15/3/22
Mae rhaglen Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Caerdydd i wella goleuadau stryd, camerâu teledu cylch cyfyng a mesurau eraill eisoes yn cael effaith gadarnhaol ar droseddu.
Yr haf diwethaf, dyfarnwyd £432,000 i'r grŵp - sy'n cael ei arwain gan Gyngor Caerdydd a'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu ac sy'n cynnwys partneriaid allweddol fel C3SC, BIP Caerdydd a'r Fro a phlismona gweithredol - o gronfa Strydoedd Diogelach y Swyddfa Gartref, gyda'r bwriad o helpu cymunedau i fynd i'r afael â throseddau cymdogaeth fel byrgleriaeth, dwyn cerbydau a lladrad.
Defnyddiwyd yr arian i brynu 20 o gamerâu teledu cylch cyfyng a gosod goleuadau LED gwell a cyflwyno gwelliannau diogelwch eraill yn ardaloedd Grangetown a Butetown.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Dai a Chymunedau, y Cyng. Lynda Thorne: "Yn y tanffyrdd lle rydym wedi gosod goleuadau LED mar sbwriel cyffuriau wedi gostwng am yr ail fis o'i gymharu â blynyddoedd blaenorol ac yng ngham cyntaf ymgyrch Crimestoppers, sydd wedi bod ar waith yn yr ardal ochr yn ochr â'r gwelliannau hyn, bu cynnydd o 9% mewn adroddiadau (yn erbyn gostyngiad o 29% yng ngweddill Cymru) a 2,301 o ymatebion i'r cyfryngau cymdeithasol, bob un yn gadarnhaol."
Nawr, cyn ail gam ymgyrch Crimestoppers, a lansiwyd ddydd Llun, 14 Mawrth, mae'r Bartneriaeth Diogelwch wedi datgelu bod ei mesurau diogelwch yn yr ardal yn cynnwys:
Mae ymgyrch Crimestoppers yn defnyddio hysbysebion ar y cyfryngau cymdeithasol i annog pobl i siarad am droseddu drwy ffonio rhif rhadffôn (0800 555 111) sydd ar gael bob awr o bob dydd. Mae'r gwasanaeth yn gwbl ddienw ac mae ar gael mewn hyd at 140 o ieithoedd.
Dywedodd y Cynghorydd Thorne: "Rydym wedi gweithio'n agos gyda phobl Butetown a Grangetown o ran y mesurau hyn ac maen nhw bellach yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol o ran atal trosedd meddiangar a throseddau eraill rhag effeithio'n andwyol ar yr ardaloedd hyn a'n trigolion.
"Ond mewn ardaloedd eraill hefyd, fel Stryd Clifton yn Adamsdown, rydym wedi buddsoddi mewn uwchraddio camerâu teledu cylch cyfyng uwch-dechnoleg i roi tystiolaeth a gwybodaeth y mae mawr eu hangen ar yr heddlu lleol i dargedu gweithgarwch sy'n gysylltiedig â throsedd. Mae hyn wedi cael effaith fawr ar deimladau o ddiogelwch i'r gymuned."
Dywedodd Alun Michael, Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru:
"Mae lleihau ac atal troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol er mwyn cadw pobl yn ddiogel ac yn hyderus yn eu cartrefi a'u cymunedau yn un o flaenoriaethau allweddol Heddlu De Cymru a'r Cynllun Troseddu. Felly, rwy'n hynod falch bod trigolion lleol eisoes yn gallu gweld a theimlo'r gwahaniaeth y mae'r £432,000, a gafwyd gan Gronfa Strydoedd Diogelach y Swyddfa Gartref, yn ei wneud i ardaloedd Grangetown a Butetown.
"Roedd llais y gymuned yn gwbl hanfodol yn ein cais llwyddiannus i sicrhau'r cyllid hwn ac mae eu hymwneud parhaus wedi ein galluogi i sicrhau bod ein hymyriadau a'n dull gweithredu wedi'u targedu yn yr ardaloedd a fydd yn cael yr effaith fwyaf ar eu teimladau o ddiogelwch a hyder.
"Mae'r canlyniadau a gyflawnwyd hyd yma yn dyst i drefniadau cryf y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol rydym wedi gweithio gyda'n gilydd i'w datblygu yng Nghaerdydd, gan weithio'n gyflym i fynd i'r afael â phryderon a chanolbwyntio ar sicrhau bod gwelliannau yn rhai hirdymor a chynaliadwy."
Dywedodd Comander Rhanbarthol Caerdydd, y Prif Uwch-arolygydd Wendy Gunney: "Mae'r buddsoddiad parhaus yn Butetown a Grangetown gan Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Caerdydd i'w groesawu'n fawr.
"Mae'r gwelliannau i oleuadau LED a Theledu Cylch Cyfyng yn helpu i greu amgylchedd mwy diogel fyth ac yn gwneud i drigolion ac ymwelwyr deimlo'n fwy hyderus i fwrw ymlaen â'u busnes bob dydd gobeithio.
"Byddwn yn parhau i weithio gyda'r awdurdod lleol i fynd i'r afael â throseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, a gyda'n patrolau targedig ein hunain, i sicrhau'r gymuned bod eu diogelwch a'u lles parhaus wrth wraidd popeth a wnawn."