Mae dadansoddiad newydd a gynhaliwyd gan yr elusen annibynnol Meysydd Chwarae Cymru, mewn cydweithrediad â Chyngor Caerdydd, wedi canfod bod 19% o'r ddinas yn barciau a mannau gwyrdd sy'n hygyrch i'r cyhoedd - ardal o 2682 hectar (sy'n cyfateb i 3756 o gaeau pêl-droed).
Mae 1073 hectar o fannau gwyrdd yng Nghaerdydd yn eiddo i Gyngor Caerdydd ac yn cael eu rheoli ganddo, gan ddarparu mannau cymdeithasol pwysig i gymunedau, cynnig cyfleoedd ar gyfer chwarae, chwaraeon a hamdden, cyfrannu at fioamrywiaeth, caniatáu mynediad hawdd i fyd natur, a helpu i liniaru effeithiau'r newid yn yr hinsawdd.
Mae'r cyngor eisoes wedi diogelu 113 hectar o'r tir hwn am byth gyda'r elusen, drwy gytundeb cyfreithiol a elwir yn 'weithred gyflwyno'.
Ar ôl ymrwymo, mae'r cytundeb yn golygu bod angen i'r elusen roi caniatâd ar gyfer unrhyw ddatblygiad neu warediad yn y dyfodol, sy'n ymroddedig i ddiogelu a hyrwyddo parciau a mannau gwyrdd.
Defnyddir y dadansoddiad newydd i helpu i lywio dull y cyngor o ddiogelu mannau gwyrdd sy'n eiddo i'r cyngor yn y dyfodol.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Mae'r pandemig wedi dangos yn glir pa mor hanfodol yw parciau Caerdydd i'n cymunedau - mae ganddynt hefyd rôl bwysig i'w chwarae wrth fynd i'r afael â'r argyfyngau natur a hinsawdd rydym i gyd yn eu hwynebu.
"Rydym eisoes wedi sicrhau bod 113 hectar o fannau gwyrdd gwerthfawr Caerdydd yn cael eu diogelu'n llawn rhag unrhyw ddatblygiad yn y dyfodol drwy eu dynodi'n Feysydd Chwarae Cymru, a bydd y canfyddiadau calonogol yn y dadansoddiad newydd hwn yn sail gref i'n gwaith gyda Meysydd Chwarae Cymru yn y dyfodol, wrth i ni geisio nodi parciau a mannau pellach y gellid eu gosod o dan warchodaeth barhaol yr elusen."
Dywedodd Prif Weithredwr Meysydd Chwarae Cymru, Helen Griffiths, "Mae Parciau Trefol yn darparu lleoedd ar gyfer chwarae, ymlacio a mwynhau'r byd naturiol. Mae'r mannau gwyrdd hyn yn helpu i liniaru effeithiau gwaethaf newid yn yr hinsawdd, yn hybu ansawdd aer ac yn cefnogi bioamrywiaeth. Mannau gwyrdd amlswyddogaethol sy'n cynnig manteision lluosog. Dyna pam mae angen inni ddiogelu ein parciau ar gyfer lles yn y dyfodol. Gobeithiwn y bydd Cyngor Caerdydd nawr yn ymuno â Lerpwl, Wrecsam, Caeredin a llawer o ddinasoedd eraill y DU i ddiogelu mwy o'u mannau gwyrdd gwerthfawr am byth."
Y deg man gwyrdd sy'n eiddo i'r cyngor sydd eisoes wedi'u diogelu rhag cael eu datblygu am byth fel Meysydd Chwarae Cymru yw: Gerddi Alexandra, Gerddi'r Faenor, Parc y Mynydd Bychan, Man Agored Hywel Dda, Parc Llanisien, Parc y Morfa yn Sblot, Caeau Pontcanna, Caeau Pontprennau, Maes Hamdden y Rhath a Maes Hamdden Tredelerch.
Mae dau le gwyrdd arall yng Nghaerdydd, a reolir gan Gynghorau Cymuned lleol, hefyd yn cael eu diogelu gan Feysydd Chwarae Cymru, sef Maes Hamdden Creigau a Chae Chwarae Pentref Llaneirwg