Back
Cynnydd yn nifer y cŵn sydd angen eu hailgartrefu wrth i berchnogion ddychwelyd i'r gwaith ar ôl y pandemig

Mae Cartref Cŵn Caerdydd yn profi cynnydd yn nifer y cŵn sydd angen eu hailgartrefu wrth i berchnogion a brynodd gŵn yn ystod y pandemig ddychwelyd i'r gwaith, a darganfod nad oes ganddynt yr amser sydd ei angen i ofalu'n iawn am eu hanifeiliaid anwes.

Ar hyn o bryd mae mwy na 50 o gŵn yn derbyn gofal yn y cartref, mae nifer o gŵn yn cael eu maethu gan wirfoddolwyr tra bo'r cytiau cŵn yn llawn, ac mae rhestr aros ar waith wrth i fwy o gŵn aros i le yn y cartref fod ar gael.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd, y Cynghorydd Michael Michael: "Mae'r holl gŵn sydd dan ein gofal yn derbyn gofal da, ond mae'n drist gweld cymaint ohonyn nhw'n dod drwy ein drysau.   Mae gofalu am gi yn ymrwymiad mawr, mae angen llawer o ofal a sylw ar gi.  Yn ystod y pandemig, penderfynodd llawer o berchnogion newydd gael anifeiliaid anwes ac yn anffodus nawr, wrth i fywyd ddechrau dychwelyd i'r arfer, nid oes ganddynt yr amser i ofalu amdanynt yn iawn.

"Byddem wrth ein bodd yn dod o hyd i gartref am byth i bob un ohonom a byddem yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn ailgartrefu ci i gysylltu â ni drwy wefan Cartref Cŵn Caerdydd fel y gallwn ddechrau'r broses o'u paru â pherchnogion addas."

I gael gwybod mwy, a gweld rhai o'r cŵn sydd ar gael i'w hailgartrefu ar hyn o bryd, ewch i:https://www.cardiffdogshome.co.uk/cy/