Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 15 Mawrth 2022

15/03/22


Dyma'r diweddariad diweddaraf gan Gyngor Caerdydd, yn ymwneud â: hwb i ailwampio gwefan Hybiau a Llyfrgelloedd; lansiad swyddogol cynllun Ierdydd Ysgol Llawn Bwyd Caerdydd; anrhydedd dinesig pwysig i HMS Cambria - cartref y Llynges Frenhinol yng Nghymru; a'r coronafeirws nifer wrth nifer.

 

Hwb i ailwampio gwefan Hybiau a Llyfrgelloedd

 

Mae gwefan Gwasanaeth Hybiau a Llyfrgelloedd Caerdydd wedi cael ei hailwampio.

Mae'r wefan ynwww.hybiaucaerdydd.co.uk, sy'n darparu'r holl wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau a gweithgareddau sy'n digwydd mewn canolfannau a llyfrgelloedd ledled y ddinas, yn ogystal â sesiynau ar-lein, wedi'i hadnewyddu i'w gwneud yn haws i gwsmeriaid gael gafael ar wybodaeth, i gyd mewn un lle.

Mae adrannau newydd ar y wefan yn cynnwys gwybodaeth am wasanaethau cynghori y cyngor megis Cyngor i Mewn i Waith a Chyngor Ariannol, yn ogystal â Gwasanaeth Cymorth Lles newydd y Cyngor, sy'n ceisio hybu iechyd a lles y gymuned a lleddfu rhai o effeithiau negyddol pandemig COVID-19 drwy ddarparu cyfleoedd i helpu cymaint o bobl â phosibl.

Mae gan bob hyb a llyfrgell yn y ddinas ei thudalen ei hun ar y safle erbyn hyn, sy'n darparu gwybodaeth am ba wasanaethau a chyfleusterau sydd ar gael yn y lleoliad, digwyddiadau, oriau agor a manylion cyswllt.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne:  "Mae gwefan hybiau Caerdydd yn edrych yn wych ar ôl ei hadnewyddu - yn fwy disglair ac yn llawn gwybodaeth ddefnyddiol am wasanaethau, gweithgareddau a digwyddiadau yn ein rhwydwaith gwych o hybiau a llyfrgelloedd ledled y ddinas.

"Rydym yn gobeithio y bydd y newidiadau o gymorth i gwsmeriaid a byddwn yn eu hannog i edrych yn fanylach ar yr hyn sydd ar gael yn eu cyfleuster lleol."

I gael gwybodaeth a chyngor ar wasanaethau hybiau a llyfrgelloedd, edrychwch ar y wefan ar ei newydd wedd yma:

www.hybiaucaerdydd.co.uk

 

Lansiad swyddogol cynllun Ierdydd Ysgol Llawn Bwyd Caerdydd

 

Mae rhaglen sydd wedi ennill sawl gwobr am drawsnewid meysydd chwarae ysgolion yn erddi ffrwythau a llysiau awyr agored bywiog wedi'i lansio'n swyddogol yng Nghaerdydd.

Hyd yn hyn mae Cyngor Caerdydd mewn partneriaeth â'r elusen amgylcheddol Trees for Cities (TfC) wedi darparu 15 Iard Ysgol Llawn Bwyd ar draws y ddinas gyda'r nod o ennyn brwdfrydedd plant dros dyfu a bwyta bwyd iach, wrth ddarparu adnoddau dysgu awyr agored gwerthfawr.

Lansiwyd y prosiect yn swyddogol yn Ysgol Gynradd Glan-yr-Afon yn Llanrhymni gan Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Addysg, yr Amgylchedd a Sgiliau, y Cyng. Sarah Merry,  ynghyd â Phrif Weithredwr TfC, David Elliot, a Chyfarwyddwr Grow Cardiff, Isla Horton.

Ymunodd staff a disgyblion â nhw o'r ysgol a berfformiodd gân a gyfansoddwyd yn arbennig ar gyfer y digwyddiad. 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Yng Nghaerdydd rydym yn cydnabod buddion gwerthfawr mannau gwyrdd o ran iechyd a lles plant a phobl ifanc ac rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i hyrwyddo'r defnydd o fannau awyr agored ar gyfer dysgu a chwarae.

"Trwy weithio'n agos gyda phob ysgol, mae TfC a'r Cyngor wedi gallu creu dyluniadau pwrpasol ar gyfer meysydd chwarae, lle gellir tyfu bwyd ar draws yr ysgol gyfan, gan annog deietau iachach ac ymddygiadau bwyta da ar gyfer y dyfodol."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28670.html


Anrhydedd dinesig pwysig i HMS Cambria - cartref y Llynges Frenhinol yng Nghymru

 

Bydd HMS Cambria, cartref y Llynges Frenhinol ar y lan yng Nghymru, yn cael Rhyddid Caerdydd i gydnabod ei 75 mlynedd o wasanaeth sy'n helpu i amddiffyn y genedl.

Mae disgwyl i Gyngor Caerdydd gymeradwyo'r anrhydedd - a ddyfarnwyd i ddim ond 62 o unigolion ac 11 sefydliad er 1886 - yn ei gyfarfod ddydd Iau nesaf. Ymhlith y sefydliadau milwrol sydd wedi cael eu hanrhydeddu yn y gorffennol mae Catrawd y Cymry (1944), Catrawd Frenhinol Cymru (1969), HMS Cardiff (1988) a HMS Dragon, sef y derbynnydd olaf o'r anrhydedd, yn 2014.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd y Cyngor: "Mae HMS Cambria wedi gwneud cyfraniad eithriadol i fywyd Caerdydd ers ei sefydlu yng Nghaerdydd ym 1947, pan oedd wedi'i leoli mewn hen ffowndri ar ochr orllewinol Doc y Dwyrain.

"Yn y blynyddoedd ers hynny, mae wedi chwarae rhan ganolog mewn hyfforddi a defnyddio Milwyr Wrth Gefn y Llynges Frenhinol yn y môr a'r glannau, gartref a thramor."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28696.html

Coronafeirws Nifer wrth Nifer

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro:

https://bipcaf.gig.cymru/covid-19/rhaglen-brechu-torfol-covid-19/

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (4 Mawrth - 10 Mawrth 2022)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru:

https://public.tableau.com/profile/public.health.wales.health.protection#!/vizhome/RapidCOVID-19virology-Public/Headlinesummary

 

Mae'r data'n gywir ar:

14 Mawrth 2022

 

Achosion: 1,049

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 285.9 (Cymru: 263.3 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 3,314

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 903.2

Cyfran bositif: 31.7 (Cymru: 29.8% cyfran bositif)