16.03.2022
Cyhoeddwyd heddiw ym Mharc Bute y bydd camerâu teledu cylch cyfyng newydd yn cael eu gosod yn y parc a'r cyffiniau yng nghanol y ddinas fel rhan o'r gwaith o fynd i'r afael â throseddu a gwella diogelwch y cyhoedd.
O fis Ebrill 2022, bydd camerâu teledu cylch cyfyng newydd yn cael eu gosod mewn chwe lleoliad allweddol i sicrhau bod y prif lwybrau a'r mynedfeydd yn cael eu monitro a byddant yn gwella'n sylweddol y gallu i atal a chanfod troseddau yn y parc.
Gwnaed y cyhoeddiad arbennig heddiw yng nghwmni partneriaid o Heddlu De Cymru a Caerdydd AM BYTH, fel rhan oymrwymiad Cyngor Caerdyddihybudefnydd diogel o barciau Caerdydd.
Gwnaed y cyhoeddiad heddiw ym Mharc Bute gan Ddirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Sarah Merry;Cadeirydd Rhwydwaith Diogelwch Menywod yng Nghaerdydd a Chyfarwyddwr Cyswllt Caerdydd AM BYTH,Emily Cotterill,a Heddlu De CymruEmily Martin and Sarah Breverton.
Ymhlith y mesurau diogelwch sydd wedi'u rhoi ar waith ym Mharc Bute mae:
Mae Cyngor Caerdydd yn ystyried cyfres o fesurau i wella diogelwch ym mharciau poblogaidd y ddinas yn dilyn nifer o ddigwyddiadau, gan gynnwys un a welodd gwerth miloedd o bunnoedd o ddifrod wedi'i achosi i goed, planhigion, gwaith cerrig, gorchuddion tyllau a cheblau ffibr optig ym Mharc Bute ym mis Medi y llynedd.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Bydd y camerâu teledu cylch cyfyng newydd yn sicrhau goruchwyliaeth dros leoliadau allweddol ledled y parc a bydd eu dyluniad yn sicrhau na fyddan nhw'n amlwg iawn i'w gweld.
"O ystyried yreffaith bosibl y gallai goleuadau ei chael ar y bywyd gwyllt yn ein parciau,rwy'n falch o gadarnhau na fydd angen goleuadau ar y camerâu hyn i weithio yn y nos.
"Mae gosod teledu cylch cyfyng a'n mentrau diogelwch eraill, gan weithio gyda'n partneriaid gan gynnwys Heddlu De Cymru a Caerdydd AM BYTH, yn golygu y gall pawb barhau i fwynhau Parc Bute.
"Mae parciau Caerdydd bob amser wedi bod yn lleoedd diogel lle gall pobl fynd i fwynhau'r awyr agored ac mae'n bwysig iawn eu bod yn aros felly."
Dolenni Perthnasol