Mae Bae Caerdydd wedi newid llawer ers i'r llun hwn gael ei dynnu'n ôl ym 1913.
A hyd yn oed ers i'r llun hwn gael ei dynnu o'r awyr rywbryd yn ôl yn y 90au (rydyn ni'n meddwl)...
...cyn adeiladu'r Morglawdd (a welir yma wrth i'r gwaith adeiladu fynd rhagddo) a oedd yn gatalydd ar gyfer cynllun adfywio gwerth £2 biliwn o bunnoedd o'r hen ddociau...
...a chreu cyrchfan fodern ar y glannau sef Bae Caerdydd heddiw.
Ond er ei fod yn gartref i leoliadau fel Canolfan y Mileniwm, bariau, caffis, bwytai a siopau yng Nghei'r Fôr-Forwyn, hynt a helynt Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd a llawer mwy, nid yw wedi cyrraedd ei lawn botensial o hyd i ddenu ymwelwyr (a chreu swyddi).
Felly, yr wythnos ddiwethaf, aeth adroddiad gerbron y Cabinet sy'n nodi'r cynnydd a wnaed ar ystod eang o brosiectau presennol (a rhai newydd cyffrous) i drawsnewid yr ardal yn un o brif gyrchfannau ymwelwyr a thwristiaeth y DU.
Efallai eich bod eisoes wedi clywed am rai o'r prosiectau hyn, fel yr Arena Dan Do newydd,ond yr hyn na fyddwch yn ei wybod o bosib yw bod capasiti'r arena wedi cynyddu o 15,000 i 17,000. Mae'r gwaith adeiladu yn parhau i fod ar y trywydd iawn i ddechrau'r haf hwn, sy'n golygu, os aiff popeth yn ôl y bwriad, erbyn dechrau 2025 gallai hyd yn oed mwy ohonoch fod rywle yn y dorf hon, yn mwynhau eich hoff fand.
Ond efallai eich bod chi'n gofyn tybed sut yn union fyddwch chi'n cyrraedd Bae Caerdydd i'w fwynhau?
Rydyn ni hefyd, oherwydd dyna'r allwedd i'n cynlluniau - ac mae'r adroddiad yn manylu ar welliannau mawr i'r rhwydwaith trafnidiaeth, gan gynnwys:
Ble fyddai'r llwybrau cerdded a beicio hyn yn mynd?
Rydym yn ystyried creu parc dinesig newydd.
Yma.
Bydd ymarferion ymgysylltu â'r gymuned yn digwydd yn ystod y misoedd nesaf, ond y syniad yw 'gwyrddio' Rhodfa Lloyd George gan ddisodli'r system ffordd ddeuol bresennol nad yw'n cael ei defnyddio'n ddigonol gyda ffordd unffrwd safonol a chyflwyno tirlunio newydd.
A phan fyddwch yn dod oddi ar y tram neu'n parcio'ch beic yn y Bae, nid yr arena newydd fydd yr unig beth a welwch, oherwydd bydd y Ganolfan Red Dragon ar Lanfa'r Iwerydd yn cael ei disodli gan ganolfan hamdden fwy - bydd achos busnes amlinellol ar gyfer hyn yn cael ei gwblhau yn y Gwanwyn.
Felly dyna ddiwylliant, a hamdden - beth am chwaraeon?
Wel, mae'r cynlluniau i ehangu'r Pentref Chwaraeon Rhyngwladol yn mynd rhagddynt, sy'n cynnwys ychwanegu felodrom newydd a lleoliad moto-cross awyr agored at yr arena iâ, y pwll rhyngwladol a'r ganolfan dŵr gwyn presennol.
Credwn fod hyn i gyd yn hynod o gyffrous - yng ngeiriau'r Cynghorydd Goodway, yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, bydd y cynlluniau'n adfywio ac yn 'ail-danio' Bae Caerdydd - yn ogystal â chreu mwy o swyddi a chyfleoedd i bobl sy'n byw gerllaw.
Ond mae mwy - roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys nifer o syniadau (y byddai angen cyllid gan y Llywodraeth a phartneriaethau preifat i fwrw ymlaen â nhw) gan gynnwys:
A safle digwyddiadau 450,000 metr sgwâr a pharc y glannau ym Mhentir Alexandra, ynghyd ag atyniadau teuluol eraill a hyd yn oed traeth dinesig - wedi'r cyfan, yn y golau cywir mae'r Bae eisoes yn debyg i olygfeydd breuddwydiol L.A.
Nid breuddwydion yw'r cyfan serch hynny - mae rhai o'r cynlluniau hyn eisoes wedi'u cynnig, ond mae'r pandemig wedi atal rhywfaint o'r cynnydd. Rydym yn obeithiol y bydd y rhai sydd eisoes yn y cam cynllunio nawr yn symud ymlaen a bod modd ymchwilio ymhellach i gynlluniau posibl.
Mae llawer o'r prosiectau'n rhyngddibynnol, gyda'r arena newydd yn chwarae rhan hanfodol wrth ddatgloi hyder ac arian y sector preifat i ddatblygu prosiectau yn y dyfodol.
Ond rydym eisoes yn brysur yn sefydlu safleoedd ar gyfer y prosiectau, yn caffael tir lle bo angen ac yn trafod cynigion gan gwmnïau adeiladu, gweithredwyr lleoliadau a chyrff, megis Trafnidiaeth Cymru, sy'n allweddol i'w llwyddiant, ac rydym hefyd yn bwriadu gwneud cais am gyfran o Gronfa Codi'r Gwastad Gwerth £4.8bn gan Lywodraeth y DU a sicrhau arian cyfatebol gan Lywodraeth Cymru i helpu i ariannu'r gwaith adfywio.
Gallwch gael y manylion llawn yn yr adroddiad yma: https://cardiff.moderngov.co.uk/documents/s56587/Cabinet%2010%20March%202022%20Cardiff%20Bay%20regeneraton.pdf
Mae tipyn i'w wneud. Ni fydd yn digwydd dros nos, ac mae rhai o'r cynlluniau hyn ar eu camau cynnar, ond mae un peth yn sicr - byddwn yn parhau i weithio i greu mwy o swyddi a chyfleoedd i bobl leol ac i barhau i drawsnewid y Bae yn gyrchfan i dwristiaid sy'n arwain y DU.