Mae anghenion newidiol preswylwyr Caerdydd a Bro Morgannwg, gan gynnwys rhai mewnwelediadau cynnar i effaith y pandemig, wedi’u hamlinellu mewn adroddiad newydd pwysig.
Mae Asesiad o Anghenion y Boblogaeth 2022 ar gyfer rhanbarth Caerdydd a Bro Morgannwg yn amlinellu anghenion gofal a chymorth poblogaeth y rhanbarth dros y pum mlynedd nesaf, ac ystod a lefel y gwasanaethau sydd eu hangen i ddiwallu'r angen hwnnw.
Mae’r adroddiad, a gafodd ei lunio dros y 10 mis diwethaf gan dimau ar draws Cynghorau Caerdydd a Bro Morgannwg, ynghyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, yn cynnwys canlyniadau cyfres o ymgynghoriadau cyhoeddus gan gynnwys arolygon ar-lein, 23 o grwpiau ffocws a chyfweliadau gyda gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol.
Dywedodd y Cynghorydd Susan Elsmore, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles, fod yr adroddiad yn arf hanfodol yn ymgais y ddinas i ddarparu'r cymorth gorau lle'r oedd ei angen fwyaf. "Mae sawl agwedd ar yr adroddiad y bydd angen ein holl arbenigedd ac adnoddau arnynt i fynd i'r afael â nhw," meddai. "Mae gan lawer o'r materion a amlygwyd gysylltiad uniongyrchol ag amddifadedd, ond mae'r Cyngor wedi cymryd camau cadarnhaol yn y maes hwn wrth gefnogi pobl allan o dlodi.
"Rhwng 2017 a 2019, mae nifer yr oedolion mewn tlodi materol (y graddau y gall pobl fforddio eitemau fel gwres a bwyd) yng Nghaerdydd wedi gostwng o 16% i 13%. Ac er bod ffactorau sy'n effeithio ar dlodi sydd allan o'n rheolaeth ni fel Cyngor, rydym wedi gwneud llawer o waith effeithiol yn hyrwyddo'r Cyflog Byw Gwirioneddol.
"Drwy ein hymrwymiadau ein hunain a chynyddu'r nifer o gyflogwyr sydd wedi'u hachredu fel cyflogwyr Cyflog Byw ar draws y ddinas o 33 yn 2017 i fwy na 160 heddiw, mae dros 61,000 o bobl yn y ddinas yn gweithio i gyflogwr Cyflog Byw, gyda bron i 8,000 o'r rheini'n cael codiad cyflog oherwydd yr ymdrechion hyn. Mae hynny hefyd wedi golygu bod £39m yn ychwanegol yn mynd i economi Caerdydd."
Mae'r adroddiad yn ymdrin ag ystod eang o feysydd, gan fynd i'r afael ag anghenion nid yn unig y rhai yr effeithir arnynt yn uniongyrchol ond hefyd eu gofalwyr – cyflogedig a di-dâl. Mae'n cydnabod y gwaith caled a wnânt ond mae'n argymell gwella mynediad at wasanaethau a darparu gofal seibiant wrth i nifer y bobl sy'n agored i niwed gynyddu.
Dywedodd y Cynghorydd Graham Hinchey, aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Blant a Theuluoedd: "Mae gofalwyr yn hanfodol i'r system iechyd a gofal gyfan ac mae'r adroddiad yn cydnabod hyn. Credwn fod dros 57,000 o ofalwyr yng Nghaerdydd a'r Fro, a rhagwelir y bydd y nifer hon yn codi i fwy na 60,000 erbyn 2040.
"Ceisiwyd safbwyntiau llawer ohonynt wrth lunio’r adroddiad ac mae'n bwysig ein bod yn gweithredu ar eu syniadau a'u hanghenion."
Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y gwelliannau a wnaed ar
draws pob maes gofal ers cyhoeddi'r Asesiad o Anghenion y Boblogaeth cyntaf yn
2017. Ac mae hyn er gwaethaf effeithiau Covid-19. Fodd bynnag, roedd rhai
meysydd yn peri pryder, gan gynnwys:
Mae hefyd yn cyhoeddi sylwadau cadarnhaol sydd wedi
deillio o'r ymgynghoriadau cyhoeddus a'r grwpiau ffocws ac yn awgrymu nad yw
llawer o ymatebwyr yn chwilio am ofal a chymorth traddodiadol ond yn hytrach
am:
Dywedodd arweinydd y Cyngor, Huw Thomas: "Mae'r rhain i gyd yn feysydd yr ydym ni fel Cyngor wedi bod yn canolbwyntio arnynt oherwydd ein bod yn gwybod y gall pob un ohonynt gael effaith ar iechyd a lles.
