bydd yr uwchgynllun hwn, a gymeradwywyd gan Gabinet Cyngor Caerdydd ym mis Mai y llynedd yn creu ardal newydd, fywiog yn nwyrain y ddinas, gan gysylltuHeol y Bont, Heol David, Heol Charles, Stryd Tredegar, Cilgant Guildford a Lôn y Barics i greu datblygiad defnydd-cymysg, dwysedd uchel gan ddenu cartrefi, gwestai, lletygarwch, swyddfeydd o ansawdd uchel, ac unedau hamdden a manwerthu.

Gyda chyllid gan y Fargen Ddinesig a Llywodraeth Cymru, bydd gwelliannau sylweddol hefyd yn cael eu gwneud i'r ardal gyhoeddus, gyda beicffordd newydd ar Rodfa'r Orsaf, palmentydd ehangach a chyfleusterau croesi gwell o amgylch gorsaf drenau Heol y Frenhines Caerdydd, a chyffordd well newydd rhwng Stryd Adam a Ffordd Churchill. Darparwyd y cyllid i ddod â'r gamlas gyflenwi'r dociau yn ôl gan Gyngor Caerdydd.

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, yr Amgylchedd ac Ailgylchu: "Bydd agor camlas gyflenwi'r dociau a'r cynllun trafnidiaeth newydd nid yn unig yn creu canolfan ardal newydd ar gyfer y ddinas ac yn gweithredu fel catalydd ar gyfer buddsoddiad newydd, ond hefyd yn chwarae rhan hanfodol wrth reoli llif traffig a draeniad dŵr wyneb yng nghanol y ddinas.

"Bydd cyfres o erddi glaw yn cael eu hadeiladu, gyda phridd a phlanhigion penodol sy'n trin y dŵr wyneb a chael gwared ar lygryddion cyn i'r dŵr lifo i mewn i'r gamlas.  Bydd hyn yn sicrhau bod 3,700 m2o ddŵr yn cael ei ddargyfeirio i ffwrdd o'r system garthffosiaeth bob blwyddyn, gan leihau cost ac ynni trin dŵr drwy'r orsaf bwmpio carthion ym Mae Caerdydd."

Fel rhan o'r cynllun hwn, ni all traffig drwodd ddefnyddio Rhodfa'r Orsaf mwyach. Dim ond tacsis a bysus fydd yn cael defnyddio'r ffordd hon i'r naill gyfeiriad neu'r llall er mwyn rhoi blaenoriaeth i fysus deithio i mewn ac allan o'r gyfnewidfa fysus newydd ar ochr ddwyreiniol y ddinas pan fydd ar agor yn 2023.

Bydd y datblygiad newydd hwn a'r uwchgynllun ehangach yn dod â swyddi y mae mawr eu hangen yn ystod y cyfnod adeiladu, yn ogystal â chyfleoedd cyflogaeth hirdymor pan fydd y cynllun wedi'i gwblhau.

Ni fydd y gwaith hwn yn effeithio ar fynediad i fusnesau ar Ffordd Churchill a bydd y safle tacsis yn cael ei symud i Stryd Ogleddol Edward, lle bydd pwyntiau gwefru trydan newydd yn cael eu gosod at ddefnydd masnachol.