Back
Ymgyrch Cyflog Byw Cyngor Caerdydd ar y rhestr fer am anrhydedd cenedlaethol

17.3.22

Mae ymrwymiad i dalu'r Cyflog Byw i'w weithwyr ac annog cyflogwyr ledled y ddinas i wneud yr un peth wedi ennill enwebiad i Gyngor Caerdydd am anrhydedd cenedlaethol.

Mae'r Cyngor wedi cyrraedd y rhestr fer yng ngwobrau mawreddog y Local Government Chronicle eleni o dan y categori Partneriaeth Cyhoeddus / Preifat am ei fenter Cyflog Byw Gwirioneddol.

Dros y 10 mlynedd diwethaf, ers i'r Cyngor ymrwymo i dalu'r Cyflog Byw, daeth yn Gyngor Cyflog Byw a sefydlodd Bartneriaeth Dinas Cyflog Byw Caerdydd ynghyd â nifer o gyflogwyr mawr eraill.

Yn ystod y pedair blynedd diwethaf, mae'r camau a gymerwyd gan y Bartneriaeth wedi helpu Caerdydd i leihau cyfran y swyddi sy'n talu'n is na'r Cyflog Byw Gwirioneddol i 11.6% (24,000 o swyddi) yn 2021, o 20.7% (42,000 o swyddi) yn 2017, gan ei wneud yn un o'r dinasoedd sy'n perfformio orau yn y DU yn hyn o beth.

Croesawodd y Cynghorydd Chris Weaver, Aelod Cabinet y Cyngor dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, y gydnabyddiaeth o fod ar restr fer y LGC. "Mae nifer y cyflogwyr Cyflog Byw yng Nghaerdydd yn cyfrif am bron i 45% o gyfanswm Cymru ac mae'r newyddion am y gwobrau yn gymaint o glod iddynt ag i ni ond rydym yn awyddus i adeiladu ar ein llwyddiannau.

"Mae gennym dros 64,000 o bobl bellach yn gweithio i gyflogwyr Cyflog Byw achrededig ac mae Prifysgol Caerdydd wedi cyfrifo bod £39m ychwanegol wedi mynd i economi'r ddinas o ganlyniad."

"Ar ôl rhagori'n gyfforddus ar ein targedau ar gyfer y ddinas gyfan ar gyfer Mis Ebrill 2022, cyfarfu Grŵp Llywio'r Ddinas Cyflog Byw yn gynharach y mis hwn i gytuno ar gynllun gweithredu newydd a thri tharged newydd uchelgeisiol.  Erbyn mis Ebrill 2024, ein nod yw:

  • 260 o gyflogwr Cyflog Byw Gwirioneddol achrededig yng Nghaerdydd
  • 85,000 o weithwyr yn gweithio i gyflogwyr Cyflog Byw Gwirioneddol, a
  • 10,500 o weithwyr yn cael codiad cyflog i'r Cyflog Byw Gwirioneddol o leiaf.

"Mae'n bleser gennyf gyhoeddi bod Heddlu De Cymru wedi derbyn achrediad yn ddiweddar, ac mae gwaith i sicrhau achrediad Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn mynd rhagddo, sy'n golygu y bydd saith o'r wyth sefydliad sy'n aelodau o Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerdydd yn cael eu hachredu cyn bo hir fel cyflogwyr Cyflog Byw Gwirioneddol.”

"Mae cyflogwyr fel Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Prifysgol Caerdydd, Dinasyddion Cymru, Cynnal Cymru a llawer o rai eraill wedi chwarae rhan hanfodol wrth yrru'r fenter hon a chreu màs critigol o gyflogwyr Cyflog Byw yn y ddinas.  Dywedodd tua 93% o fusnesau Cyflog Byw eu bod wedi elwa ers ennill achrediad ac rwy'n annog pob cyflogwr i gael rhagor o wybodaeth yn www.livingwage.wales ."

Cynhelir gwobrau LGC 2022 yn Grosvenor House, Llundain, ar 20 Gorffennaf.  Mae wyth cyngor arall, gan gynnwys Leeds, Haringey, Swydd Buckingham a Gorllewin Berkshire, hefyd wedi'u henwebu yng nghategori Caerdydd.