"Ym maes addysg, rydym wedi buddsoddi £450m mewn ysgolion drwy ein rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif ac mae nifer y bobl yng Nghaerdydd sydd â chymhwyster lefel gradd wedi cynyddu 30.2% rhwng 2012 a 2020 ac yn yr un cyfnod mae'r rhai heb gymwysterau o gwbl bron wedi haneru, o 9.7% i 5.3%.
"O ran yr hyn y gallwn fynd i'r afael ag ef, rydym wedi lleihau'r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion o deuluoedd incwm isel a'r rhai o gefndiroedd mwy cefnog, a rhwng 2010 a 2017 mae'r bwlch mewn cyflawniad rhwng disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a disgyblion nad ydynt yn gymwys wedi crebachu mwy nag 8%.
"Ers 2017, mae ein Tîm Cyngor Ariannol wedi helpu ein trigolion i hawlio mwy na £75m mewn budd-daliadau wythnosol ychwanegol, ac mae canran yr aelwydydd di-waith wedi gostwng o 18.2% yn 2015 i 12.9% yn 2020.
"Mae cyfradd diweithdra Caerdydd wedi gostwng o 9.8% yn 2011-12 i 4.9% yn 2020-21, diolch yn rhannol i 3,600 o bobl yn dod o hyd i waith ers 2018 gyda chymorth ein gwasanaeth i Mewn i Waith a'r Cyngor ei hun yn creu a diogelu 5,000 o swyddi newydd ers 2019-20.
"Yng Nghaerdydd rydym wedi lleihau nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd o 130 yn 2019 i ddim ond 20 heddiw, rydym wedi cychwyn ar raglen enfawr i ddarparu 4,000 o gartrefi cyngor newydd ledled y ddinas ac mae ein menter 'Symud Mwy Caerdydd' yn targedu adnoddau tuag at gynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch iach ymhlith grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, yn enwedig yn arc ddeheuol llai cyfoethog y ddinas.
"Mae'r adroddiad hwn yn amlinellu bod llawer i'w wneud o hyd ond rydym wedi ymrwymo i wella bywydau ein trigolion yn gyson, yn enwedig y rhai sydd angen ein cymorth fwyaf. Mae darparu gwell swyddi, tai gwell a mwy fforddiadwy ac addysg well yn ffactorau allweddol wrth dynnu pobl allan o dlodi, ac mae dod allan o dlodi yn ffactor allweddol wrth wella eu hiechyd."
Ychwanegodd fod y Cyngor hefyd yn canolbwyntio ar greu amgylchedd mwy gwyrdd a glanach fyth ar draws y ddinas, gan ddweud: "Ni yw'r ddinas sydd â’r nifer fwyaf o wobrau'r Faner Werdd yng Nghymru, sef y meincnod cenedlaethol ar gyfer parciau a mannau gwyrdd, a'r ddinas sy’n perfformio orau yng Nghymru o ran darparu mannau gwyrdd o fewn pellter cerdded i drigolion."
Meysydd a gwmpesir gan yr adroddiad, ynghyd â rhai canfyddiadau, ac argymhellion:
Plant a phobl ifanc, a'r rhai ag anghenion cymhleth
Pobl hŷn
Pobl ag anableddau corfforol
Awtistiaeth
Iechyd meddwl oedolion
Dementia
Gofalwyr di-dâl sy'n oedolion
Nam ar y synhwyrau
Camddefnyddio sylweddau
Carcharorion
Ceiswyr lloches/ffoaduriaid
Cyn-Filwyr
Mae adroddiad Asesiad o Anghenion Poblogaeth 2022 yn mynd gerbron Cabinet y Cyngor ddydd Iau pan ddisgwylir iddo gael ei gymeradwyo'n ffurfiol.
Mae'r adroddiad llawn ar gael i'w ddarllen yma: Item 16 Cab Agenda Briefing 23 Feb 2022 Pop Needs Assess.pdf